Cofnodion:
Rhoddodd Cadeirydd y
Pwyllgor, y Cynghorydd Keith Evans, fraslun o weithdrefn y cyfarfod a
chroesawodd i’r cyfarfod Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies, y
Cynghorydd Gareth Davies - Aelod o’r Cabinet dros y Gwasanaethau Cyllid a
Chaffael, Aelodau’r Pwyllgor, Aelodau eraill o’r Cabinet, Aelodau nad oeddent
ar y Pwyllgor, a Swyddogion.
Gwnaeth Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies, gyflwyno’r adroddiad
ar gyllideb ddrafft 2024/2025. Dywedodd yr Arweinydd fod y sefyllfa ariannol
hon sy'n wynebu'r Cyngor yn eithriadol o anodd gyda phwysau ariannol sylweddol.
Dywedodd nad yw erioed wedi gweld sefyllfa ariannol mor heriol yn ystod ei
gyfnod yn Gynghorydd gan mai dim ond cynnydd o 2.6% a gafodd Ceredigion yn
setliad drafft Llywodraeth Cymru 24/25.
Dywedodd wrth Aelodau'r Pwyllgor ei fod wedi cyfarfod â rhai Cynghorau Tref
a Chymuned i drafod y sefyllfa ariannol a bod mwy o gyfarfodydd wedi'u trefnu
ar gyfer yr wythnos oedd i ddod.
Roedd yr Aelod o’r Cabinet dros Gyllid a Chaffael, y Cynghorydd Gareth
Davies, wedi cyflwyno’r wybodaeth sy'n weddill yn yr adroddiad. Adleisiodd y
Cynghorydd Gareth Davies hefyd mai dyma'r sefyllfa ariannol waethaf, o bell
ffordd, y mae wedi ei hwynebu fel Cynghorydd ar adeg pennu'r gyllideb.
Rhoddwyd gwybod mai dyma’r meysydd y gallai'r pwyllgor hwn fod am eu
hystyried o blith Atodiad A ym mhapurau’r agenda:
a) Adran 3 – Setliad Ariannol Dros Dro Llywodraeth Cymru ar gyfer
Ceredigion yn 24/25.
b) Adran 4 – Ystyriaethau lefel uchel o ran y Gyllideb gan gynnwys:
• Adran 4b) – Y Gyllideb
Refeniw - Cyfanswm y Pwysau o ran Costau
• Adran 4d) – Y Gyllideb
Refeniw – Cynigion o ran Gwneud Arbedion
• Adran 4f) – Cynnig y Cabinet
ynghylch Premiymau Treth y Cyngor
• Adran 4g) – Y sefyllfa
bosibl o ran Treth y Cyngor
c) Adran 5 – Y gofyniad o ran y Gyllideb Ddrafft
d) Adran 6 – Risgiau i’r Gyllideb
e) Adran 7 – Y Rhaglen Gyfalaf Aml-flwyddyn arfaethedig
f) Adran 8 – Cydnerthedd ariannol (gan gynnwys Cronfeydd wrth gefn a
Balansau Cyffredinol)
g) Adran 9 – Rhagolygon Ariannol y Tymor Canolig
h) Yr 11 o argymhellion a gytunwyd gan y Cabinet ar 23/01/24.
i) Unrhyw faterion eraill ynghylch y Gyllideb y
mae’r Pwyllgor yn eu hystyried sy’n briodol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan yn agored mai ei Chyllideb Ddrafft ar gyfer
24/25 yw'r “un fwyaf cyfyng a phoenus ers datganoli”. Cynnydd ariannol o 2.6%
yn unig y mae Ceredigion wedi’i dderbyn (y 14eg o’r 22ain Awdurdod Lleol).
Ceredigion hefyd sydd wedi derbyn y cynnydd isaf y pen o'r boblogaeth yng
Nghymru gyfan. Dyma felly yw Cyllideb fwyaf cyfyng Cyngor Sir Ceredigion ac
mae’n waeth nag a ragwelwyd yn flaenorol, ac yn llai na’r 3.1% o gynnydd y
cyfeiriodd Llywodraeth Cymru ato yn yr hydref.
Y pennawd o Setliad Ariannol Dros Dro Llywodraeth Leol yn Lloegr oedd bod
cynnydd cyffredinol o 6.5% mewn cyllid gyda £1 biliwn o gyllid grant ychwanegol
ar gyfer Gofal Cymdeithasol o'i gymharu â 23/24. Gan fod Llywodraeth Cymru yn
weinyddiaeth ddatganoledig, mae ganddi’r rhyddid i ddefnyddio ei harian fel y
mynn. O ganlyniad mae nifer o benderfyniadau polisi gwahanol yn bodoli yng
Nghymru o gymharu â Lloegr.
Mae canlyniad Setliad Ariannol Dros Dro Llywodraeth Leol, ynghyd ag amryw o
grantiau unigol penodol yn cael eu torri, yn ogystal â phwysau costau sylweddol
iawn ar wasanaethau, nad ydynt yn dangos unrhyw arwyddion o leihau, yn golygu
nad yw hi bellach yn bosibl parhau i ddiogelu Gwasanaethau. Bellach mae
penderfyniadau anodd iawn i'w gwneud o ran y gyllideb fel rhan o’r pwyso a
mesur ynghylch sut a lle i leihau costau gwasanaethau'r Cyngor, ochr yn ochr ag
ystyried y lefel briodol o gyllid i'w godi drwy'r Dreth Gyngor.
Dyma’r pwyntiau allweddol yn yr adroddiad hwn:
• Amcangyfrifir
bod y pwysau o ran y costau refeniw diweddaraf y mae’r Cyngor yn eu hwynebu yn
£18.1m, sy’n ddigynsail ac yn cyfateb i ffactor chwyddiant penodol o 10.1% ar
gyfer Ceredigion. Mae hyn yn cymharu â’r sefyllfa lle y mae chwyddiant yn
gyffredinol yn rhedeg ar 3.9% (ffigwr y CPI, Tachwedd 2023). Felly mae angen
gwneud yn iawn am ddiffyg o £14.6m yn y gyllideb drwy gyfuniad o Ostyngiadau yn
y Gyllideb a chodi’r Dreth Gyngor.
• Mae gofynion
cystadleuol ar y Rhaglen Gyfalaf yn gwaethygu oherwydd gostyngiad yn y cyllid
cyfalaf Craidd gan Lywodraeth Cymru. Mae lefel bresennol y cyllid cyfalaf
craidd (£5.8m) yn dal yn is na'r hyn a dderbyniwyd dros 15 mlynedd yn ôl ac
mae'n cynrychioli toriad mewn termau real o £5.1m (neu bron i 50%) dros y
cyfnod hwnnw.
• Bydd y gost
o barhau i gyflawni polisi Llywodraeth Cymru o sicrhau bod y Cyflog Byw
Gwirioneddol (cynnydd o 10.1%) yn cael ei dalu i staff Gofal Cymdeithasol
cofrestredig yn costio £0.9m ychwanegol i Geredigion ar gyfer 24/25. Dyma'r
gost ychwanegol y tu hwnt i ariannu cynnydd sy'n gysylltiedig â'r Cyflog Byw
Cenedlaethol ac mae'n rhan o gyfanswm pwysau costau amcangyfrifedig o £2.7m i
ariannu chwyddiant sylfaenol ar wasanaethau Gofal Cymdeithasol a gomisiynwyd yn
allanol (e.e. Gofal Cartref, Taliadau Uniongyrchol a lleoliadau preswyl i Bobl
Hŷn).
• Mae'r
galwadau a’r pwysau ar gyllidebau sy'n ymwneud â Gofal Cymdeithasol yn parhau i
gynyddu - cyfanswm o tua £6.2m ar ben dyfarniadau cyflog gweithwyr a
darpariaethau o ran chwyddiant sylfaenol ar gyfer gwasanaethau a gomisiynir yn
allanol.
• Mae
Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn parhau i gynyddu'r Cyflog Byw Cenedlaethol
(cynnydd o 9.7%) ond mae hefyd yn parhau i beidio â darparu unrhyw gyllid ar
gyfer hyn. Felly mae disgwyl i ddyfarniadau cyflog gweithwyr ar gyfer 24/25,
nad ydynt yn cael eu pennu gan Gyngor Sir Ceredigion, barhau i gynyddu. Gyda
phwysau costau amcangyfrifedig o tua £4.8m, mae hwn yn newidyn sylweddol iawn o
ran y gyllideb. Mae'r dull tuag at Gyflog i'r gwrthwyneb i'r hyn a brofwyd yn
ystod y cyfnod cyni blaenorol, pan mai dull George Osbourne oedd gorfodi
cyflogau, am sawl blwyddyn, i gael eu rhewi / gosod capiau cyflog o 1% arnynt,
fel modd o reoli costau.
• Am yr ail
flwyddyn yn olynol, mae cynnydd sylweddol wedi'i gynnig gan Awdurdod Tân
Canolbarth a Gorllewin Cymru ar gyfer yr ardoll Tân sy'n rhan o Gyllideb Cyngor
Sir Ceredigion. Byddai'r cynnig presennol yn arwain at gynnydd o 12% yng nghost
ardoll tân presennol y Cyngor o £4.9m a byddai'n cyfateb i dros 1% ar Dreth y
Cyngor.
• Mae effaith
gudd ar y Gyllideb yn sgil gostyngiad yng nghyllid grantiau penodol Llywodraeth
Cymru. Er enghraifft - mae’r toriad arfaethedig o dros 20% yng nghyllid y
Gweithlu Gofal Cymdeithasol (colled ddangosol o £250k) yn peri dryswch ar adeg
pan fo her sylweddol o ran recriwtio a chadw staff yn y sector Gofal Cymdeithasol.
• Er gwaethaf
y setliad is na'r disgwyl, mae'r Cabinet yn dal i gynnig cynyddu Cyllidebau
Dirprwyedig Ysgolion gan 3.1%, sef y senario a gyflwynwyd i Benaethiaid a
Llywodraethwyr ddiwedd mis Medi diwethaf.
• Mae'r
Gofyniad drafft cyfredol ar y Gyllideb ar gyfer 24/25 yn gynnydd is (6.9%) na'r
cynnydd yn y Gofyniad ar Gyllideb 23/24 (8.6%). Serch hynny, cynnydd o 2.6% yn
unig a geir yn setliad Llywodraeth Cymru ar gyfer 24/25, o gymharu â 8.1% yn
23/24.
• Lefel y
Dreth Gyngor Band D bresennol yng Ngheredigion (i bob cydran) ar gyfer 23/24 yw
£1,908, sydd ychydig yn uwch na’r Dreth Gyngor gyfartalog ar gyfer Band D yng
Nghymru, sef £1,879. Mae lefelau cyfartalog Treth Gyngor yng Nghymru dal yn is
na’r cyfartaledd cyfatebol ar gyfer Awdurdodau Unedol yn Lloegr (£2,139 ar
gyfer 23/24). Mae elfen bresennol y Cyngor Sir o Dreth Gyngor Band D 23/24 yn
werth £1,553.60.
• Cytunodd y
Cyngor yn ddiweddar i gynyddu’r premiymau Treth y Cyngor y gellir eu codi ar
Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag hirdymor, yn weithredol o fis Ebrill 2024. Mae gan y
penderfyniad hwn y potensial i gynorthwyo gyda Her y Gyllideb drwy osgoi
cynnydd uwch eto yn Nhreth y Cyngor, os bydd yr Aelodau o’r un farn.
• Mae'r
Cabinet yn ymwybodol bod tua 85% o'r holl anheddau trethadwy yng Ngheredigion
yn perthyn i Fandiau A i E. Mae ffigurau cyfredol Cyllideb ddrafft 24/25 yn
nodi cynnydd posibl yn Nhreth y Cyngor (ar gyfer elfen Cyngor Sir Ceredigion) o
ychydig yn fwy na £4 yr wythnos (neu £18 y mis) ar gyfer eiddo Band D.
• Mae gwaith
pellach yn mynd rhagddo i weld ymhle/ os gellir gwneud gostyngiadau pellach yn
y gyllideb i wella'r sefyllfa ymhellach.
Mae'r broses Graffu ar y Gyllideb a chyfranogiad yr holl Aelodau yn rhan
o'r broses hon. Mae'n amlwg iawn o'r uchod nad yw cynnydd o 2.6% yng nghyllid
craidd Llywodraeth Cymru, ynghyd â thoriadau mewn cyllid grant penodol gan
Lywodraeth Cymru, yn darparu agos ddigon o gyllid i allu delio â rhannau
sylweddol o gyllideb y Cyngor sy’n amodol ar chwyddiant ymhell uwchlaw lefelau
CPI, ac mewn sawl maes yn cyrraedd lefelau digid dwbl. Golyga hyn fod her
anferthol o ran y gyllideb ac na ellir canolbwyntio yn unig bellach ar wneud
pethau'n wahanol ac mewn ffordd arloesol. Mae angen i'r Cyngor wneud arbedion
sylweddol yn y Gyllideb a fydd yn gorfod cynnwys lleihau ac, mewn rhai
achosion, dileu gwasanaethau'n llwyr.
Yn anffodus, nid yw'r sefyllfa hon yn debygol o gael ei chyfyngu i'r
flwyddyn ariannol nesaf yn unig, oherwydd mae'r rhagolygon o ran cyllid
cyhoeddus yn y tymor canolig bellach yn edrych hyd yn oed yn fwy llwm, er y
ffaith bod Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig i'w gynnal erbyn diwedd Ionawr
2025. Wrth symud ymlaen, mae angen i Gyngor Sir Ceredigion ail-werthuso ei
bwrpas a'i berthynas sylfaenol â'i drigolion i gynnwys dull gweithredu
sylfaenol sy'n canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau statudol craidd, wedi'u
seilio ar lefelau priodol o ymyrraeth. Oni bai bod cyfnod newydd o rewi
cyflogau a’r pwysau lleiaf posibl o ran costau Gofal Cymdeithasol, ac yn
absenoldeb ail-werthuso ei bwrpas a'i ddull gweithredu, mae Cyngor Sir
Ceredigion yn debygol iawn o fod yn anghynaladwy yn ariannol yn y tymor
canolig.
Gofynnwyd i’r Aelodau
godi pryderon am wasanaethau penodol yn y Pwyllgorau Craffu perthnasol.
Wedyn rhoddodd Duncan Hall,
Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Cyllid a Chaffael, ddiweddariad ar lafar
ynghylch sefyllfa ddiweddaraf y Gyllideb, fel a ganlyn:
o
Yn sgil y £600m a gyhoeddwyd ar 24/01/24 ar gyfer Awdurdodau Lleol Lloegr,
deellir y byddai Llywodraeth Cymru yn derbyn cyllid canlyniadol drwy fformiwla
Barnett o oddeutu £25m. Gallai hyn fod
yn werth tua £600k i Geredigion - i’w gadarnhau. Yn ogystal, mae'r gwaith newydd ddod i ben
ar y broses gaffael ar gyfer contract gwastraff gweddilliol newydd y
Cyngor. Bydd hyn yn cael ei adrodd i'r
Cabinet ar 20/02/24 gan broffwydo, am y tro, y daw mantais ariannol o
£300k. Mae'r cyfuniad o'r ddau ffactor,
os cân nhw eu cadarnhau, yn werth tua 2% yn nhermau Treth y Cyngor.
o
Rhoddwyd gwybod i Aelodau'r Pwyllgor fod Arweinydd y Cyngor wedi anfon
llythyr i Lywodraeth Cymru sy'n cynnwys 12 pwynt lobïo. Mae'r llythyr hwn bellach wedi'i rannu
ymhlith holl Aelodau'r Cyngor.
o
Pwysleisiodd DH faint yr her ariannol tymor canolig os caiff cyllid y
sector cyhoeddus ei gyfyngu i ddim mwy na chynnydd blynyddol o 1%, neu waeth o
bosib, o 25/26 ymlaen.
Bydd y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol yn
ystyried, ar 08/02/24 a 09/02/24, yr effaith ar y Gwasanaethau sydd yn eu
cylchoedd gwaith nhw.
Wedyn rhoddwyd cyfle i'r Aelodau ofyn cwestiynau a
atebwyd yn eu tro gan yr Arweinydd, yr Aelod o’r Cabinet neu'r Swyddog
perthnasol. Dyma’r prif bwyntiau a
godwyd:
•
Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd nad yw'n
anghyfreithlon defnyddio cronfeydd wrth gefn cyffredinol, ond ei fod yn cael ei
gydnabod yn arfer gwael os nad archwiliwyd ac ystyriwyd llwybrau eraill yn y
lle cyntaf. Rhoddodd yr Aelod o’r Cabinet a'r Swyddog Adran 151 eglurhad ar y
polisi presennol ynghylch defnyddio cronfeydd wrth gefn cyffredinol ac
atgoffodd yr Aelodau mai dim ond unwaith y gallwch ddefnyddio arian wrth gefn.
•
Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd bod modd
cyflawni cyllideb gytbwys a chadarn.
•
Dywedodd Aelod y bydd angen ymgynghori ar lawer o
gynigion. O ystyried yr amserlen ar gyfer y gyllideb hon, gofynnodd pa mor
hyderus oedd y Swyddog Adran 151 y bydd y rhain yn cael eu cyflawni? Mewn ymateb, dywedwyd na fydd modd cyflawni
pob arbediad cyllideb yn 100%, ond bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i'r
tebygolrwydd o gyflawni a'r cwantwm fydd ynghlwm. Dywedwyd y bydd angen i'r Swyddog
Arweiniol Corfforaethol perthnasol sy'n gyfrifol am yr arbedion arfaethedig
gael mandad gwleidyddol cyn gynted â phosib oherwydd ni all yr Awdurdod
fforddio aros.
•
Mynegodd Aelod siom nad oedd yr opsiynau
arfaethedig wedi cael eu hystyried yn gynharach. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod 4 Gweithdy
Cyllideb wedi'u cynnal ar gyfer yr Aelodau ers mis Medi 2023 a bod ymgysylltu
parhaus wedi digwydd gyda’r Cynghorwyr, yn fwy felly nag ym mhrosesau
cyllidebol y blynyddoedd diwethaf.
•
Cadarnhawyd y byddai gan bob Swyddog Arweiniol
Corfforaethol ragor o wybodaeth i’r Aelodau am y cynigion o ran arbedion, a
hynny yn y Pwyllgorau Craffu unigol.
•
Dywedodd yr Arweinydd wrth Aelodau'r Pwyllgor ei
fod wedi cyhoeddi llythyr ysgrifenedig at drigolion Ceredigion sy'n rhoi gwybod
am y sefyllfa ariannol bresennol.
•
Rhoddwyd gwybod, os na chaiff y Dreth Gyngor
arfaethedig ei chymeradwyo, y bydd angen edrych yn fanylach ar Wasanaethau
unigol ac efallai y bydd rhai yn cael eu cwtogi/dileu.
•
Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch praesept
Cynghorau Tref a Chymuned, dywedwyd bod llawer wedi pennu eu praesept eisoes a
bod y cyfarfodydd yn rhy hwyr o bosib. Cadarnhawyd bod rhai yn ailystyried eu
praesept yn dilyn y cyfarfodydd a gynhaliwyd a bod ganddynt bythefnos o hyd i
gyflwyno, tan ddiwedd dydd ar 14/02/24.
•
Cadarnhaodd yr Arweinydd ei fod wedi herio
ffigurau diweddar y Swyddfa Ystadegau Gwladol parthed y boblogaeth, gan fod
ffigurau diweddaraf y Cyfrifiad yn dangos bod poblogaeth Ceredigion yn uwch, ac
os felly dylai setliad y gyllideb adlewyrchu'r data cywir.
•
Amlygwyd bod cost cludiant o'r cartref i'r ysgol
yn bryder.
•
Mewn ymateb i gwestiwn yn cwestiynu'r ffigwr am chwyddiant
cyflog a bod yn rhan o drafodaethau’r cyflog cenedlaethol, rhoddwyd esboniad
manwl am y sefyllfa gyfreithiol, gan gynnwys cyngor y Prif Weithredwr, parthed
tâl Athrawon a thâl i’r staff cyffredinol.
•
Cafwyd trafodaeth hirfaith ynghylch cynnig y Cabinet
parthed Premiwm Treth y Cyngor a oedd i’w weld ar dudalennau 15 ac 16 o becyn
yr agenda. Cododd llawer o Aelodau
bryderon cryf ynghylch newid posib yn y polisi a gwnaethant ofyn am esboniad
cyn cytuno. Esboniwyd yr egwyddor o
gapio'r gronfa Tai Cymunedol ar uchafswm o £2.0m a rhyddhau 75% o’r cyllid i
gefnogi'r gyllideb gyffredinol (gwerth tua 3.5% yn nhermau Treth y Cyngor).
•
Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd bod llythyrau
wedi'u hanfon at bob Ysgol Gynradd ac Uwchradd yng Ngheredigion gan roi'r dewis
i Benaethiaid a Llywodraethwyr wahodd staff (os bydd Ysgol yn ystyried hynny’n
briodol) i gyflwyno datganiad o ddiddordeb, mewn egwyddor, i ystyried yr opsiwn
o ddiswyddo gwirfoddol.
Ar ôl trafod, CYTUNODD yr Aelodau i nodi'r argymhellion canlynol:
ARGYMHELLION:
1. Ystyried sefyllfa gyffredinol y gyllideb yn unol â’r
hyn a nodir yn yr adroddiad am y gyllideb yn Atodiad A.
2. Nodi y bydd y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu unigol yn
ystyried, ar 08/02/24 a 09/02/24, yr effaith ar y gwasanaethau sydd yn eu
cylchoedd gwaith nhw.
RHESWM DROS YR ARGYMHELLION: Er mwyn cynorthwyo’r gwaith o baratoi cyllideb
gytbwys a sicrhau bod y gyllideb gyffredinol sy’n cael ei chynnig yn cael ei
chraffu’n briodol.
Yn ogystal, gofynnodd Aelodau’r Pwyllgor am y wybodaeth
ganlynol:
1. Gwybodaeth yn ymwneud ag
arbedion posib, er enghraifft pe bai perchnogaeth y Gwasanaethau Hamdden yn
cael ei throsglwyddo i Ymddiriedolaethau yn y dyfodol (y tu hwnt i Broses
Gyllidebol 24/25).
2. Esboniad llawnach
ynghylch yr argymhelliad sy'n ymwneud â defnyddio'r premiwm ar dai gwag ac ail
gartrefi a'r effaith ar y polisi presennol.
3. Rhagor o wybodaeth am y
gymhareb staff-preswylwyr o'i chymharu ag Awdurdodau Lleol eraill.
Diolchodd y Cadeirydd ac Aelodau’r Pwyllgor i'r
Swyddogion am eu gwaith caled wrth baratoi’r papurau ar gyfer yr agenda.
Dogfennau ategol: