Cofnodion:
Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, sef y
Cynghorydd Wyn Thomas, yr adroddiad a rhoddodd Mr Barry Rees, Cyfarwyddwr
Corfforaethol, Mrs Elen James, Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Dysgu Gydol Oes
a’r Prif Swyddog Addysg, a Mr Clive Williams, Swyddog Arweiniol Corfforaethol:
Ysgolion a’r Dirprwy Brif Swyddog Addysg, gyflwyniad PowerPoint a oedd yn
amlinellu cynnwys yr adroddiad.
Adroddwyd bod y Cabinet
wedi cytuno yn y cyfarfod rhithiol a gynhaliwyd ar 11 Ionawr 2022, y byddai’n
amserol cynnal adolygiad o’r ddarpariaeth ôl-16 yng Ngheredigion. Bwriad yr
adolygiad oedd darparu dadansoddiad ac arfarniad o’r sefyllfa gyfredol o ran y
ddarpariaeth ôl-16 yng Ngheredigion a nodi opsiynau cynaliadwy i’r dyfodol,
ynghyd â’u manteision ac anfanteision posib.
Nod yr adolygiad oedd i:
• greu set o egwyddorion cytûn a oedd yn
ddysgwr-ganolog
• gynnig ystod o opsiynau hygyrch a
chynaliadwy gan sicrhau bod llais y dysgwyr, llywodraethwyr, rhieni,
penaethiaid a swyddogion yr Awdurdod Lleol yn rhan annatod o’r broses
• sicrhau bod ystyriaeth lawn wedi ei rhoi
i ganfyddiadau ac argymhellion adolygiadau cenedlaethol Estyn a chefndir polisi
presennol Llywodraeth Cymru gan gynnwys y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil
a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
• rhoi ystyriaeth i wledigrwydd a
goblygiadau ôl-troed carbon.
Yn ogystal, roedd cyd-destun ehangach i’r
adolygiad hwn, sef:
• Penderfyniad Llywodraeth Cymru i sefydlu
Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CADY) a fyddai’n gyfrifol, ymhlith
materion eraill, am strategaeth, cyllido a goruchwylio’r sector addysg bellach,
gan gynnwys colegau a chweched dosbarth ysgolion.
• Adroddiad Thematig Estyn ar Bartneriaethau
Ôl-16 (Ionawr 2021).
• Y cyfleoedd a geid drwy Fargen Dwf
Canolbarth Cymru, y Strategaeth Economaidd a’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol
ar gyfer anghenion a sgiliau gweithlu’r dyfodol a rôl ganolog y Bartneriaeth
Sgiliau Rhanbarthol yn y broses o gasglu a dadansoddi’r wybodaeth.
• Yr angen i sicrhau cynnig galwedigaethol
eang o ansawdd, ynghyd ag arlwy ehangach o bynciau Safon Uwch, a fyddai’n
caniatáu i ddysgwyr ddilyn cyfuniadau gwahanol o bynciau ac arbenigo yn eu
diddordebau, waeth ble maent yn byw yn y sir.
• Adroddiad Estyn – Adolygiad o’r
cwricwlwm 16-19 presennol yng Nghymru (Hydref 2022).
Cytunwyd y dylid creu set o “egwyddorion cytûn a oedd yn
ddysgwr-ganolog”, er mwyn sicrhau bod llais y dysgwyr, llywodraethwyr, rhieni a
phenaethiaid yn cael lle canolog yn yr adroddiad.
Rhoddwyd gwybod
i’r Aelodau fod 6 egwyddor wedi’u llunio, sef -
1) Dylid blaenoriaethu anghenion y
dysgwyr dros unrhyw anghenion sefydliadol.
2) Dylid cynnal a gwella ymhellach y safonau cyffredinol uchel a welwyd yn
ysgolion Ceredigion.
3) Dylid sicrhau gwell tegwch a chyfle cyfartal i bob dysgwr ar draws y sir
o ran y cynnig, y cyngor ac arweiniad, gofal bugeiliol a llesiant, y gofynion
teithio, y patrwm dysgu a’r mynediad at gefnogaeth. Mae hyn yn cynnwys sicrhau
cefnogaeth bwrpasol ac arbenigol ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu
ychwanegol gan sicrhau continwwm addysg ar eu cyfer yn absenoldeb ysgol
arbennig yn y Sir.
4) Dylid
cryfhau’r cynnig yn y Gymraeg i fod o leiaf yn gyson â’r cynnig yn y Saesneg er
mwyn cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Ngheredigion a chyfrannu at weithlu
a chymuned ddwyieithog.
5) Dylid sicrhau
mynediad at ystod eang o gyrsiau academaidd a galwedigaethol o safon uchel gan
gynyddu argaeledd presennol cyrsiau galwedigaethol i ddisgyblion ymhob rhan o’r
sir.
6) Dylid sicrhau
bod llywodraethiant y ddarpariaeth ôl-16 yn hyrwyddo’r egwyddorion uchod, yn
ystyried prosesau gwella ansawdd strategol, yn sicrhau bod gwariant yn cael ei
gadw gymaint â phosib oddi mewn i’r gyllideb ôl-16 ac yn caniatáu gwneud
penderfyniadau sydd yn rhoi ystyriaeth i gynaliadwyedd amgylcheddol ac ôl-troed
carbon.
Darn allweddol
o’r adolygiad oedd casglu barn grŵp eang o randdeiliaid. Anfonwyd arolygon
allan i grwpiau allweddol, sef dysgwyr, rhieni / gofalwyr, athrawon a
chyflogwyr a derbyniwyd cyfanswm o 1,306 o ymatebion gan yr unigolion hyn. Yn
ogystal, cynhaliwyd cyfweliadau gyda chynrychiolwyr o ddarparwyr addysgol, yr
awdurdod lleol a phartneriaid eraill.
Dadansoddwyd yr
ymatebion a gosodwyd yr ymatebion o dan chwe phrif thema -
• Dewis eang
• Iaith
• Lleoliad
• Cysylltiadau byd gwaith
• Cydweithio rhwng ysgolion neu sefydlu canolfannau
rhagori
• Athrawon a chyngor da, diduedd
Y cam nesaf oedd
ystyried y sefyllfa gyfredol h.y. niferoedd disgyblion, y sefyllfa ariannol, yr
ystod / dewis o bynciau a oedd ar gael i’r dysgwyr ac ati, a llunio opsiynau
i’w hystyried a fyddai’n edrych ar fanteision ac anfanteision yng nghyd-destun
yr egwyddorion.
Yn gryno, roedd
yr adolygiad yn gofyn am farn ynghylch pedwar opsiwn posib, sef:
Opsiwn 1: Cynnal y Sefyllfa Gyfredol
Opsiwn 2: Datblygu’r Sefyllfa Gyfredol
Byddai
darpariaeth ôl-16 yn parhau ar y 6 safle presennol. Byddai’r 6 Bwrdd
Llywodraethol presennol yn parhau gyda’u rolau presennol o ran llywodraethiant
hyd at 16 oed ond yn cytuno â’r Awdurdod Lleol i ffurfio Bwrdd Strategol a
fyddai’n rheoli cyllideb ôl-16 yr Awdurdod, sicrhau
trefniadau addas
ar gyfer cyd-gynllunio’r cwricwlwm ac yna comisiynu’r ddarpariaeth gan yr
ysgolion, e-sgol a phartneriaid eraill.
Opsiwn 3: Darpariaeth mewn rhai ysgolion
Byddai’r opsiwn
hwn yn ddatblygiad o Opsiwn 2 uchod. Byddai’n golygu cau’r ddarpariaeth ôl-16
ar un neu fwy o safleoedd. Yna, megis yn Opsiwn 2, byddai’r Byrddau
Llywodraethol hynny yn parhau gyda’u rolau presennol o ran llywodraethiant hyd
at 16 oed ac yn cytuno â’r Awdurdod Lleol i ffurfio Bwrdd Strategol a fyddai’n
rheoli cyllideb ôl-16 yr Awdurdod, sicrhau trefniadau addas ar gyfer
cyd-gynllunio’r cwricwlwm ac yna comisiynu’r ddarpariaeth gan yr ysgolion,
e-sgol a phartneriaid eraill. Byddai’r Bwrdd hefyd yn gyfrifol am fonitro
ansawdd y ddarpariaeth ac yn gwneud argymhellion i’r Awdurdod Lleol a’r
darparwyr ar gyfer gwella.
Opsiwn 4: Un Ganolfan
Byddai’r opsiwn hwn yn cynnig newid mwy pellgyrhaeddol.
Byddai’n golygu cau’r ddarpariaeth ôl-16 bresennol a sefydlu Canolfan
Ragoriaeth, yn cynnwys ystod o bartneriaid, ar un neu fwy o safleoedd daearyddol
addas. Byddai Corff Llywodraethol sydd yn annibynnol o’r ysgolion yn
gyfrifol am y cyllid a’r cwricwlwm ac yn penodi nifer
bach o staff craidd ar gyfer llywio a rheoli’r gwaith.
Yn dilyn
cwestiynau o’r llawr ynghylch yr opsiynau a gyflwynwyd, CYTUNWYD i argymell i’r
Cabinet y dylid cynnal Astudiaeth Ddichonolrwydd er mwyn rhoi ystyriaeth fanwl
i Opsiwn 2 ac Opsiwn 4 yn yr Adolygiad, fodd bynnag dylid hefyd ystyried Opsiwn
3 pe na bai’r wybodaeth a ddarparwyd ar gyfer Opsiwn 2 a 4 yn hyfyw.
Dogfennau ategol: