Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Lisa Evans
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y
Cynghorydd Marc Davies ynghyd â Ms Gillian Evans, Rheolwr Corfforaethol - Anghenion
Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant a Lles a Mrs Mary Davies, Rheolwr Corfforaethol -
Gwella Ysgolion am na allent fynychu'r cyfarfod. |
|
Personal Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd a'r Aelod o’r Cabinet Mrs Elen James a Mr Clive Williams i'w cyfarfod cyntaf yn eu rolau newydd. Llongyfarchwyd hefyd yr holl ddisgyblion a gymerodd ran yn Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri a rali’r CFfI yn Felin-fach |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Cofnodion: Dim. |
|
Adroddiad ar waith ac effaith Partneriaid Addysg Canolbarth Cymru (PACC) PDF 152 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd Arweinydd Strategol PACC a'r Ymgynghorydd Cefnogi Ysgolion i'r Cyfarfod i roi cyflwyniad ar adroddiad Partneriaid Addysg Canolbarth Cymru (PACC). Cyflwynwyd y wybodaeth ganlynol:- · Pwrpas · Y strwythur a threfniadau llywodraethu ar draws awdurdodau lleol · Cyllid · Gwerthusiad o waith PACC · Blaenoriaethau 2022 – 2023 · Yr ystod o ddysgu proffesiynol a’r cymorth a gynigir · Cynllunio ar gyfer 2023 – 2024 · Chwe Amcan Cyffredinol ar gyfer Addysg Genedlaethol a'r Iaith Gymraeg · Wyth Ffactor Gyfrannol – fel a osodwyd yn rhan 1 o’r Grant Consortia Rhanbarthol ar gyfer 23/24 · Blaenoriaethau 2023 – 2024 · Camau Nesaf Yn dilyn cwestiwn o'r llawr, CYTUNWYD i nodi'r adroddiad er gwybodaeth. |
|
Arolygiadau Estyn , tymor yr Hydref 2022 a thymor y gwanwyn, 2023 PDF 89 KB Cofnodion: CYTUNWYD i nodi’r Arolygiadau Estyn a gynhaliwyd yn ystod tymor yr Hydref 2022 a thymor y Gwanwyn 2023. Llongyfarchwyd pawb a gymerodd ran. |
|
Canllawiau Pontio ar gyfer ysgolion a lleoliadau- model cymorth cynhwysol PDF 98 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i'r Canllawiau Pontio ar gyfer Ysgolion a Lleoliadau: model cymorth cynhwysol. Roedd y canllawiau wedi'u cyflwyno er mwyn darparu gwybodaeth ac arweiniad i ysgolion, lleoliadau a cholegau ar drefniadau pontio a chymorth cynhwysol effeithiol. Byddai’r canllawiau’n rhannu arferion da gan ddarparu arweiniad effeithiol, er mwyn cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i ffynnu, byw bywydau llawn ac ystyrlon, a dod yn aelodau a chyfranwyr gwerthfawr yn eu cymuned leol. Yn dilyn cwestiwn o’r llawr, CYTUNWYD i argymell i’r Cabinet :- (i) mabwysiadu cynnwys y canllawiau pontio ar gyfer ysgolion a lleoliadau Ceredigion; a (ii) datblygu cysondeb gweithredu a phontio llyfn ar gyfer plant a phobl ifanc trwy gydol eu gyrfa addysgol ac i fyd oedolion, gan eu galluogi i gyrraedd eu potensial. |
|
Cofnodion Cyfarfod Cyngor Ieuenctid Ceredigion (17.03.23) PDF 117 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: CYTUNWYD i nodi'r cofnodion fel y'u cyflwynwyd. |
|
Cofnodion: CYTUNWYD i gadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor fel rhai cywir. Materion sy’n
Codi Dim. |
|
I ystyried Blaenraglen Waith Ddrafft 2022/23 PDF 88 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: CYTUNWYD i nodi'r Flaenraglen Waith ddrafft fel y'i
cyflwynwyd yn amodol ar y canlynol (i) nodi bod adroddiad yr adolygiad
ôl-16 yn cael ei ohirio tan gyfarfod
mis Medi; (ii) nodi, fel y cytunwyd yn flaenorol
yn y cyfarfodydd diwethaf yn craffu
ar y gyllideb, pe bai cais am wybodaeth ychwanegol am unrhyw agwedd ar y gyllideb,
byddai adroddiad yn cael ei
gyflwyno; yn unol â hynny, a (iii) rhoddir adroddiad o’r data ar ganlyniadau TGAU a Safon Uwch yng nghyfarfod mis Medi yn amodol ar eglurhad ar y data a fyddai ar gael gan y Rheolwr Corfforaethol - Atebolrwydd a Chynnydd |