Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Dydd Mercher, 20fed Medi, 2023 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Nia Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Dim.

2.

Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Dim.

3.

I ystyried Cofnodion y cyfarfod blaenorol ac i ystyried unrhyw faterion sy'n codi pdf eicon PDF 87 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mehefin 2023 fel rhai cywir.

 

Materion yn codi

Gofynnodd Aelodau ynghylch y llinell amser ar gyfer gweithredu cyfarfodydd aml-leoliad, a chadarnhawyd y bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i Weithgor y Cyfansoddiad yn ddiweddarach y mis hwn, ac yna i’r Cyngor, ac y rhagwelir y bydd yn cael ei weithredu o fis Rhagfyr 2023.

4.

I ystyried adroddiad ar newidiadau i Gylch Gorchwyl y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd pdf eicon PDF 82 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol, Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad i'r Pwyllgor, gan nodi bod y gwelliannau'n cael eu cynnig er mwyn adlewyrchu geiriad Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, fodd bynnag, ni fydd hyn yn effeithio ar rôl y Pwyllgor.

 

Nododd yr Aelodau fod y ddeddfwriaeth yn gofyn bod y pwyllgor yn cyfarfod o leiaf unwaith y flwyddyn, ond roeddent yn falch bod y canllawiau'n nodi bod Cyngor Sir Ceredigion yn parhau i anelu at gynnal cyfarfodydd o leiaf 3 gwaith y flwyddyn.

 

CYTUNWYD argymell y diwygiadau arfaethedig i'r Cyngor.

5.

I ystyried adroddiad ar argymhelliad i gynnal arolwg Cynghorwyr mewn perthynas ag adnoddau ymchwil pdf eicon PDF 98 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Corfforaethol, Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad i'r Pwyllgor gan nodi bod Canllawiau Statudol ac Anstatudol Llywodraeth Cymru ar gyfer Prif Gynghorau yng Nghymru, yn argymell y dylai'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ystyried darparu Cymorth a Gwasanaethau Ymchwil i Gynghorwyr drwy nodi'r llinell sylfaen o gymorth sydd eisoes ar gael, yna cydweithio gydag aelodau i nodi sut y gellid datblygu'r gefnogaeth a'i pharamedrau gydag amser.  Nid yw hyn yn ofynion statudol, ond mae'r canllawiau'n awgrymu y dylai'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd 'ystyried' hyn.

 

Nododd yr Aelodau y gefnogaeth llinell sylfaen bresennol a restrir yn Atodiad A, a'r arolwg Aelodau arfaethedig a gynhwyswyd yn Atodiad B, gan argymhell bod manylion yr hyfforddiant a'r gweithdai a ddarparwyd hefyd yn cael eu cynnwys.  Nodwyd hefyd bod hyfforddiant gan Data Cymru ar 'Ddeall a Defnyddio Data' wedi'i drefnu yn ystod yr wythnosau nesaf, ac y byddai'n bwrpasol cynnal yr arolwg yn dilyn yr hyfforddiant.

 

CYTUNWYD i ofyn i Swyddogion gynnal arolwg Cynghorwyr mewn perthynas â'r cymorth sylfaenol sydd ar gael i Aelodau ar hyn o bryd ac unrhyw gymorth ychwanegol sydd ei angen.

6.

I ystyred adrodddiad ar newidiadau i Gynllun Deisebau Cyngor Sir Ceredigion i gynnwys e-ddeisebau pdf eicon PDF 93 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Corfforaethol, Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad i'r Pwyllgor gan nodi bod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i nodi cynllun deisebau, i gynnwys deisebau electronig.  Cyflwynwyd Adolygiad ddrafft o Ddogfen O o Gyfansoddiad y Cyngor i'w hystyried.

 

Gofynnodd yr Aelodau ynghylch rhesymeg cyfnod cynlluniau deiseb, a nodwyd nad yw'r rheoliadau'n nodi amserlen; fodd bynnag, byddai uchafswm o 3 mis yn caniatáu i faterion gael eu hadrodd i'r Cabinet mewn dull amserol.

 

Gofynnod yr Aelodau hefyd rôl Trosolwg a Chraffu ar dderbyn deisebau. Nodwyd na fyddai pob deiseb yn cwrdd â’r meini prawf i'w hystyried gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu; fodd bynnag, byddai gwybodaeth yn ymwneud â deisebau ar gael ar wefan y Cyngor ac yn cael ei hadrodd ar agenda a chofnodion y Cabinet ac y gallai Cadeiryddion Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu benderfynu trafod unrhyw faterion sy'n codi sy'n berthnasol ac o ddiddordeb i'w pwyllgorau.

 

CYTUNWYD i gyflwyno argymehllion i Weithgor y Cyfansoddiad mewn perthynas â’r argymhellion arfaethedig.

 

7.

I ystyried adroddiad ar Fframwaith Hunan-Asesu arfaethedig CLILC pdf eicon PDF 50 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol, Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad i'r pwyllgor gan nodi bod CLlLC yn y broses o ymgynghori ar y Fframwaith Hunanasesu Cymorth a Datblygu Aelodau drafft i ddisodli'r Siarter bresennol.

 

Nododd yr Aelodau eu bod yn hyderus bod Cyngor Sir Ceredigion yn bodloni'r mwyafrif o'r gofynion fel y nodir yn y fframwaith hunanasesu, ac nad oeddent yn cynnig unrhyw ddiwygiadau i'r ddogfen ddrafft.

8.

Trafodaeth ar adolygu gwe-ddarlledu byw cyfarfodydd ychwanegol

Cofnodion:

Arweiniodd y Cynghorydd Gareth Lloyd drafodaeth ar gynyddu nifer y cyfarfodydd sy'n cael eu recordio, neu eu ffrydio'n fyw gan eu bod yn darparu cofnod hanesyddol pwysig, ac yn rhoi cyfle i ystyriaethau gael eu hadolygu yn ddiweddarach.

 

Nododd Swyddogion fod cyfarfodydd y Cyngor  a'r Cabinet yn cael eu ffrydio ar hyn o bryd ar dudalennau Facebook y Cyngor a’u bod ar gael fel recordiadau.

 

Fodd bynnag, nodwyd bod cefnogi ffrydio cyfarfodydd byw yn rhoi pwysau sylweddol ar adnoddau ar hyn o bryd. Unwaith y bydd problemau parhaus gyda'r system hybrid wedi'u datrys, mae Cyngor Sir Ceredigion yn bwriadu trosglwyddo ffrydio byw o Facebook i ddolen a ddarperir ar wefan y Cyngor drwy'r system rheoli cyfarfodydd Modern.gov.  Byddai angen treialu'r system cyn ei gweithredu'n llawn; fodd bynnag,  byddai'n caniatáu trosglwyddo rheolaeth dechnegol cyfarfodydd o TGCh i Wasanaethau Democrataidd, gyda'r nod o gynyddu nifer y cyfarfodydd sydd ar gael i'w gweld trwy wefan y Cyngor yn raddol. 

 

Nodwyd y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 8 Rhagfyr 2023 yn amlinellu'r datblygiadau arfaethedig. Nododd yr Aelodau fod blaenoriaethau o ran ehangu'r trefniadau presennol i gynnwys y Pwyllgorau Rheoli Datblygu a Throsolwg a Chraffu.

9.

I ystyried eitemau ar y flaenraglen

Cofnodion:

a)              Recordio / ffrydio byw pwyllgorau ychwanegol;

b)              Canllawiau ar gyfer wardiau aml-aelod;

c)              Protocol Lles a Diogelwch Personol Cynghorwyr.

 

10.

Unrhyw fater arall y penderfyn'ar Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor

Cofnodion:

Dim.