Lleoliad: o bell trwy fideo-gynhedledda
Cyswllt: Lisa Evans
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Mark Strong am
na allai fod yn bresennol yn y cyfarfod.
|
|||
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiant personol/buddiant sy’n rhagfarnu. |
|||
Diweddariad ynghylch Cylch Caron Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd Nerys Lewis a Peter Skitt i’r cyfarfod. Esboniodd Nerys y sefyllfa fel a ganlyn. Wedi i Gymdeithas Dai
Canolbarth Cymru (Barcud wedi hynny) roi’r gorau i fod yn bartner datblygu,
drwy gydsyniad, nodwyd bod yr holl bartneriaid eraill yn parhau yn gwbl
ymrwymedig i ddarparu Canolfan Adnoddau Integredig yn Nhregaron,
sef Cylch Caron. Esboniodd Nerys hefyd
i Peter Skitt arwain y prosiect ers i Sue
Darnbrook, Cyfarwyddwr Statudol y
Gwasanaethau Cymdeithasol ymddeol fel yr Uwch Swyddog Cyfrifol. Hysbysodd Peter Aelodau’r Pwyllgor fod
gweithgor o swyddogion y Bwrdd Iechyd a Swyddogion y Cyngor yn adolygu ac yn
diweddaru’r achos busnes ar hyn o
bryd, yn barod ar gyfer bwrw ymlaen â’r cynllun. Y bwriad yw cychwyn aildendro
am bartner datblygu yn ystod tymor yr hydref 2021. Cam nesaf y prosiect partneriaeth fydd trefnu
digwyddiad ‘Cwrdd â’r Prynwr’ er mwyn ailsefydlu’r broses o ddenu partner
datblygu newydd. Bydd proses dendro
ffurfiol ar waith wedi hynny. Yna, rhoddwyd cyfle i aelodau ofyn cwestiynau ac atebwyd
y cwestiynau hynny gan y Swyddogion a oedd yn bresennol. Yn dilyn trafodaeth, gofynnwyd i Aelodau’r Pwyllgor nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. Diolchodd y Cadeirydd i Peter Skitt a Nerys Lewis am fynychu’r cyfarfod ac am ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am Gylch Caron. Cynigiodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor yn derbyn diweddariad arall ymhen 6/8 mis, yn dilyn y digwyddiad ‘Cwrdd â’r Prynwr’ a’r broses dendro ffurfiol. Cytunwyd i hyn |
|||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd Diana
Davies a Lynne Walters i’r cyfarfod
i gyflwyno’r adroddiad. Cyfeiriodd y Cynghorydd Bryan Davies at bryder y dylid ystyried ei godi mewn cyfarfod o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn y dyfodol, sef pryder sy’n ymwneud â Chyfoeth Naturiol Cymru. Gwnaeth y Cynghorydd Davies gais i’r pryder hwn gael ei drafod mewn Pwyllgor Craffu. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi caniatâd i Ddŵr Cymru ollwng carthion heb eu trin i afonydd. Cyfeiriodd y Cynghorydd Davies at enghraifft yn ei ward, sef yr Afon Llethi, Llanarth ac enghraifft arall yng Ngilfachreda. Mae’r afon hon yn llifo i’r môr rhwng Traeth Gwyn a Chei Bach. Cafwyd rhybudd ar y cyfryngau cymdeithasol yr wythnos hon i’r cyhoedd beidio ag ymdrochi yn y môr oherwydd llygredd!
