Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Lisa Evans
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Dim. |
|
Datgan diddordebau personol / diddordebau personol sy'n rhagfarnu Cofnodion: Dim. |
|
Ethol Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn fwrdeistrefol 2024/25, gan ddechrau ar 17 Mai 2024. Cofnodion: Cynigiodd y Cynghorydd Ann Bowen Morgan ac
eiliwyd gan y Cynghorydd Amanda Edwards bod y Cynghorydd Chris James yn cael ei
ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn Gyngor nesaf. PENDERFYNWYD yn unfrydol bod y Cynghorydd Chris James yn
cael ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn Gyngor nesaf. |
|
Ethol Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn fwrdeistrefol 2024/25, gan ddechrau ar 17 Mai 2024. Cofnodion: Cynigiodd y Cynghorydd Ann Bowen Morgan ac
eiliwyd gan y Cynghorydd Amanda Edwards bod y Cynghorydd Eryl Evans yn cael ei
ethol yn Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn Gyngor nesaf. PENDERFYNWYD yn unfrydol bod y Cynghorydd Eryl Evans yn
cael ei ethol yn Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn Gyngor nesaf. |