Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Lisa Evans
Rhif | Eitem | |
---|---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion:
|
||
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Dim. |
||
Diweddariad ar waith ac effaith Partneriaid Addysg Canolbarth Cymru (PACC) PDF 281 KB Cofnodion:
|
||
Cytundeb Partneriaeth rhwng yr ALl a'r Ysgolion 2024-27 PDF 76 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu i’r Aelod o’r Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, y
Cynghorydd Wyn Thomas, gyflwyno’r adroddiad ynghyd â’r Swyddog Arweiniol
Corfforaethol: Ysgolion a Dirprwy Brif Swyddog Addysg. Hysbyswyd yr Aelodau fod
Adran 197 o Ddeddf Addysg 2002 yn ddarpariaeth ar gyfer Cymru’n unig, sy’n
rhoi’r pŵer i Lywodraeth Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol
wneud cytundeb partneriaeth gyda chorff llywodraethu pob ysgol a gynhelir gan
yr awdurdod. Pwrpas y Cytundeb Partneriaeth yw gwella a chynnal gwaith
partneriaeth rhwng yr Awdurdod Lleol ac ysgolion. Ar hyn o bryd mae’r Cytundeb Partneriaeth yn nodi’r trefniadau ar gyfer
adolygu’r cytundeb a rhaid iddo gael ei adolygu bob tair blynedd. Roedd y Cytundeb Partneriaeth arfaethedig rhwng yr Awdurdod Lleol a’r
ysgolion yn rhedeg o Fedi 2024 tan Awst 2027. Cafodd y Cytundeb Partneriaeth ei
gynnwys ar ffurf Atodiad A i’r adroddiad. Gellir crynhoi’r prif newidiadau i’r ddogfen fel y ganlyn: ·
Newidiadau i derminoleg e.e.
Dysgu Sylfaen/ Anghenion Dysgu Ychwanegol ·
Newidiadau i ddadansoddi
cynnydd disgyblion yng ngoleuni’r Cwricwlwm i Gymru ·
Cynllun Trawsnewid wedi ei
addasu yng ngoleuni’r pwyslais ar 3-16 yn y Cwricwlwm i Gymru ·
Gwybodaeth ychwanegol o ran
Iechyd a Diogelwch a materion yswiriant ·
Mae dyletswyddau Cyrff
Llywodraethu wedi’u diweddaru i adlewyrchu Canllaw Llywodraeth Cymru ar y
gyfraith ·
Mae rheoliadau diogelu data
wedi’u diweddaru i gyfeirio at reoliadau’r DU yn hytrach na’r rheoliadau Ewropeaidd
blaenorol. Rhoddwyd diweddariad hefyd gan y Prif Swyddog Addysg ar yr hyfforddiant
a'r gweithdrefnau a oedd wrthi’n cael eu hadolygu gan yr Awdurdod yn dilyn y
digwyddiad brawychus yn Ysgol Dyffryn Aman, Rhydaman yn ddiweddar. CYTUNWYD i argymell y Cytundeb Partneriaeth rhwng yr Awdurdod Lleol a’r
Ysgolion 2024-27 i'r Cabinet i’w gymeradwyo.
|
||
Diweddariad - Sgiliau Bywyd Sgiliau Gwaith a Lluosi PDF 261 KB Cofnodion: Bu i’r Aelod o’r
Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, y Cynghorydd Wyn Thomas,
gyflwyno’r adroddiad ynghyd â’r Rheolwr
Corfforaethol - Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. Rhoddwyd diweddariad i’r Aelodau ar
Sgiliau Bywyd, Sgiliau Gwaith a Lluosi. Cyflwynwyd cefndir y prosiect ynghyd â’r sefyllfa bresennol,
fel a ganlyn: Ar hyn o bryd mae Sgiliau
Bywyd Sgiliau Gwaith yn darparu ystod
o gymwysterau achrededig lefel 1 a lefel 2 ar gyfer dysgwyr
blwyddyn 10 ac 11. Yn ystod
blwyddyn academaidd
2022/2023 cyflawnodd 72 o ddysgwyr
achrediadau a mynychodd 81
o ddysgwyr y Cwricwlwm
Amgen o bob un o'r saith Ysgol Uwchradd
/ Ysgolion Gydol Oed yng Ngheredigion
a'r Uned Cyfeirio Disgyblion. Cynigiwyd lleoliadau profiad gwaith i 36 o ddysgwyr. Dyma’r cyrsiau a oedd yn cael
eu darparu ar hyn o bryd
gan brosiect Sgiliau Bywyd Sgiliau Gwaith: Lluosi Mae dros 170 o ddysgwyr unigol wedi ymgymryd
â’r prosiect Lluosi hyd yma,
gyda rhai yn cymryd rhan
mewn sawl cyfle i ddysgu. Gweler isod y gweithgareddau Ymgysylltu, gweithgareddau Dysgu a'r gweithgareddau cyhoeddusrwydd a oedd ar waith ar
gyfer y prosiect Lluosi. Estynnodd y Rheolwr Corfforaethol Dysgu Gydol Oes a Sgiliau wahoddiad i’r Pwyllgor
ymweld â Hyfforddiant
Ceredigion yn Aberystwyth. Cytunodd
yr Aelodau, a chaiff dyddiad ei drefnu ar
gyfer yr ymweliad. CYTUNWYD i nodi'r sefyllfa bresennol yn amodol
ar dderbyn diweddariad mewn cyfarfod yn y dyfodol
ar effaith lleihau cyllid ar y cyrsiau a ddarperir . |
||
Cofnodion Cyfarfod Cyngor Ieuenctid Ceredigion (02.02.24 a 20.03.24) PDF 110 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: CYTUNWYD i nodi cofnodion cyfarfodydd Cyngor Ieuenctid
Ceredigion fel y’u cyflwynwyd, er gwybodaeth. |
||
Diweddariad Ffrwd Waith Trosolwg a Chraffu Cymunedau Dysgu PDF 3 MB Cofnodion: CYTUNWYD i nodi gwaith y Ffrydiau Gwaith, fel y’i cyflwynwyd. |
||
Ethol Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn fwrdeistrefol 2024/25, gan ddechrau ar 17 Mai 2024. Cofnodion: PENDERFYNWYD penodi'r
Cynghorydd Caryl Roberts yn
Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn fwrdeistrefol 2024/25, gan ddechrau ar 17 Mai 2024. |
||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: CYTUNWYD i gadarnhau bod Cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor yn gywir. Materion yn codi Dim |
||
I ystyried Blaenraglen Waith Ddrafft PDF 88 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: CYTUNWYD i nodi’r Flaenraglen Waith Ddrafft fel y’i
cyflwynwyd. |