Cofnodion:
Roedd Adroddiad
Cynnydd Blwyddyn 1 yr Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant a gyflwynwyd i’r
Pwyllgor Craffu ym mis Gorffennaf 2023 yn tynnu sylw at y diffyg gofal plant yn
Llanbedr Pont Steffan. Roedd hyn yn bryder o ran cefnogi ymrwymiad Llywodraeth
Cymru i ehangu’r hawl i ofal plant Dechrau’n Deg a oedd yn cynnig 12.5 awr yr
wythnos i blant 2-3 oed yn y dref.
Yn dilyn y
cytundeb i ehangu gofal plant wedi’i ariannu drwy’r rhaglen Dechrau’n Deg i
blant 2 oed yng Nghymru, cynhaliodd Ceredigion ymarfer cwmpasu sylweddol i
nodi’r ardaloedd ar gyfer ehangu. Ar ôl cyflwyno cynllun busnes i Lywodraeth
Cymru, cytunwyd i gynnwys yr Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (LSOAs) canlynol yn y cynllun ehangach a ddechreuodd ym mis
Ebrill 2023:
• Llanbedr Pont Steffan 1 a 2
• Tregaron
• Ceinewydd
• Lledrod
• Llangeitho
• Y Borth
• Ceulanamaesmawr
Llanbedr Pont Steffan oedd
yr unig dref heb Gylch Meithrin neu ddarpariaeth gofal plant sesiynol i blant
2-4 oed. Roedd llawer o blant 3 oed yn dechrau’r ysgol (bore yn unig) heb fod
wedi mynychu unrhyw fath o ofal plant.
Er bod LSOA 1 a
2 Llanbedr Pont Steffan wedi’u cymeradwyo ar gyfer ehangu, nid oedd nifer y
lleoedd gofal plant a oedd ar gael yn ateb y galw, felly nid oedd modd i lawer
o blant gael mynediad i ofal plant cymwys. Yn Llanbedr Pont Steffan roedd un
feithrinfa ddydd breifat gofrestredig ar gyfer 36 o blant, a 3 gwarchodwr plant
a oedd yn cynnig 22 o leoedd. Ar y pryd, roedd yr holl ddarparwyr yn llawn ac
nid oeddent yn gallu derbyn rhagor o blant a fyddai’n gymwys am y 12.5 awr yr
wythnos o ofal plant a ariennir drwy Dechrau’n Deg.
Prif
amcanion ehangu Dechrau’n Deg oedd:
• sicrhau bod plant yn cael y
dechrau gorau posibl mewn bywyd;
• mynd i’r afael â thlodi ac
amddifadedd; a
• chynyddu’r gwasanaethau gofal
plant, a’r lleoedd a’r lleoliadau gofal plant cyfrwng Cymraeg a ddarperir.
Ar y pryd roedd
19 o blant yn gymwys i gael gofal plant Dechrau’n Deg yn ardal 1 a 2 Llanbedr
Pont Steffan. Fodd bynnag, gallai’r Awdurdod Lleol ond ariannu lleoedd ar gyfer
10 o blant gan nad oedd digon o leoedd gwag ar gael. Cynhaliwyd sgyrsiau ac
ymholiadau cychwynnol gyda’r Feithrinfa Ddydd breifat ynghylch ehangu. Yn dilyn
penderfyniad y Feithrinfa Ddydd i beidio ag ehangu ei gwasanaeth oherwydd
ystyriaethau gyda’r safle, roedd swyddogion Dechrau’n Deg wedi bod yn gweithio
gyda Mudiad Meithrin i ymchwilio i’r potensial o sefydlu Cylch Meithrin newydd
yn Llanbedr Pont Steffan.
Bu’n anodd dod o
hyd i leoliad addas i gynnal Cylch Meithrin / gofal plant sesiynol oherwydd yr
angen i ddilyn rheoliadau Arolygiaeth Gofal Cymru / y Safonau Gofynnol
Cenedlaethol. Fodd bynnag, roedd cynnydd yn cael ei wneud. Roedd trafodaethau’n
mynd rhagddynt i sefydlu Cylch Meithrin naill ai yng nghwt y Sgowtiaid yn
Llanbedr Pont Steffan neu o bosib yn Ysgol Bro Pedr. Nod y Cylch oedd agor ym
mis Ionawr fel lleoliad anghofrestredig i ddechrau, a oedd yn golygu y byddai’r
plant ond yn gallu cael mynediad i’r ddarpariaeth am lai na dwy awr, gyda’r
bwriad o gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru erbyn mis Ebrill 2024.
Adroddwyd y
byddai cyfarfod yn cael ei gynnal ar 07 Rhagfyr rhwng y Swyddogion a Llywodraethwyr
Ysgol Bro Pedr i drafod, a’r gobaith oedd y byddai penderfyniad terfynol yn
cael ei wneud ynghylch lleoliad y Cylch Meithrin yn yr ysgol.
CYTUNWYD i
nodi’r adroddiad er gwybodaeth ac y byddai diweddariadau pellach yn cael eu
cyflwyno i’r Pwyllgor fel rhan o Adroddiad Cynnydd Blwyddyn 2 yr Asesiad o
Ddigonolrwydd Gofal Plant.
Dogfennau ategol: