Eitem Agenda

Adroddiad ar Gydnabyddiaeth Ariannol i Aelodau 2022/23 - materion a gyfeiriwyd gan y Cyngor i'w hystyried

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Gwasanaethau Democrataidd adroddiad i’r Pwyllgor, yn nodi bod y Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol i Aelodau 2022/23 wedi ei chymeradwyo gan y Cyngor ar 20 Mai 2022 ac eithrio pwyntiau bwled 6 a 7 ym mharagraff 8 yr adroddiad eglurhaol sy’n ymwneud â phresenoldeb rhithiol Cynghorwyr nad ydynt yn Aelodau o’r Pwyllgor a sicrhau hawl o flaen llaw i fynd i gynadleddau, seminarau, cyfarfodydd allanol a digwyddiadau hyfforddi; a pharagraff 15.1 y Rhestr sy’n ymwneud â sicrhau hawl o flaen llaw i aros dros nos.  Cafodd y materion uchod eu cyflwyno i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd eu hystyried. 

 

Nodwyd bod y Cyngor wedi buddsoddi mewn cyfarpar i hwyluso presenoldeb rhithiol, gan roi cam 1 ar waith yn unol â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, ac y byddai cam 2 yn cynnwys ap a fyddai’n gwneud y system yn fwy effeithiol, ac yn goresgyn problemau technegol cynnar. 

 

Yn ystod cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 23 Medi 2021, ymrwymodd y Cyngor i fod yn Gyngor Amrywiol.  Mae’r hyblygrwydd a gynigir gan bresenoldeb rhithiol yn hwyluso hynny i ystod ehangach o Aelodau.   Cafodd hyn ei hyrwyddo o fewn Llyfryn Gwybodaeth i Ymgeiswyr sydd wedi bod o fudd i nifer o Gynghorwyr. 

 

Mae’r Cyngor wedi ymrwymo hefyd i leihau ei ôl troed carbon.  Bydd y ffaith bod llai o deithio’n digwydd yn gymorth i sicrhau hyn. Nodwyd hefyd y bydd arbedion ariannol o ganlyniad i lai o deithio.  

 

Nodwyd bod paragraff 15.1 y Rhestr wedi bod ar waith er 2017 er mwyn sicrhau gwerth am arian drwy’r gwasanaethau caffael yn yr achosion hynny lle bo cyfiawnhad dros deithio.

 

Pwysleisiodd aelodau pa mor bwysig oedd arwain drwy esiampl, gan nodi mai cyfarfodydd hybrid yw’r ffordd ymlaen ac y dylid annog llai o deithio, fodd bynnag roedd pryderon y byddai hi’n anodd i aelodau newydd ddod i adnabod ei gilydd ac adeiladu perthynas â’i gilydd heb iddynt fod yn eistedd o amgylch bwrdd gyda’i gilydd.  Nodwyd bod Aelodau’r Senedd fel rheol yn bresennol mewn cyfarfodydd wyneb yn wyneb, fodd bynnag byddai llai o amser teithio yn golygu y gallai aelodau dreulio mwy o amser yn eu hetholaethau unigol.  Nodwyd hefyd fod lle i wella materion technegol o ran sicrhau nad yw Aelodau’n colli cysylltiad â chyfarfodydd oherwydd nad yw lled y band yn ddigon eang a materion technegol eraill.  Nododd Aelodau hefyd y byddent o bosibl am fynychu cyfarfodydd pwyllgorau nad ydynt yn aelodau ohonynt er mwyn cael darlun llawnach o faterion oedd yn effeithio ar eu hetholwyr. 

 

Cadarnhaodd Eifion Evans, y Prif Weithredwr, y byddai Aelodau yn gallu bod yn bresennol yn rhithiol mewn cyfarfodydd o’r fath, fodd bynnag, ni fyddent yn gymwys i hawlio costau teithio ar gyfer cyfarfodydd pwyllgorau nad ydynt yn aelodau ohonynt, oherwydd y dulliau eraill posibl sydd ar gael erbyn hyn o ymuno â chyfarfodydd.    Mae gweithwyr y Cyngor eisoes wedi eu herio i ddynodi arbedion yn y maes hwn, er mwyn gallu  canolbwyntio ar wasanaethau rheng flaen. 

 

Nododd nifer o Aelodau nad ydynt yn hawlio costau teithio am resymau personol ac o ran egwyddor, gan eu bod yn ei hystyried yn fraint cynrychioli eu wardiau.  Fodd bynnag, os mai’r nod yw hybu Cyngor Amrywiol, yna mae’n rhaid cydnabod y byddai angen i rai Aelodau hawlio tâl.  Dywedwyd hefyd ei bod hi’n bwysig annog Aelodau i ymroi i’r system hybrid, er mwyn sicrhau nad yw pobl eraill yn teimlo’n gyndyn o ymroi i’r dull hwn o gyfathrebu.

 

Gofynnodd Aelodau hefyd ynglŷn â chael mynediad at Office 365 drwy gyfrwng dyfeisiau technolegol eraill, megis i-ffôn ac Android a hefyd gofynnwyd am y protocolau ar gyfer presenoldeb rhithiol mewn cyfarfodydd.   Nodwyd y byddai pob Aelod yn derbyn canllawiau diwygiedig. 

 

Yn dilyn trafodaeth, cytunwyd i argymell y diwygiadau canlynol i’r Cyngor.  Mae’r diwygiadau wedi eu nodi mewn print trwm:

 

·       Paragraff 8; pwyntiau bwled 6 a 7 yr adroddiad eglurhaol:

 

“Yn unol â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, bydd y Cyngor yn cynnal cyfarfodydd hybrid, sy’n golygu na fydd angen i’r holl Gynghorwyr fod yn bresennol yn Siambr y Cyngor er mwyn mynychu cyfarfodydd. Dylai’r rheini nad ydynt yn aelodau o’r Pwyllgor perthnasol neu a wahoddir yn benodol i fod yn bresennol gael eu hannog i ymuno â’r cyfarfodydd o bell.

 

“Cyn trefnu presenoldeb wyneb yn wyneb mewn cynadleddau, seminarau, cyfarfodydd allanol a digwyddiadau hyfforddi, dylid cysylltu â’r Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Gwasanaethau Democrataidd o flaen llaw i wneud yn siŵr bod darpariaeth yn y gyllideb a bod yn angen mynychu wyneb yn wyneb.”

 

·       Paragraff 15.1 y Rhestr – Ni argymhellwyd unrhyw newidiadau i’r paragraff hwn, oherwydd ei fod wedi ei gynnwys yn y Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol i Aelodau ers 2017.

 

·       Rhestr 2, Dyletswyddau cymeradwy, y paragraff cyntaf i’w newid fel a ganlyn, yn unol â pharagraff 8, pwynt bwled 7 yr adroddiad eglurhaol:

 

 Dylai Cynghorwyr gysylltu â’r Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Gwasanaethau Democrataidd, os ydynt yn bwriadu hawlio costau teithio a threuliau am fod yn bresennol wyneb yn wyneb mewn cynadleddau, seminarau, cyfarfodydd allanol a digwyddiadau hyfforddi er mwyn gwneud yn siŵr bod darpariaeth yn y gyllideb a bod angen mynychu wyneb yn wyneb.”

Dogfennau ategol: