Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Lisa Evans
Rhif | eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y
Cynghorwyr Euros Davies a Rhodri Davies am na fedrent ddod i’r cyfarfod. Ymddiheurodd y Cynghorydd
Elizabeth Evans am na fedrai ddod i’r cyfarfod gan ei bod ar ddyletswyddau
eraill ar ran y Cyngor. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Dim. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Canlyniadau TGAU a Safon Uwch 2023 (Diweddariad) PDF 122 KB Cofnodion: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet dros Ysgolion,
Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, sef y Cynghorydd Wyn Thomas. Adroddwyd bod y
Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu wedi cael trosolwg o
ganlyniadau Ceredigion yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Medi 2023. Erbyn hyn,
roedd y data swyddogol ar gael oddi wrth Lywodraeth Cymru, a chyflwynwyd y data
hwnnw yn yr adroddiad. Roedd y data cenedlaethol hefyd ar gael ac roedd y
Pwyllgor yn awyddus i weld y gymhariaeth. Byddai’r data terfynol ar gael ym mis
Rhagfyr, felly nodwyd mai data dros dro yn unig a gyflwynwyd. Roedd y set o ddata a gyhoeddwyd gan
Lywodraeth Cymru o ran canlyniadau wedi lleihau tipyn dros y blynyddoedd. Erbyn
hyn, roeddent yn cyhoeddi sgoriau pwyntiau yn unig. Roedd y data TGAU swyddogol yn edrych ar y
“radd gyntaf” yn hytrach na’r “radd orau”. Er enghraifft os oedd disgybl yn
cael “C” ym mis Tachwedd ac yna’n ail-sefyll ac yn cael “A” yn yr haf, y radd
“C” fyddai’n cael ei chynnwys. Yn lleol roeddem yn rhoi’r sgoriau
pwyntiau “gradd orau” i’r ysgolion er mwyn dangos yn well pa gymwysterau roedd
y disgyblion yn eu hennill ar ddiwedd Blwyddyn 11.
O
ran y data Safon Uwch, roedd data cenedlaethol ar gael ar gyfer A*-B ac A*-C ac
ychwanegwyd y rhain at y tabl isod er gwybodaeth.
Yn dilyn cwestiynau o’r llawr ynghylch y fethodoleg a ddefnyddir i gasglu’r
data gan Lywodraeth Cymru, CYTUNWYD i nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnodion: Cyflwynwyd yr adroddiad ynghylch y Cymwysterau ar gyfer disgyblion 14-16
oed gan yr Aelod Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, sef y
Cynghorydd Wyn Thomas. Nododd fod Cymwysterau Cymru’n edrych ar gymwysterau ar
gyfer disgyblion rhwng 14 ac 16 mlwydd oed. Nod ‘Cymwys ar gyfer y Dyfodol’ oedd sicrhau bod dysgwyr Cymru’n dilyn
cymwysterau sy’n eu hysbrydoli ac yn eu paratoi ar gyfer bywyd, dysgu a gwaith.
Er mwyn gwneud hyn, roedd Cymwysterau Cymru’n ail-ddychmygu cymwysterau i
gefnogi’r Cwricwlwm newydd i Gymru. Bwriad ‘Cymwys ar gyfer y Dyfodol’ oedd:
Roedd y sefydliad
wedi gweithredu model o ddatblygu ar y cyd ac wedi cynnal dau ymgynghoriad. Cynhaliwyd dau
ymgynghoriad yn ystod y flwyddyn ddiweddaf. Roedd y papur hwn yn ystyried
penderfyniadau’r ymgynghoriad ynghylch TGAU Gwneud-i-Gymru. Rhwng mis Hydref
2022 a mis Mawrth 2023 cynhaliwyd ymgynghoriad helaeth ar y cynigion ar gyfer y
TGAU Gwneud-i-Gymru. Ymgynghorwyd ar y cynigion ar gyfer 26 cymhwyster newydd,
a oedd wedi’u grwpio o dan y chwe Maes Dysgu a Phrofiad. Darparodd yr
Ymgynghorydd Cefnogi Ysgolion ragor o wybodaeth am y cynnig hwn mewn cyflwyniad
PowerPoint.
Yn ogystal â’r
uchod, cynhaliwyd ymgynghoriad ynghylch y cynnig llawn o gymwysterau, a oedd yn
cynnwys rhai galwedigaethol a chyn-alwedigaethol. Tra bod yr uchod yn ystyried
pynciau mwy traddodiadol, roedd y cynnig llawn yn ystyried pob math o
gymwysterau. Byddai’r cymwysterau hyn yn sefyll ochr yn ochr â’r cymwysterau
TGAU. Byddai hyn yn darparu cymwysterau a fyddai’n cefnogi ehangder y Cwricwlwm
i Gymru ac yn paratoi dysgwyr ar gyfer bywyd a gwaith. Byddai canfyddiadau’r
ymgynghoriad yn cael eu cyhoeddi ym mis Ionawr 2024. CYTUNWYD i nodi’r
sefyllfa bresennol. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnodion Cyfarfod Cyngor Ieuenctid Ceredigion (20.10.23) PDF 116 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: CYTUNWYD i nodi cofnodion cyfarfod Cyngor Ieuenctid Ceredigion. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Diweddariad ynghylch y ddarpariaeth Gofal Plant yn Llanbedr Pont Steffan PDF 140 KB Cofnodion: Roedd Adroddiad
Cynnydd Blwyddyn 1 yr Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant a gyflwynwyd i’r
Pwyllgor Craffu ym mis Gorffennaf 2023 yn tynnu sylw at y diffyg gofal plant yn
Llanbedr Pont Steffan. Roedd hyn yn bryder o ran cefnogi ymrwymiad Llywodraeth
Cymru i ehangu’r hawl i ofal plant Dechrau’n Deg a oedd yn cynnig 12.5 awr yr
wythnos i blant 2-3 oed yn y dref. Yn dilyn y
cytundeb i ehangu gofal plant wedi’i ariannu drwy’r rhaglen Dechrau’n Deg i
blant 2 oed yng Nghymru, cynhaliodd Ceredigion ymarfer cwmpasu sylweddol i
nodi’r ardaloedd ar gyfer ehangu. Ar ôl cyflwyno cynllun busnes i Lywodraeth
Cymru, cytunwyd i gynnwys yr Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (LSOAs) canlynol yn y cynllun ehangach a ddechreuodd ym mis
Ebrill 2023: • Llanbedr Pont Steffan 1 a 2 • Tregaron • Ceinewydd • Lledrod • Llangeitho • Y Borth • Ceulanamaesmawr Llanbedr Pont Steffan oedd
yr unig dref heb Gylch Meithrin neu ddarpariaeth gofal plant sesiynol i blant
2-4 oed. Roedd llawer o blant 3 oed yn dechrau’r ysgol (bore yn unig) heb fod
wedi mynychu unrhyw fath o ofal plant. Er bod LSOA 1 a
2 Llanbedr Pont Steffan wedi’u cymeradwyo ar gyfer ehangu, nid oedd nifer y
lleoedd gofal plant a oedd ar gael yn ateb y galw, felly nid oedd modd i lawer
o blant gael mynediad i ofal plant cymwys. Yn Llanbedr Pont Steffan roedd un
feithrinfa ddydd breifat gofrestredig ar gyfer 36 o blant, a 3 gwarchodwr plant
a oedd yn cynnig 22 o leoedd. Ar y pryd, roedd yr holl ddarparwyr yn llawn ac
nid oeddent yn gallu derbyn rhagor o blant a fyddai’n gymwys am y 12.5 awr yr
wythnos o ofal plant a ariennir drwy Dechrau’n Deg. Prif
amcanion ehangu Dechrau’n Deg oedd: • sicrhau bod plant yn cael y
dechrau gorau posibl mewn bywyd; • mynd i’r afael â thlodi ac
amddifadedd; a • chynyddu’r gwasanaethau gofal
plant, a’r lleoedd a’r lleoliadau gofal plant cyfrwng Cymraeg a ddarperir. Ar y pryd roedd
19 o blant yn gymwys i gael gofal plant Dechrau’n Deg yn ardal 1 a 2 Llanbedr
Pont Steffan. Fodd bynnag, gallai’r Awdurdod Lleol ond ariannu lleoedd ar gyfer
10 o blant gan nad oedd digon o leoedd gwag ar gael. Cynhaliwyd sgyrsiau ac
ymholiadau cychwynnol gyda’r Feithrinfa Ddydd breifat ynghylch ehangu. Yn dilyn
penderfyniad y Feithrinfa Ddydd i beidio ag ehangu ei gwasanaeth oherwydd
ystyriaethau gyda’r safle, roedd swyddogion Dechrau’n Deg wedi bod yn gweithio
gyda Mudiad Meithrin i ymchwilio i’r potensial o sefydlu Cylch Meithrin newydd
yn Llanbedr Pont Steffan. Bu’n anodd dod o hyd i leoliad addas i gynnal Cylch Meithrin / gofal plant sesiynol oherwydd yr angen i ddilyn rheoliadau Arolygiaeth Gofal Cymru / y Safonau Gofynnol Cenedlaethol. Fodd bynnag, roedd cynnydd yn cael ei wneud. Roedd trafodaethau’n mynd rhagddynt i sefydlu Cylch Meithrin naill ai yng nghwt y Sgowtiaid yn Llanbedr Pont Steffan neu o bosib yn Ysgol Bro Pedr. Nod y Cylch oedd agor ym mis Ionawr ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Y diweddaraf am Ffrydiau Gwaith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy'n Dysgu PDF 156 KB Cofnodion: CYTUNWYD i nodi’r
adroddiad ynghylch y ffrwd waith a gynhaliwyd yng Nghwrtnewydd.
Diolchodd yr Aelodau a oedd yn bresennol yn y ffrwd waith i’r Swyddogion am y
cyfle i weld y cyfleusterau yng Nghwrtnewydd a’r
cyfle i arsylwi’r addysgu a siarad â’r disgyblion. Roedd yr ymweliad yn un
gwerth chweil. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnodion: CYTUNWYD i gadarnhau bod
cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor yn rhai cywir. Materion yn Codi Dim. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
I ystyried Blaenraglen Waith Ddrafft PDF 87 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: CYTUNWYD
i nodi’r Flaenraglen Waith Ddrafft fel y’i cyflwynwyd yn amodol ar drefnu cyfarfod arall pe
bai angen cyn y cyfnod cyn-etholiad ym mis Mai. |