Cododd y
Cynghorydd Davies bryder arall a oedd yn gysylltiedig â’r pryder uchod, sef
lefelau uchel o ffosffadau yn afon Teifi a’r afonydd / nentydd sy’n llifo
iddi. Mae ceisiadau cynllunio sydd yn y
llefydd hyn yn wynebu proses hir oherwydd rheolau Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’n effeithio ar ddwy ran o dair o
Geredigion. Oni ddylai Dŵr Cymru a
Chyfoeth Naturiol Cymru fod yn unioni’r sefyllfa yn hytrach na beio’r ffermwyr
neu’r datblygwyr? Cytunwyd
y byddai Diana Davies yn archwilio cysylltiadau gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ac
yn nodi’r pryder hwn mewn cyfarfod o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn y
dyfodol. Cyflwynodd Lynne Walters gofnodion drafft
cyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2021,
adroddiad pob un o Grwpiau Prosiect y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ac Adroddiad
Blynyddol Cynllun Llesiant Lleol Ceredigion ar gyfer 2020-2021. Roedd llawer o
gwestiynau ac fe’u hatebwyd yn eu tro gan y
Swyddogion. Tynnwyd sylw at y ffaith
hefyd bod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion ar hyn o bryd yn cynnal
ymarfer ymgysylltu er mwyn i’r wybodaeth honno fod yn sail i’r Asesiad Llesiant
Lleol nesaf. Maent am gasglu gwybodaeth am lesiant pobl a chymunedau lleol, yn
awr ac i’r dyfodol. Gall llawer o bethau ddylanwadu
ar lesiant unigolion a chymunedau, megis ffactorau economaidd, cymdeithasol,
amgylcheddol a diwylliannol. Mae
gwybodaeth am yr ymgysylltiad wedi ei hanfon at bob Cynghorydd, Cyngor Cymuned
a Chyngor Tref a rhanddeiliaid eraill er mwyn iddynt
gyfrannu. Y dyddiad cau ar gyfer ymateb i’r Holiadur Llesiant Rhanbarthol yw 8
Hydref 2021. Yn dilyn trafodaeth, gofynnwyd i
Aelodau’r Pwyllgor ystyried yr argymhellion canlynol:
|
|||
‘Ceredigion Teg a Chyfartal’ - Adroddiad Monitro’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-21 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Croesawyd
Michael Smith i gyflwyno’r adroddiad. Yn dilyn trafodaeth, gofynnwyd i
Aelodau’r Pwyllgor dderbyn a chefnogi Adroddiad Monitro’r Cynllun Cydraddoldeb
Strategol rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2021 a gwneud argymhellion fel y
bo’n briodol pan gyflwynir yr adroddiad i’r Cabinet ar 5 Hydref 2021. Cytunodd yr aelodau i dderbyn Adroddiad
Monitro’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth
2021 ac awgrymwyd y dylai’r Cabinet ei gefnogi fel y’i cyflwynwyd. Diolchodd y Cadeirydd i Michael Smith am
fynychu’r cyfarfod ac am ei gyflwyniad. |
|||
Drafft ar yr Adroddiad Blynyddol 2020/21 yr Amcanion Llesiant a Gwella Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Croesawyd Rob
Starr ac Alison Hodgson i’r cyfarfod.
Cyflwynodd Rob Starr Adroddiad Blynyddol Amcanion Llesiant a Gwella
2020/2021. Yn dilyn trafodaeth, cytunodd yr Aelodau
ar Fersiwn Ddrafft Adroddiad Blynyddol yr Amcanion Llesiant a Gwella am y
flwyddyn 2020-2021 cyn iddo gael ei ystyried gan y Cabinet a’r Cyngor. Diolchodd y Cadeirydd i Rob Starr ac Alison Hodgson am fynychu’r
cyfarfod ac am eu cyflwyniad. |
|||
Adroddiad ar ddefnydd y Cyngor o Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (‘RIPA’)
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd Elin Prysor a Hannah Rees i’r cyfarfod Cyflwynodd Hannah yr adroddiad gan hysbysu
aelodau’r pwyllgor na fu unrhyw weithgarwch RIPA gan unrhyw un o wasanaethau’r
Cyngor yn ystod y cyfnod rhwng 1 Rhagfyr
2020 a 12 Awst 2021. Mae Swyddogion
Awdurdodi wedi cadarnhau nad ydynt wedi ystyried unrhyw geisiadau RIPA yn ystod
y cyfnod hwn. Cyfeiriodd Hannah at
Bolisi Corfforaethol a Dogfen Weithdrefnu RIPA
(dogfen ddrafft – atodiad 1 papurau’r agenda) sy’n cynnig crynodeb o’r
newidiadau arfaethedig. Yna, cyfeiriodd
yr Aelodau at Bolisi Cyfryngau Cymdeithasol RIPA (atodiad 2 papurau’r agenda) a
defnyddio’r rhyngrwyd/y cyfryngau cymdeithasol.
