Cofnodion:
Cyflwynodd Swyddog Arweiniol Corfforaethol y Gwasanaethau
Democrataidd yr adroddiad i’r Pwyllgor, gan nodi bod Deddf Llywodraeth Leol ac
Etholiadau (Cymru) 2021, yn ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau lleol ffrydio
cyfarfodydd y Cyngor yn fyw. Ar hyn o bryd, roedd Ceredigion yn gwneud mwy na’r
gofyniad hwn am ei fod yn ffrydio holl gyfarfodydd y Cyngor a’r Cabinet yn fyw
ar Facebook. Serch hynny, yn ystod cyfarfod o Bwyllgor y Gwasanaethau
Democrataidd ar 20 Medi 2023, gofynnodd Aelodau’r Pwyllgor a fyddai modd
ystyried ffrydio rhagor o bwyllgorau yn fyw a chyflwyno papur i drafod hyn yn
un o gyfarfodydd y dyfodol. Roedd y papur trafod yn argymell ehangu’r gwe-ddarlledu
i gynnwys cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu o fis Mai 2024 ymlaen.
Dywedodd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol y byddai’r
cyfarfodydd a oedd yn cael eu ffrydio’n fyw ar Facebook, a oedd ar hyn o
bryd yn cael eu cefnogi gan y Tîm TGCh, yn symud i gael eu ffrydio’n fyw ar
wefan Modern.gov. Ar yr adeg honno,
byddai cefnogaeth yr Adain TGCh yn dod i ben a byddai Swyddogion y Gwasanaethau
Democrataidd yn gyfrifol am reoli’r ffrydio byw, yn ogystal â gweithredu’r system
hybrid a chymryd y cofnodion. Roedd profion wedi’u cynnal, ac yn amodol ar
ambell fân newid, bwriad y Gwasanaethau Democrataidd oedd dechrau ffrydio’n fyw
ar Modern.gov ym mis Mai eleni. Er gwaethaf y pwysau a’r gofynion ychwanegol ar
Swyddogion y Gwasanaethau Democrataidd, cynigiwyd bod y ddarpariaeth hon yn
cael ei hymestyn i gynnwys y Pwyllgor Rheoli Datblygu ar yr adeg honno, am fod
nifer o’r Aelodau wedi nodi y byddent yn dymuno gweld y pwyllgor hwn yn cael ei
ffrydio’n fyw, ac am fod gan y cyhoedd ddiddordeb yn y pwyllgor.
Dywedodd y Swyddog Monitro ei bod hi neu swyddog a oedd yn
dirprwyo ar ei rhan yn mynd i bob un o gyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet a’r
Pwyllgor Rheoli Datblygu ac ychwanegodd fod Archwilio Cymru wedi argymell y
dylai cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu gael eu ffrydio’n fyw er nad oedd
hyn yn ofyniad statudol. Nododd y byddai’r capasiti o fewn y Gwasanaethau
Cyfreithiol yn ystyriaeth fawr pe byddai hyn yn cael ei ymestyn i gynnwys
unrhyw gyfarfodydd ychwanegol.
Gofynnodd y Cynghorydd Gareth Lloyd a fyddai modd ystyried
ymestyn y ddarpariaeth i gynnwys holl bwyllgorau'r Cyngor fel cofnod ar gyfer y
dyfodol ac fel modd o sicrhau tryloywder y prosesau democrataidd, ac a oedd
unrhyw fodd o ymestyn y capasiti i gefnogi'r gofynion ychwanegol.
Cadarnhaodd Lowri Edwards na fyddai'n bosibl cynyddu'r
capasiti yn y dyfodol agos, o gofio’r heriau ariannol presennol a’r ffaith bod
y cyllidebau yn crebachu.
Nododd y Cynghorydd Caryl Roberts ei bod yn cytuno â'r
cynnig mewn egwyddor. Fodd bynnag, ailadroddodd bryderon y Swyddogion ynghylch
y pwysau ychwanegol, gan nodi bod risg y gallai camgymeriadau ddigwydd os na
fyddai digon o gapasiti ar gael i gefnogi'r gofynion ychwanegol.
Gofynnodd y Cynghorydd Gareth Lloyd am adolygu’r mater hwn
yn y dyfodol fel y gellid ystyried ymestyn y ddarpariaeth i gynnwys pob
Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pan fyddai’r capasiti yn caniatáu hyn.
Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD argymell i’r Cyngor gytuno i ymestyn y darlledu i gynnwys y Pwyllgor Rheoli Datblygu o fis Mai 2024.
Dogfennau ategol: