Lleoliad: remotely - VC
Cyswllt: Nia Jones
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Dim. |
|
Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu Cofnodion: Dim. |
|
I ystyried Cofnodion y cyfarfod blaenorol ar unrhyw faterion sy'n codi PDF 76 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau cofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 20 Medi 2023 fel rhai cywir. Materion sy’n codi Nid oedd unrhyw faterion yn codi. |
|
I ystyried adroddiad ar bapur trafod ar gyfer ffrydio byw pwyllgorau ychwanegol PDF 65 KB Cofnodion: Cyflwynodd Swyddog Arweiniol Corfforaethol y Gwasanaethau
Democrataidd yr adroddiad i’r Pwyllgor, gan nodi bod Deddf Llywodraeth Leol ac
Etholiadau (Cymru) 2021, yn ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau lleol ffrydio
cyfarfodydd y Cyngor yn fyw. Ar hyn o bryd, roedd Ceredigion yn gwneud mwy na’r
gofyniad hwn am ei fod yn ffrydio holl gyfarfodydd y Cyngor a’r Cabinet yn fyw
ar Facebook. Serch hynny, yn ystod cyfarfod o Bwyllgor y Gwasanaethau
Democrataidd ar 20 Medi 2023, gofynnodd Aelodau’r Pwyllgor a fyddai modd
ystyried ffrydio rhagor o bwyllgorau yn fyw a chyflwyno papur i drafod hyn yn
un o gyfarfodydd y dyfodol. Roedd y papur trafod yn argymell ehangu’r gwe-ddarlledu
i gynnwys cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu o fis Mai 2024 ymlaen. Dywedodd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol y byddai’r
cyfarfodydd a oedd yn cael eu ffrydio’n fyw ar Facebook, a oedd ar hyn o
bryd yn cael eu cefnogi gan y Tîm TGCh, yn symud i gael eu ffrydio’n fyw ar
wefan Modern.gov. Ar yr adeg honno,
byddai cefnogaeth yr Adain TGCh yn dod i ben a byddai Swyddogion y Gwasanaethau
Democrataidd yn gyfrifol am reoli’r ffrydio byw, yn ogystal â gweithredu’r system
hybrid a chymryd y cofnodion. Roedd profion wedi’u cynnal, ac yn amodol ar
ambell fân newid, bwriad y Gwasanaethau Democrataidd oedd dechrau ffrydio’n fyw
ar Modern.gov ym mis Mai eleni. Er gwaethaf y pwysau a’r gofynion ychwanegol ar
Swyddogion y Gwasanaethau Democrataidd, cynigiwyd bod y ddarpariaeth hon yn
cael ei hymestyn i gynnwys y Pwyllgor Rheoli Datblygu ar yr adeg honno, am fod
nifer o’r Aelodau wedi nodi y byddent yn dymuno gweld y pwyllgor hwn yn cael ei
ffrydio’n fyw, ac am fod gan y cyhoedd ddiddordeb yn y pwyllgor. Dywedodd y Swyddog Monitro ei bod hi neu swyddog a oedd yn
dirprwyo ar ei rhan yn mynd i bob un o gyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet a’r
Pwyllgor Rheoli Datblygu ac ychwanegodd fod Archwilio Cymru wedi argymell y
dylai cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu gael eu ffrydio’n fyw er nad oedd
hyn yn ofyniad statudol. Nododd y byddai’r capasiti o fewn y Gwasanaethau
Cyfreithiol yn ystyriaeth fawr pe byddai hyn yn cael ei ymestyn i gynnwys
unrhyw gyfarfodydd ychwanegol. Gofynnodd y Cynghorydd Gareth Lloyd a fyddai modd ystyried
ymestyn y ddarpariaeth i gynnwys holl bwyllgorau'r Cyngor fel cofnod ar gyfer y
dyfodol ac fel modd o sicrhau tryloywder y prosesau democrataidd, ac a oedd
unrhyw fodd o ymestyn y capasiti i gefnogi'r gofynion ychwanegol. Cadarnhaodd Lowri Edwards na fyddai'n bosibl cynyddu'r
capasiti yn y dyfodol agos, o gofio’r heriau ariannol presennol a’r ffaith bod
y cyllidebau yn crebachu. Nododd y Cynghorydd Caryl Roberts ei bod yn cytuno â'r
cynnig mewn egwyddor. Fodd bynnag, ailadroddodd bryderon y Swyddogion ynghylch
y pwysau ychwanegol, gan nodi bod risg y gallai camgymeriadau ddigwydd os na
fyddai digon o gapasiti ar gael i gefnogi'r gofynion ychwanegol. Gofynnodd y Cynghorydd Gareth Lloyd am adolygu’r mater hwn yn y dyfodol fel y gellid ystyried ymestyn y ddarpariaeth i gynnwys pob Pwyllgor ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Corfforaethol y Gwasanaethau Democrataidd
yr adroddiad i’r Pwyllgor gan ddweud bod Canllawiau Statudol ac Anstatudol
Llywodraeth Cymru ar gyfer Prif
Gynghorau yng Nghymru yn nodi efallai y byddai Cynghorau’n dymuno cynhyrchu
canllawiau a chymorth gyda’r nod o sicrhau bod penderfyniadau a wneir mewn
wardiau yn cael eu cydlynu ac yn ategu’r gwaith o wella canlyniadau i bobl
leol. Dywedodd y Swyddog
Monitro fod Cyfansoddiad y Cyngor yn nodi’r canlynol: Bydd y rhai a
fydd yn siarad yn cael 5 munud i siarad. Mae hyn yn
cynnwys: Ymgeisydd /
Asiant Gwrthwynebydd Cynrychiolwyr
Cyngor Tref a Chymuned Aelod ward lleol Nid oedd y darn hwn
yn egluro a fyddai modd i Aelodau mewn wardiau aml-aelod siarad am 5 munud yr
un ond roedd y Swyddog Monitro o’r farn y dylai’r 5 munud gael ei rhannu rhwng
yr Aelodau, er mwyn sicrhau cysondeb â phawb arall a oedd yn cael caniatâd i
siarad, yn hytrach na’u bod yn cael siarad am ddwywaith yr amser a roddwyd i
bartïon eraill. Dywedodd y
Cynghorydd Gareth Lloyd ei fod yn gallu gweld dwy ochr y ddadl, a gofynnodd a
oedd unrhyw ganllawiau ar gael pe byddai un o'r Aelodau mewn Ward Aml-Aelod yn
datgelu buddiant, neu'n gofyn i'r Pwyllgor ystyried adroddiad ac nad oedd modd
dod i gytundeb â'r Aelod arall yn y Ward Aml-Aelod am y materion hyn. Nododd y Swyddog
Monitro y byddai disgwyl i'r Aelodau gytuno ar bob un o'r materion a nodir
uchod ymlaen llaw a dod i gytundeb. Dywedodd y
Cynghorydd Gwyn James na fyddai dwy funud a hanner yr un yn ddigon pe byddai
gan y ddau Aelod ddwy farn wahanol. Argymhellwyd bod
Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd yn cyfeirio'r mater at Is-grŵp y
Pwyllgor Rheoli Datblygu – ymateb i Archwilio Cymru, fel y gallai’r Aelodau
yn y fan honno ei ystyried yn fanwl, cyn mynd ati i’w drafod yn y gweithdai
misol a oedd yn agored i bob Aelod. Ar ôl hynny, byddai'r mater yn cael ei
gyfeirio at Weithgor y Cyfansoddiad. Yn dilyn
trafodaeth, PENDERFYNWYD: a)
cymeradwyo'r Protocol Drafft
ar gyfer Cynghorwyr sy'n Cynrychioli Wardiau Aml-Aelod i’w ddosbarthu i’r holl
gynghorwyr b)
argymell bod Aelodau'r
Is-Grŵp, Archwilio Cymru, Pwyllgor Rheoli Datblygu yn ystyried geiriad y
Pwyllgor Rheoli Datblygu – Gweithdrefnau Gweithredol, Rhan 4 Dogfen I, i’w
ddilyn gan drafodaeth yn y gweithdai misol a Grŵp Gweithredol y
Cyfansoddiad |
|
I ystyried adroddiad ar ganfyddiadau arolwg ar gyfleusterau ymchwil PDF 82 KB Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Corfforaethol y Gwasanaethau Democrataidd
yr adroddiad i’r Pwyllgor, gan nodi bod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau
(Cymru) 2021, yn argymell y dylai Cynghorau ystyried darparu Canllawiau
Statudol ar Gymorth a Gwasanaethau Ymchwil i Gynghorwyr fel rhan o’u hystyriaethau ynghylch yr hyn sy’n cael ei ystyried yn
adnoddau digonol i’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd gyflawni ei
swyddogaethau. Nodwyd bod
adroddiad wedi’i gyflwyno gerbron cyfarfod Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd
ar 20 Medi 2023, a oedd yn amlinellu lefel sylfaenol y cymorth a oedd ar gael
eisoes i‘r aelodau. Yn ystod y cyfarfod, penderfynodd yr Aelodau i ofyn i’r
Swyddogion gynnal arolwg o blith y Cynghorwyr mewn perthynas â'r cymorth
sylfaenol a oedd ar gael i’r Aelodau ar hyn o bryd ac unrhyw gymorth ychwanegol
a fyddai ei angen. Cyflwynwyd
canfyddiadau’r arolwg i Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd. Roedd y
canfyddiadau hyn yn cynnwys cais am gwrs Iaith Arwyddion; mwy o hyfforddiant
ynglŷn â sut mae ymchwilio i wybodaeth a oedd eisoes ar gael; sesiynau
briffio ar fodiwlau e-ddysgu; hyrwyddo digwyddiadau cymunedol; gwybodaeth am
asiantaethau sy’n darparu gwasanaethau i’r Cyngor; data am wasanaethau a
ddarperir gan ddarparwyr yn y sector cyhoeddus e.e. Iechyd, yr Heddlu,
Gwasanaeth Tân ac Achub a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru; adroddiadau am unrhyw beth newydd sy’n dod
i’r amlwg ar wefannau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol am wardiau ar lefel meicro a
lefel y ward; a data am faterion megis llif traffig drwy wardiau gan gynnwys
problemau parcio ac atebion posibl. Nodwyd bod mecanwaith eisoes ar waith ar
gyfer gofyn am wybodaeth o'r fath drwy'r prosesau Trosolwg a Chraffu. Hefyd, dywedodd y
Cynghorydd Elizabeth Evans fod modd gofyn am wybodaeth drwy’r Pwyllgor Data. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Corfforaethol y Gwasanaethau Democrataidd
yr adroddiad i'r pwyllgor gan nodi bod yr adroddiad yn amlinellu'r rhaglen
hyfforddi eang a gyflwynwyd i'r Aelodau.
Gofynnodd y Cynghorydd Elizabeth Evans am eglurhad ynghylch
y gorgyffwrdd posibl rhwng rhai o'r digwyddiadau hyfforddi unigol a'r modiwlau
e-ddysgu, megis y cwrs Diogelu a'r cwrs Cyfryngau Cymdeithasol. Nodwyd bod y rhan fwyaf o'r modiwlau e-ddysgu yn gyrsiau
cenedlaethol, a bod y cwrs Cyfryngau Cymdeithasol a ddarperir ar ffurf sesiwn
hyfforddi yn canolbwyntio ar anghenion lleol, materion ymarferol a’r cymorth a
oedd ar gael i'r Aelodau. Yn y cyfnod cyn etholiadau 2027, byddai'n ofynnol i
Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd adolygu'r rhaglen hyfforddi, nodi
blaenoriaethau ac ystyried y posibilrwydd o gynnal modiwlau e-ddysgu yn lle
rhai o’r digwyddiadau hyfforddi, ynghyd â’r gofyniad posibl i'r holl Aelodau
gwblhau'r modiwlau e-ddysgu a oedd yn rhai gwirfoddol ar hyn o bryd. Nodwyd hefyd y byddai digwyddiad hyfforddi arall am Ddiogelu
Data yn cael ei gynnal yn fuan ar gyfer yr Aelodau nad oedd wedi medru bod yn
bresennol yn y sesiynau blaenorol. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad. |
|
I ystyried adroddiad ar Lesiant a Diogelwch Personol - Canllaw i Gynghorwyr PDF 61 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr
Corfforaethol y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad i’r Pwyllgor gan ddweud
bod Canllawiau Statudol ac Anstatudol Llywodraeth Cymru ar gyfer Prif Gynghorau
yng Nghymru yn nodi y dylai Cynghorau fanteisio ar bob cyfle
i gefnogi llesiant a diogelwch personol cynghorwyr a’u teuluoedd. Roedd y
canllawiau'n darparu gwybodaeth am yr hyfforddiant a'r cymorth a oedd ar gael
i'r Aelodau ar hyn o bryd, ynghyd ag asesiadau risg ar gyfer Cynnal Cymhorthfa
Ddiogel a Diogelwch yr Aelodau o gwmpas y ward ac yn y cartref. Pwysleisiodd Swyddog Arweiniol Corfforaethol y Gwasanaethau
Democrataidd bwysigrwydd y ddogfen, gan atgoffa'r Aelodau y dylent roi gwybod
iddi am unrhyw bryderon, ac os ystyrir bod angen, dylent ffonio'r Heddlu. Hefyd, bu i’r Cynghorydd Elizabeth Evans argymell y dylai’r
Aelodau daro golwg ar wefan Suzy Lamplugh drwy ddilyn y ddolen a oedd wedi’i
chynnwys yn yr adroddiad, gan fod y wefan yn darparu gwybodaeth hynod
ddefnyddiol. Yn dilyn trafodaeth PENDERFYNWYD cymeradwyo’r
canllawiau drafft a’r Rhestrau Gwirio Diogelwch Personol i’w dosbarthu i’r holl
Gynghorwyr. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Swyddog Arweiniol Corfforaethol y Gwasanaethau
Democrataidd yr adroddiad i'r Pwyllgor, gan nodi bod y canllawiau drafft wedi'u
paratoi mewn ymateb i gais gan un o Gadeiryddion y Pwyllgorau Trosolwg a
Chraffu am ganllaw hawdd ac ymarferol y gallai’r Cadeiryddion ei ddilyn wrth
ymateb i ddigwyddiadau annisgwyl, neu faterion a allai godi yn ystod cyfarfod.
Nododd fod y canllawiau'n cynnwys esboniad o'r derminoleg, gwybodaeth
gyfrinachol ac eithriedig, canllaw chwe cham, cworwm, atal cyfarfod dros dro
neu ohirio cyfarfod, enghreifftiau a materion ymarferol megis caniatáu digon o
amser i atal y darlledu. Yn Dilyn trafodaeth PENDERFYNWYD cymeradwyo’r
canllawiau drafft i’w dosbarthu i holl Gadeiryddion ac Is-gadeiryddion Pwyllgor
y Cyngor. |
|
I ystyried eitemau ar y flaenraglen Cofnodion: a)
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Gwasanaethau
Democrataidd; b)
Canllawiau ar Gynrychiolaeth ar Gyrff Allanol; c) Pwerau Argyfwng. |
|
Unrhyw fater arall y penderfyn'ar Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor Cofnodion: Gofynnodd y Cynghorydd Elizabeth Evans a fyddai modd darllen unrhyw
ymatebion i Hysbysiadau o Gynnig yng nghyfarfod nesaf y Cyngor. Cadarnhawyd mai
dyma oedd yr arfer presennol, ond dywedwyd, mewn achos yn ddiweddar, iddi
gymryd 9 mis cyn i’r ymateb ddod i law. |