Yn dilyn trafodaeth, gofynnwyd i Aelodau’r
Pwyllgor ystyried yr argymhellion canlynol: 1. Nodi cynnwys yr Adroddiad; 2. Nodi na fu unrhyw weithgarwch RIPA gan unrhyw un o wasanaethau’r Cyngor yn
ystod y cyfnod rhwng 1 Rhagfyr 2020 a 12 Awst 2021; a 3. Nodi cynnwys fersiwn ddiwygiedig ddrafft y Polisi Corfforaethol a Dogfen
Weithdrefnau RIPA (Atodiad 1) a’r Polisi Cyfryngau Cymdeithasol RIPA drafft
(Atodiad 2), ac yn argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo’r dogfennau hyn. Cytunodd Aelodau’r Pwyllgor i (1) nodi cynnwys yr
adroddiad (2) nodi na fu unrhyw weithgarwch RIPA gan unrhyw un o wasanaethau’r
Cyngor yn ystod y cyfnod rhwng 1 Rhagfyr 2020 a 12 Awst
2021; a; (3) nodi cynnwys fersiwn ddiwygiedig ddrafft y Polisi Corfforaethol a
Dogfen Weithdrefnau RIPA Corfforaethol a’r
Polisi Cyfryngau Cymdeithasol RIPA drafft ac yn argymell bod y Cyngor yn
cymeradwyo’r dogfennau fel y’u cyflwynwyd.
Diolchodd Elin Prysor i Hannah am y gwaith yr oedd
hi wedi ei wneud ers iddi ddechrau yn ei swydd 12 mis yn ôl. Diolchodd Hannah i Elin am ei geiriau caredig
a diolchodd hefyd i Alun Williams,
Swyddog Arweiniol Corfforaethol ac Anne-Louise Davies, Swyddog Safonau Masnach
am eu cyfraniad a’u cymorth.. Diolchodd y Cadeirydd i Elin Prysor a Hannah Rees
am fynychu’r cyfarfod ac am gyflwyno’r adroddiad. |
|||
Adroddiad Diogelu Grŵp Gweithredol Lleol ar y Cyd CYSUR/CWMPAS Chwarter 4 2020/21 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawyd
Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol, Sian Howys, i gyflwyno’r
Adroddiad Diogelu am chwarter 4, 2020/2021. Yn dilyn trafodaeth,
cytunodd Aelodau’r Pwyllgor i nodi
cynnwys yr adroddiad a lefel y gweithgarwch yn yr Awdurdod Lleol,
fel bod y modd y trefnir ac y rheolir gweithgarwch yr Awdurdod Lleol a’r asiantaethau partner yn cael ei
fonitro. Manteisiodd y Cadeirydd ar y cyfle i
ddiolch i’r tîm am eu gwaith
gwerthfawr a pharhaus yn ystod y pandemig. Ategwyd hyn gan Aelodau’r
Pwyllgor. Diolchodd y Cadeirydd hefyd i Sian Howys am fynychu’r cyfarfod ac a |
|||
Rhaglen Flaen Ddrafft Cofnodion: Darparodd Cadeiryddion
pob Pwyllgor wybodaeth yn eu
tro am y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu y maen nhw’n eu
cadeirio. Yn dilyn trafodaeth,
cytunwyd i roi ystyriaeth i Gasglu Gwastraff
yng nghyfarfod y Pwyllgor Cymunedau Ffyniannus ym mis
Ionawr 2022. |
|||
Cofnodion: Cynigiodd y Cynghorydd Bryan Davies fod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cydlynu a gynhaliwyd ar 16 Mehefin 2021 yn gofnod cywir o’r cyfarfod ac eiliodd y Cynghorydd Dan Potter ei gynnig. Nid oedd unrhyw faterion yn codi o’r cofnodion hynny. |
|||
Unrhyw fater arall y penderfyna'r Cadeirydd ei fod er sylw brys y Pwyllgor |