Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Nia Jones
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Dim. |
|
Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu Cofnodion: Dim. |
|
I ystyried Cofnodion y cyfarfod blaenorol ac i ystyried unrhyw faterion sy'n codi PDF 87 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mehefin 2023 fel rhai cywir. Materion yn codi Gofynnodd Aelodau ynghylch y llinell amser ar gyfer gweithredu cyfarfodydd aml-leoliad, a chadarnhawyd y bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i Weithgor y Cyfansoddiad yn ddiweddarach y mis hwn, ac yna i’r Cyngor, ac y rhagwelir y bydd yn cael ei weithredu o fis Rhagfyr 2023. |
|
I ystyried adroddiad ar newidiadau i Gylch Gorchwyl y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd PDF 82 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol,
Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad
i'r Pwyllgor, gan nodi bod y gwelliannau'n cael eu cynnig
er mwyn adlewyrchu geiriad Deddf Llywodraeth
Leol ac Etholiadau (Cymru)
2021, fodd bynnag, ni fydd hyn
yn effeithio ar rôl y Pwyllgor. Nododd yr
Aelodau fod y ddeddfwriaeth yn gofyn bod y pwyllgor yn cyfarfod o leiaf
unwaith y flwyddyn, ond roeddent yn
falch bod y canllawiau'n
nodi bod Cyngor Sir Ceredigion yn parhau
i anelu at gynnal cyfarfodydd o leiaf 3 gwaith y flwyddyn. CYTUNWYD argymell y diwygiadau arfaethedig i'r Cyngor. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr
Corfforaethol, Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad i'r
Pwyllgor gan nodi bod Canllawiau Statudol ac Anstatudol Llywodraeth Cymru ar gyfer Prif
Gynghorau yng Nghymru, yn argymell
y dylai'r Pwyllgor
Gwasanaethau Democrataidd ystyried darparu Cymorth a Gwasanaethau Ymchwil
i Gynghorwyr drwy nodi'r llinell
sylfaen o gymorth sydd eisoes ar
gael, yna cydweithio gydag aelodau i nodi sut y gellid datblygu'r
gefnogaeth a'i pharamedrau gydag amser. Nid yw hyn
yn ofynion statudol, ond mae'r
canllawiau'n awgrymu y dylai'r Pwyllgor Gwasanaethau
Democrataidd 'ystyried' hyn. Nododd yr Aelodau y gefnogaeth llinell sylfaen bresennol a restrir yn Atodiad A, a'r
arolwg Aelodau arfaethedig a gynhwyswyd yn Atodiad B, gan
argymhell bod manylion yr hyfforddiant a'r gweithdai a ddarparwyd hefyd yn cael eu
cynnwys. Nodwyd hefyd bod hyfforddiant gan Data Cymru ar 'Ddeall a Defnyddio
Data' wedi'i drefnu yn ystod yr
wythnosau nesaf, ac y byddai'n bwrpasol cynnal yr arolwg
yn dilyn yr hyfforddiant. CYTUNWYD i ofyn i Swyddogion
gynnal arolwg Cynghorwyr mewn perthynas â'r cymorth
sylfaenol sydd ar gael i
Aelodau ar hyn o bryd ac unrhyw
gymorth ychwanegol sydd ei angen. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr
Corfforaethol, Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad i'r
Pwyllgor gan nodi bod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn gosod dyletswydd
ar awdurdodau lleol i nodi cynllun
deisebau, i gynnwys deisebau electronig. Cyflwynwyd Adolygiad ddrafft o Ddogfen O o Gyfansoddiad y Cyngor i'w hystyried. Gofynnodd yr Aelodau ynghylch rhesymeg cyfnod cynlluniau deiseb, a nodwyd nad yw'r rheoliadau'n nodi amserlen; fodd bynnag, byddai uchafswm o 3 mis yn caniatáu i faterion gael eu hadrodd i'r Cabinet mewn dull amserol. Gofynnod yr Aelodau hefyd rôl
Trosolwg a Chraffu ar dderbyn deisebau.
Nodwyd na fyddai pob deiseb
yn cwrdd â’r meini prawf
i'w hystyried gan Bwyllgor Trosolwg
a Chraffu; fodd bynnag, byddai gwybodaeth yn ymwneud
â deisebau ar gael ar wefan
y Cyngor ac yn cael ei hadrodd ar
agenda a chofnodion y Cabinet ac y gallai Cadeiryddion Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu benderfynu trafod unrhyw faterion
sy'n codi sy'n berthnasol ac o ddiddordeb i'w pwyllgorau. CYTUNWYD i gyflwyno argymehllion i Weithgor y Cyfansoddiad
mewn perthynas â’r argymhellion arfaethedig. |
|
I ystyried adroddiad ar Fframwaith Hunan-Asesu arfaethedig CLILC PDF 50 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol, Gwasanaethau
Democrataidd yr adroddiad i'r pwyllgor gan nodi bod CLlLC yn y broses o
ymgynghori ar y Fframwaith Hunanasesu Cymorth a Datblygu Aelodau drafft i
ddisodli'r Siarter bresennol. Nododd yr Aelodau eu bod yn hyderus bod Cyngor Sir Ceredigion yn bodloni'r mwyafrif o'r gofynion fel y nodir yn y fframwaith hunanasesu, ac nad oeddent yn cynnig unrhyw ddiwygiadau i'r ddogfen ddrafft. |
|
Trafodaeth ar adolygu gwe-ddarlledu byw cyfarfodydd ychwanegol Cofnodion: Nododd Swyddogion fod cyfarfodydd y Cyngor a'r Cabinet yn cael eu ffrydio ar hyn o bryd ar
dudalennau Facebook y Cyngor a’u bod ar gael fel recordiadau. Fodd bynnag, nodwyd bod cefnogi ffrydio
cyfarfodydd byw yn rhoi pwysau sylweddol ar adnoddau ar hyn o bryd. Unwaith y
bydd problemau parhaus gyda'r system hybrid wedi'u datrys, mae Cyngor Sir
Ceredigion yn bwriadu trosglwyddo ffrydio byw o Facebook i ddolen a ddarperir
ar wefan y Cyngor drwy'r system rheoli cyfarfodydd Modern.gov. Byddai angen treialu'r system cyn ei
gweithredu'n llawn; fodd bynnag,
byddai'n caniatáu trosglwyddo rheolaeth dechnegol cyfarfodydd o TGCh i
Wasanaethau Democrataidd, gyda'r nod o gynyddu nifer y cyfarfodydd sydd ar gael
i'w gweld trwy wefan y Cyngor yn raddol.
Nodwyd y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 8 Rhagfyr 2023 yn amlinellu'r datblygiadau arfaethedig. Nododd yr Aelodau fod blaenoriaethau o ran ehangu'r trefniadau presennol i gynnwys y Pwyllgorau Rheoli Datblygu a Throsolwg a Chraffu. |
|
I ystyried eitemau ar y flaenraglen Cofnodion: a)
Recordio
/ ffrydio byw pwyllgorau ychwanegol; b) Canllawiau ar gyfer wardiau aml-aelod; c) Protocol Lles a Diogelwch Personol Cynghorwyr. |
|
Unrhyw fater arall y penderfyn'ar Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor Cofnodion: Dim. |