Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Nia Jones
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y
Cynghorwyr Elizabeth Evans, Caryl Roberts a Mark Strong am eu hanallu i fod yn
y cyfarfod. |
|
Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu Cofnodion: Dim. |
|
Cadarnhau Cofnodion y cyfarfod blaenorol ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi PDF 202 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau bod
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Mawrth 2022 yn rhai cywir. Materion yn
codi Eitem 4 – nodwyd
y bydd y cyfarpar TGCh sy’n cael ei ddarparu i Aelodau yn cael ei adolygu mewn
cyfarfod diweddarach; Eitem14 – nodwyd
bod ‘CLIC-fersiwn2’ wedi ei gyflwyno erbyn hyn a bod nodiadau canllaw wedi eu
darparu ar gyfer pob Aelod. |
|
Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd PDF 52 KB Cofnodion: Nododd yr Aelodau y Cylch Gorchwyl a amlinellai swyddogaethau’r Pwyllgor. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Gwasanaethau Democrataidd adroddiad i’r
Pwyllgor, yn nodi bod y Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol i Aelodau 2022/23 wedi ei
chymeradwyo gan y Cyngor ar 20 Mai 2022 ac eithrio pwyntiau bwled 6 a 7 ym
mharagraff 8 yr adroddiad eglurhaol sy’n ymwneud â phresenoldeb rhithiol
Cynghorwyr nad ydynt yn Aelodau o’r Pwyllgor a sicrhau hawl o flaen llaw i fynd
i gynadleddau, seminarau, cyfarfodydd allanol a digwyddiadau hyfforddi; a
pharagraff 15.1 y Rhestr sy’n ymwneud â sicrhau hawl o flaen llaw i aros dros
nos. Cafodd y materion uchod eu cyflwyno
i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd eu hystyried. Nodwyd bod y
Cyngor wedi buddsoddi mewn cyfarpar i hwyluso presenoldeb rhithiol, gan roi cam
1 ar waith yn unol â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, ac y
byddai cam 2 yn cynnwys ap a fyddai’n gwneud y system yn fwy effeithiol, ac yn
goresgyn problemau technegol cynnar. Yn ystod cyfarfod
y Cyngor a gynhaliwyd ar 23 Medi 2021, ymrwymodd y Cyngor i fod yn Gyngor
Amrywiol. Mae’r hyblygrwydd a gynigir
gan bresenoldeb rhithiol yn hwyluso hynny i ystod ehangach o Aelodau. Cafodd hyn ei hyrwyddo o fewn Llyfryn
Gwybodaeth i Ymgeiswyr sydd wedi bod o fudd i nifer o Gynghorwyr. Mae’r Cyngor wedi
ymrwymo hefyd i leihau ei ôl troed carbon.
Bydd y ffaith bod llai o deithio’n digwydd yn gymorth i sicrhau hyn.
Nodwyd hefyd y bydd arbedion ariannol o ganlyniad i lai o deithio. Nodwyd bod
paragraff 15.1 y Rhestr wedi bod ar waith er 2017 er mwyn sicrhau gwerth am
arian drwy’r gwasanaethau caffael yn yr achosion hynny lle bo cyfiawnhad dros
deithio. Pwysleisiodd
aelodau pa mor bwysig oedd arwain drwy esiampl, gan nodi mai cyfarfodydd hybrid
yw’r ffordd ymlaen ac y dylid annog llai o deithio, fodd bynnag roedd pryderon
y byddai hi’n anodd i aelodau newydd ddod i adnabod ei gilydd ac adeiladu
perthynas â’i gilydd heb iddynt fod yn eistedd o amgylch bwrdd gyda’i gilydd. Nodwyd bod Aelodau’r Senedd fel rheol yn
bresennol mewn cyfarfodydd wyneb yn wyneb, fodd bynnag byddai llai o amser
teithio yn golygu y gallai aelodau dreulio mwy o amser yn eu hetholaethau
unigol. Nodwyd hefyd fod lle i wella
materion technegol o ran sicrhau nad yw Aelodau’n colli cysylltiad â
chyfarfodydd oherwydd nad yw lled y band yn ddigon eang a materion technegol
eraill. Nododd Aelodau hefyd y byddent o
bosibl am fynychu cyfarfodydd pwyllgorau nad ydynt yn aelodau ohonynt er mwyn
cael darlun llawnach o faterion oedd yn effeithio ar eu hetholwyr. Cadarnhaodd
Eifion Evans, y Prif Weithredwr, y byddai Aelodau yn gallu bod yn bresennol yn
rhithiol mewn cyfarfodydd o’r fath, fodd bynnag, ni fyddent yn gymwys i hawlio
costau teithio ar gyfer cyfarfodydd pwyllgorau nad ydynt yn aelodau ohonynt,
oherwydd y dulliau eraill posibl sydd ar gael erbyn hyn o ymuno â
chyfarfodydd. Mae gweithwyr y Cyngor
eisoes wedi eu herio i ddynodi arbedion yn y maes hwn, er mwyn gallu canolbwyntio ar wasanaethau rheng flaen. Nododd nifer o Aelodau nad ydynt yn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|
Adroddiad ar brotocolau presenoldeb o bell a gwe-ddarlledu cyfarfodydd PDF 230 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr
Corfforaethol y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad i’r Pwyllgor, gan nodi
bod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn ei gwneud yn ofynnol i
gynghorau wneud a chyhoeddi trefniadau ynghylch cyfarfodydd hybrid a
gweddarlledu trafodaethau. Nodwyd bod
Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar hyn o bryd ar ddogfen ganllaw ynghylch yr
uchod, ac os byddai unrhyw newidiadau yn sgil yr ymgynghoriad, yna byddent yn
cael eu cyfathrebu drwy’r sianeli priodol. Yn ogystal, mae disgwyl i’r
protocolau gael eu diweddaru o ganlyniad i gam 2 yn y broses o osod y system
hybrid. Gofynnodd Aelodau
i’r Swyddog Monitro a fyddai angen diwygio Rheolau Sefydlog y Cyngor a
chadarnhawyd na fyddai angen gwneud hyn, gan fod y protocolau yn adlewyrchu
arferion presennol o ran presenoldeb wyneb yn wyneb neu o bell. Yn dilyn trafodaeth, cytunwyd i argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo’r
protocolau, fel y’u nodir yn Atodiad A. |
|
Rhaglen Flaen ar gyfer 2022/23 PDF 6 KB Cofnodion: Ystyriodd yr
Aelodau y Flaen Raglen Waith ar gyfer 2022-23, gan nodi y bydd cyfleoedd i
Aelodau ddylanwadu ar gynnwys y rhaglen yn ystod gweddill y flwyddyn
fwrdeistrefol drwy Gadeirydd y Pwyllgor.
|
|
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor Cofnodion: Dim. |