Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Lisa Evans Dwynwen Jones
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Dim |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 Cofnodion: Gwnaeth y Cynghorydd Endaf Edwards ddatgan buddiant personol parthed y drafodaeth ar gyflogau’r Staff. |
|
Adroddiad am Gyllideb ddrafft 24/25 PDF 2 MB Cofnodion: Rhoddodd Cadeirydd y
Pwyllgor, y Cynghorydd Keith Evans, fraslun o weithdrefn y cyfarfod a
chroesawodd i’r cyfarfod Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies, y
Cynghorydd Gareth Davies - Aelod o’r Cabinet dros y Gwasanaethau Cyllid a
Chaffael, Aelodau’r Pwyllgor, Aelodau eraill o’r Cabinet, Aelodau nad oeddent
ar y Pwyllgor, a Swyddogion. Gwnaeth Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies, gyflwyno’r adroddiad
ar gyllideb ddrafft 2024/2025. Dywedodd yr Arweinydd fod y sefyllfa ariannol
hon sy'n wynebu'r Cyngor yn eithriadol o anodd gyda phwysau ariannol sylweddol.
Dywedodd nad yw erioed wedi gweld sefyllfa ariannol mor heriol yn ystod ei
gyfnod yn Gynghorydd gan mai dim ond cynnydd o 2.6% a gafodd Ceredigion yn
setliad drafft Llywodraeth Cymru 24/25. Dywedodd wrth Aelodau'r Pwyllgor ei fod wedi cyfarfod â rhai Cynghorau Tref
a Chymuned i drafod y sefyllfa ariannol a bod mwy o gyfarfodydd wedi'u trefnu
ar gyfer yr wythnos oedd i ddod. Roedd yr Aelod o’r Cabinet dros Gyllid a Chaffael, y Cynghorydd Gareth
Davies, wedi cyflwyno’r wybodaeth sy'n weddill yn yr adroddiad. Adleisiodd y
Cynghorydd Gareth Davies hefyd mai dyma'r sefyllfa ariannol waethaf, o bell
ffordd, y mae wedi ei hwynebu fel Cynghorydd ar adeg pennu'r gyllideb. Rhoddwyd gwybod mai dyma’r meysydd y gallai'r pwyllgor hwn fod am eu
hystyried o blith Atodiad A ym mhapurau’r agenda: a) Adran 3 – Setliad Ariannol Dros Dro Llywodraeth Cymru ar gyfer
Ceredigion yn 24/25. b) Adran 4 – Ystyriaethau lefel uchel o ran y Gyllideb gan gynnwys: • Adran 4b) – Y Gyllideb
Refeniw - Cyfanswm y Pwysau o ran Costau • Adran 4d) – Y Gyllideb
Refeniw – Cynigion o ran Gwneud Arbedion • Adran 4f) – Cynnig y Cabinet
ynghylch Premiymau Treth y Cyngor • Adran 4g) – Y sefyllfa
bosibl o ran Treth y Cyngor c) Adran 5 – Y gofyniad o ran y Gyllideb Ddrafft d) Adran 6 – Risgiau i’r Gyllideb e) Adran 7 – Y Rhaglen Gyfalaf Aml-flwyddyn arfaethedig f) Adran 8 – Cydnerthedd ariannol (gan gynnwys Cronfeydd wrth gefn a
Balansau Cyffredinol) g) Adran 9 – Rhagolygon Ariannol y Tymor Canolig h) Yr 11 o argymhellion a gytunwyd gan y Cabinet ar 23/01/24. i) Unrhyw faterion eraill ynghylch y Gyllideb y
mae’r Pwyllgor yn eu hystyried sy’n briodol. Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan yn agored mai ei Chyllideb Ddrafft ar gyfer
24/25 yw'r “un fwyaf cyfyng a phoenus ers datganoli”. Cynnydd ariannol o 2.6%
yn unig y mae Ceredigion wedi’i dderbyn (y 14eg o’r 22ain Awdurdod Lleol).
Ceredigion hefyd sydd wedi derbyn y cynnydd isaf y pen o'r boblogaeth yng
Nghymru gyfan. Dyma felly yw Cyllideb fwyaf cyfyng Cyngor Sir Ceredigion ac
mae’n waeth nag a ragwelwyd yn flaenorol, ac yn llai na’r 3.1% o gynnydd y
cyfeiriodd Llywodraeth Cymru ato yn yr hydref.
Y pennawd o Setliad Ariannol Dros Dro Llywodraeth Leol yn Lloegr oedd bod cynnydd cyffredinol o 6.5% mewn cyllid gyda £1 biliwn o gyllid grant ychwanegol ar gyfer Gofal Cymdeithasol o'i gymharu â 23/24. Gan fod Llywodraeth Cymru yn weinyddiaeth ddatganoledig, mae ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 32. |
|
Cofnodion: CYTUNWYD bod cofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 6 Tachwedd 2023 yn gywir. Nid oedd unrhyw faterion yn codi o’r
cofnodion hynny. 9 Unrhyw fater
arall y penderfyna’r Cadeirydd fod angen i’r Pwyllgor roi sylw brys iddo Ni chodwyd yr un mater arall. |