Cofnodion:
a) Estynnodd y Cynghorydd Ifan
Davies ei gydymdeimlad â theulu Mr Dai Lloyd Evans, cyn arweinydd Cyngor
Ceredigion a Chynghorydd dros sawl degawd. Bu i’r Cynghorwyr Bryan Davies a
Keith Evans hefyd gydymdeimlo â’r teulu gan dalu teyrnged i Mr Dai Lloyd Evans;
Cafwyd munud o dawelwch i gofio amdano.
b) Diolchodd y Cynghorydd Paul Hinge
i Vernon Jones, Clerc ei Gyngor Cymuned lleol a fyddai’n rhoi’r gorau iddi ar
ôl rhoi 52 o flynyddoedd o wasanaeth cyhoeddus;
c) Llongyfarchodd y Cynghorydd Carl
Worrall Daphne Muriel Day ar ddathlu ei phen-blwydd yn gant oed.
d) Estynnodd y Cynghorydd Keith
Evans ei gydymdeimlad â theulu Emlyn Watkin, cyn Bennaeth Cyllid Cyngor Sir
Ceredigion;
e) Llongyfarchodd y Cynghorydd Keith
Evans Ella Davies, Llandysul ar ddathlu ei phen-blwydd yn gant oed.
f) Llongyfarchodd y Cynghorydd Ann
Bowen Morgan gangen Llanbedr Pont Steffan o Ferched y Wawr ar ddathlu ei
phen-blwydd yn 50 oed;
g) Llongyfarchodd y Cynghorydd Ann
Bowen Morgan Gyngor Tref Llanbedr Pont Steffan a’r Brifysgol yn Llanbedr Pont
Steffan am sefydlu Gwobr Goffa Hag Harris;
h) Llongyfarchodd y Cynghorydd
Maldwyn Lewis aelodau Clwb Bowlio Rhydlewis am eu llwyddiant ar gyrraedd brig y
gynghrair ac am gynrychioli Ceredigion a Chymru;
i) Llongyfarchodd y Cynghorydd
Rhodri Evans Ann Jones ar gael ei phenodi’n Ddirprwy Raglaw dros Geredigion.
j) Llongyfarchodd y Cynghorydd
Rhodri Evans Sion Davies, disgybl yn Ysgol Henry Richard a fyddai’n cynrychioli
Tîm Dartiau Cymru yn Gibraltar;
k) Llongyfarchodd y Cynghorydd
Catrin M S Davies Gwyneth Keyworth am ennill gwobr y Perfformiwr Cefnogol Gorau
mewn drama theatr yng Ngwobrau WhatsOnStage am ei rôl yn To Kill a
Mockingbird;
l) Diolchodd y Cynghorydd Catrin M
S Davies i bob un a gynorthwyodd i sicrhau bod Cystadleuaeth Hanner Awr
Adloniant y Clybiau Ffermwyr Ifanc yn llwyddiant ysgubol;
m) Llongyfarchodd y Cynghorydd Catrin M S Davies Beca Williams am ennill
gwobr yr Actores Orau yng Nghystadleuaeth Hanner Awr Adloniant y Clybiau
Ffermwyr Ifanc;
n) Llongyfarchodd y Cynghorydd
Catrin M S Davies Dafydd Williams am ennill gwobr yr Actor Gorau yn y categori
dan 16 oed yng Nghystadleuaeth Hanner Awr Adloniant y Clybiau Ffermwyr Ifanc;
o) Llongyfarchodd y Cynghorydd Catrin M S Davies Elen Pencwm am ennill
gwobr y Cynhyrchydd Gorau yng Nghystadleuaeth Hanner Awr Adloniant y Clybiau
Ffermwyr Ifanc;
p) Llongyfarchodd y Cynghorydd Eryl
Evans Glwb Ffermwyr Ifanc Bro Dderi am eu llwyddiant yng Nghystadleuaeth Hanner
Awr Adloniant y Clybiau Ffermwyr Ifanc;
q) Llongyfarchodd y Cynghorydd Eryl Evans Elliw Dafydd am ennill gwobr y
Cynhyrchydd Gorau yng Nghystadleuaeth Hanner Awr Adloniant y Clybiau Ffermwyr
Ifanc;
r) Llongyfarchodd y Cynghorydd Eryl
Evans Betrys Davies am ennill gwobr yr Actores Orau yn y categori dan 16 oed
yng Nghystadleuaeth Hanner Awr Adloniant y Clybiau Ffermwyr Ifanc;
s) Llongyfarchodd y Cynghorydd Eryl
Evans Martha Thomas am ennill y drydedd wobr yng nghategori’r Actores Orau o
dan 16 oed yng Nghystadleuaeth Hanner Awr Adloniant y Clybiau Ffermwyr Ifanc;
t) Llongyfarchodd y Cynghorydd Eryl
Evans Ifan Meredith a Gruffydd Davies am ddod yn gydradd drydydd yng
nghategori’r Actor Gorau o dan 16 oed yng Nghystadleuaeth Hanner Awr Adloniant
y Clybiau Ffermwyr Ifanc;
u) Llongyfarchodd y Cynghorydd Eryl
Evans Lowri Elen am ennill gwobr yr Actores Orau dros 16 oed yng
Nghystadleuaeth Hanner Awr Adloniant y Clybiau Ffermwyr Ifanc;
v) Llongyfarchodd y Cynghorydd Eryl
Evans Gapel Ebenezer, Llangybi am ddathlu 250 o flynyddoedd;
w) Llongyfarchodd y Cynghorydd Keith Henson Ronald H Thomas am roi 48 o
flynyddoedd o wasanaeth i Gyngor Sir Ceredigion a dymunodd yn dda iddo ar ei
ymddeoliad;
x) Estynnodd y Cynghorydd Amanda
Edwards ei chydymdeimlad â theulu Margaret Symmonds, a fu’n gweithio ar ran y
Cyngor mewn gorsafoedd pleidleisio rhwng 2005 a 2022 ac yn cynorthwyo â’r
gwaith canfasio;
y) Llongyfarchodd y Cynghorydd
Gareth Lloyd bob un o’r Clybiau Ffermwyr Ifanc am eu llwyddiant yn y
Gystadleuaeth Hanner Awr Adloniant ac yn arbennig Clwb Ffermwyr Ifanc Pontsian
a dymunodd yn dda i’r clwb wrth symud ymlaen i’r rownd nesaf;
z) Llongyfarchodd y Cynghorydd
Gareth Lloyd Sion Wyn Evans ac Endaf Griffiths ar gael eu penodi’n Aelod Hŷn
ac Aelod Iau newydd y Ffermwyr Ifanc yng Ngheredigion a diolchodd i Sioned
Davies a Caryl Davies, yr aelodau a fyddai’n rhoi’r gorau i’r rolau hyn, am eu holl waith;
aa) Llongyfarchodd y Cynghorydd Wyn Evans aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc
Lledrod am eu hymdrechion, ac yn arbennig Emrys Jones am ennill yr ail wobr yng
nghategori’r actor gorau yng Nghystadleuaeth Hanner Awr Adloniant y Clybiau
Ffermwyr Ifanc;
bb) Llongyfarchodd y Cynghorydd Ifan Davies Gylch Meithrin
Pontrhydfendigaid ar dderbyn adroddiad rhagorol yn dilyn Arolygiad gan Estyn.
Gwahoddwyd y Cylch Meithrin i baratoi astudiaeth achos o arferion gorau fel y
gellid ei rhannu â holl gylchoedd y Mudiad Meithrin ledled Cymru.