Lleoliad: remotely - VC
Cyswllt: Dana Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: |
|
Materion Personol Cofnodion: Dim. |
|
Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu Cofnodion: |
|
Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2022-23 PDF 840 KB Cofnodion: Ystyriwyd y diweddariad am Ddatganiad Llywodraethu Blynyddol 2022-23. Nid oedd dim newidiadau wedi’u gwneud i’r
Datganiad ers iddo gael ei
ystyried yn y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 24 Ionawr 2024. Dywedwyd y byddai Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2022-23 yn cael ei gyflwyno
gerbron y Cyngor Llawn yn ddiweddarach y prynhawn hwnnw fel y gellid ei
gymeradwyo. CYTUNWYD i: i)
nodi ac
ystyried ei gynnwys; ac ii)
argymell bod y
Cyngor yn cymeradwyo Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2022-23. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol – Cyllid a Chaffael Ddatganiadau Cyfrifon Cyngor Sir
Ceredigion ac Awdurdod Harbwr
Ceredigion ar gyfer 2022/23
gan dynnu sylw at faterion gweithdrefnol a chyflwyniadol. Cafwyd sylwadau a chwestiynau gan y Pwyllgor am rai materion yn y cyfrifon. Diolchodd yr Aelodau i’r Swyddog
Arweiniol Corfforaethol – Cyllid a Chaffael a’r Rheolwr Corfforaethol
- Cyllid Craidd a’u staff am eu gwaith caled wrth
baratoi’r Datganiad. CYTUNWYD argymell i’r Cyngor gymeradwyo Datganiad Cyfrifon Cyngor Sir
Ceredigion a Datganiad Cyfrifon
Awdurdod Harbwr Ceredigion ar gyfer 2022/23 fel y’u cyflwynwyd
gan nodi y byddai’r Cadeirydd yn cyflwyno
argymhelliad y Pwyllgor gerbron y Cyngor y prynhawn hwnnw. |
|
Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd Mr
Derwyn Owen o Archwilio Cymru i’r
cyfarfod i gyflwyno’r adroddiad. Tynnodd Mr Owen sylw’r Aelodau at y wybodaeth a oedd wedi’i
chynnwys yn yr adroddiad. Cafodd
y Swyddog Arweiniol Corfforaethol - Cyllid a Chaffael a’i swyddogion
eu llongyfarch am eu gwaith wrth
gwblhau’r archwiliad. Rhoddodd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol – Cyllid a Chaffael drosolwg o’r cynllun
a oedd ar
waith i fynd
i’r afael â’r materion Sylweddol
Eraill a oedd yn codi o’r
archwiliad. Esboniodd Mr Owen fod Archwilio Cymru yn bwriadu cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar gyfrifon 2021-22, unwaith y byddai’r Awdurdod Lleol wedi darparu Llythyr
Cynrychiolaeth iddyn nhw ar ôl
cyfarfod y Cyngor Llawn yn ddiweddarach y prynhawn hwnnw. Diolchodd Aelodau’r Pwyllgor i bawb
oedd yn ymwneud
â’r mater, i Swyddogion y Cyngor ac i Archwilio Cymru am y cydweithrediad
a ddangoswyd wrth archwilio’r cyfrifon, gan groesawu adroddiad
a oedd yn
gadarnhaol iawn. CYTUNWYD: i)
i
nodi cynnwys yr adroddiad;
ii)
i
longyfarch y gwasanaeth am yr adroddiad rhagorol; a iii)
y byddai adroddiad cynnydd ynglŷn â mynd i’r afael
â’r materion Sylweddol Eraill a oedd yn codi
o’r archwiliad yn cael ei
gynnwys ar Flaenraglen Waith y Pwyllgor. |