Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Lisa Evans
Rhif | eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y Cynghorydd Paul Hinge am na fedrai ddod i’r cyfarfod. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Materion Personol Cofnodion: Dymunwyd yn
dda i Mrs Mary Davies a oedd
yn absennol o’r gwaith oherwydd
salwch. Estynnwyd llongyfarchiadau i’r cynllun ‘Bwyd a Hwyl’ a gynhaliwyd dros yr haf yn Aberystwyth. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Datgelodd y
Cynghorwyr Endaf Edwards, Euros Davies, Marc Davies, Meirion Davies, Amanda
Edwards, Elizabeth Evans, Eryl Evans, Chris James, Ann Bowen Morgan a Mark
Strong fuddiant personol yn eitem 5 gan eu bod nhw i gyd yn llywodraethwyr
ysgolion. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Canlyniadau TGAU a Safon Uwch 2023 PDF 125 KB Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, sef y
Cynghorydd Wyn Thomas, yr adroddiad a nododd na chynhaliwyd arholiadau allanol
yn eu dull traddodiadol mewn ysgolion yn haf 2020 na haf 2021 oherwydd y
pandemig COVID-19. Ar gyfer haf 2022, roedd Cymwysterau Cymru wedi penderfynu y
byddai canlyniadau ar lefel genedlaethol yn adlewyrchu pwynt hanner ffordd
rhwng canlyniadau haf 2019 a haf 2021. Felly, nid oedd modd cymharu canlyniadau
2023 â’r blynyddoedd blaenorol. Adroddwyd y canrannau dros dro ar gyfer Ceredigion (byddai’r data swyddogol
ar gael ar ddechrau mis Hydref). Y SEFYLLFA AR HYN O BRYD: Canlyniadau TGAU 2023 Cymariaethau
Cenedlaethol – Arholiadau Haf 2023 (TGAU CBAC yn unig)
Ystyriwyd nifer o
ddangosyddion wrth arfarnu canlyniadau’n lleol. Roedd y rhain yn edrych ar
raddau gorau disgyblion ar ddiwedd Blwyddyn 11:
Canlyniadau Safon Uwch 2023 Cymariaethau
Cenedlaethol – Arholiadau Haf 2023 (Safon Uwch CBAC yn unig)
CYTUNWYD i nodi’r adroddiad er gwybodaeth a llongyfarch yr holl ddisgyblion a staff ar eu llwyddiannau. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Y ddarpariaeth Addysg ol-16 mewn ysgolion PDF 101 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, sef y
Cynghorydd Wyn Thomas, yr adroddiad a rhoddodd Mr Barry Rees, Cyfarwyddwr
Corfforaethol, Mrs Elen James, Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Dysgu Gydol Oes
a’r Prif Swyddog Addysg, a Mr Clive Williams, Swyddog Arweiniol Corfforaethol:
Ysgolion a’r Dirprwy Brif Swyddog Addysg, gyflwyniad PowerPoint a oedd yn
amlinellu cynnwys yr adroddiad. Adroddwyd bod y Cabinet
wedi cytuno yn y cyfarfod rhithiol a gynhaliwyd ar 11 Ionawr 2022, y byddai’n
amserol cynnal adolygiad o’r ddarpariaeth ôl-16 yng Ngheredigion. Bwriad yr
adolygiad oedd darparu dadansoddiad ac arfarniad o’r sefyllfa gyfredol o ran y
ddarpariaeth ôl-16 yng Ngheredigion a nodi opsiynau cynaliadwy i’r dyfodol,
ynghyd â’u manteision ac anfanteision posib. Nod yr adolygiad oedd i: • greu set o egwyddorion cytûn a oedd yn
ddysgwr-ganolog • gynnig ystod o opsiynau hygyrch a
chynaliadwy gan sicrhau bod llais y dysgwyr, llywodraethwyr, rhieni,
penaethiaid a swyddogion yr Awdurdod Lleol yn rhan annatod o’r broses • sicrhau bod ystyriaeth lawn wedi ei rhoi
i ganfyddiadau ac argymhellion adolygiadau cenedlaethol Estyn a chefndir polisi
presennol Llywodraeth Cymru gan gynnwys y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil
a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol • rhoi ystyriaeth i wledigrwydd a
goblygiadau ôl-troed carbon. Yn ogystal, roedd cyd-destun ehangach i’r
adolygiad hwn, sef: • Penderfyniad Llywodraeth Cymru i sefydlu
Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CADY) a fyddai’n gyfrifol, ymhlith
materion eraill, am strategaeth, cyllido a goruchwylio’r sector addysg bellach,
gan gynnwys colegau a chweched dosbarth ysgolion. • Adroddiad Thematig Estyn ar Bartneriaethau
Ôl-16 (Ionawr 2021). • Y cyfleoedd a geid drwy Fargen Dwf
Canolbarth Cymru, y Strategaeth Economaidd a’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol
ar gyfer anghenion a sgiliau gweithlu’r dyfodol a rôl ganolog y Bartneriaeth
Sgiliau Rhanbarthol yn y broses o gasglu a dadansoddi’r wybodaeth. • Yr angen i sicrhau cynnig galwedigaethol
eang o ansawdd, ynghyd ag arlwy ehangach o bynciau Safon Uwch, a fyddai’n
caniatáu i ddysgwyr ddilyn cyfuniadau gwahanol o bynciau ac arbenigo yn eu
diddordebau, waeth ble maent yn byw yn y sir. • Adroddiad Estyn – Adolygiad o’r
cwricwlwm 16-19 presennol yng Nghymru (Hydref 2022).
Cytunwyd y dylid creu set o “egwyddorion cytûn a oedd yn
ddysgwr-ganolog”, er mwyn sicrhau bod llais y dysgwyr, llywodraethwyr, rhieni a
phenaethiaid yn cael lle canolog yn yr adroddiad. Rhoddwyd gwybod
i’r Aelodau fod 6 egwyddor wedi’u llunio, sef - 1) Dylid blaenoriaethu anghenion y
dysgwyr dros unrhyw anghenion sefydliadol. 2) Dylid cynnal a gwella ymhellach y safonau cyffredinol uchel a welwyd yn
ysgolion Ceredigion. 3) Dylid sicrhau gwell tegwch a chyfle cyfartal i bob dysgwr ar draws y sir
o ran y cynnig, y cyngor ac arweiniad, gofal bugeiliol a llesiant, y gofynion
teithio, y patrwm dysgu a’r mynediad at gefnogaeth. Mae hyn yn cynnwys sicrhau
cefnogaeth bwrpasol ac arbenigol ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu
ychwanegol gan sicrhau continwwm addysg ar eu cyfer yn absenoldeb ysgol
arbennig yn y Sir. 4) Dylid cryfhau’r cynnig yn y Gymraeg i fod o leiaf yn gyson â’r cynnig yn y Saesneg er mwyn cynyddu nifer ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnodion: CYTUNWYD i gadarnhau bod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor yn
gywir. Materion yn Codi Eitem 8 - Adroddwyd y byddai’r Ffrwd Waith Sicrhau Tegwch i Bob Disgybl
yn ymweld â Chwrtnewydd ar 20 Hydref 2023. Rhoddwyd
gwahoddiad i holl Aelodau’r Pwyllgor fynd hefyd. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
I ystyried Blaenraglen Waith Ddrafft PDF 88 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cytunwyd i nodi’r
Flaenraglen Waith ddrafft fel y’i
cyflwynwyd, yn amodol ar nodi’r
canlynol:- (i) Byddai adroddiad
diweddaru ynghylch y cymwysterau 14-16 yn cael ei gyflwyno
yn y cyfarfod nesaf; a (ii) Byddai’r diweddariad
a geir bob chwe mis ynghylch yr Asesiad
Digonolrwydd Gofal Plant yn cael ei
gyflwyno hefyd. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Unrhyw Fusnes Arall Cofnodion: CYTUNWYD y dylid
anfon llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor at Lywodraeth Cymru yn nodi
pryderon ynghylch y toriadau termau real sy’n debygol o ddigwydd i gyllideb y
Cyngor Sir ar gyfer 2024/25 a’r effaith ar y gwasanaeth addysg ac ysgolion y
sir yn benodol. |