Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd Diana
Davies a Lynne Walters i’r cyfarfod
i gyflwyno’r adroddiad.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Bryan Davies at bryder y dylid ystyried ei godi mewn cyfarfod o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn y dyfodol, sef pryder sy’n ymwneud â Chyfoeth Naturiol Cymru. Gwnaeth y Cynghorydd Davies gais i’r pryder hwn gael ei drafod mewn Pwyllgor Craffu. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi caniatâd i Ddŵr Cymru ollwng carthion heb eu trin i afonydd. Cyfeiriodd y Cynghorydd Davies at enghraifft yn ei ward, sef yr Afon Llethi, Llanarth ac enghraifft arall yng Ngilfachreda. Mae’r afon hon yn llifo i’r môr rhwng Traeth Gwyn a Chei Bach. Cafwyd rhybudd ar y cyfryngau cymdeithasol yr wythnos hon i’r cyhoedd beidio ag ymdrochi yn y môr oherwydd llygredd!
Cododd y
Cynghorydd Davies bryder arall a oedd yn gysylltiedig â’r pryder uchod, sef
lefelau uchel o ffosffadau yn afon Teifi a’r afonydd / nentydd sy’n llifo
iddi. Mae ceisiadau cynllunio sydd yn y
llefydd hyn yn wynebu proses hir oherwydd rheolau Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’n effeithio ar ddwy ran o dair o
Geredigion. Oni ddylai Dŵr Cymru a
Chyfoeth Naturiol Cymru fod yn unioni’r sefyllfa yn hytrach na beio’r ffermwyr
neu’r datblygwyr?
Cytunwyd
y byddai Diana Davies yn archwilio cysylltiadau gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ac
yn nodi’r pryder hwn mewn cyfarfod o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn y
dyfodol.
Cyflwynodd Lynne Walters gofnodion drafft
cyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2021,
adroddiad pob un o Grwpiau Prosiect y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ac Adroddiad
Blynyddol Cynllun Llesiant Lleol Ceredigion ar gyfer 2020-2021.
Roedd llawer o
gwestiynau ac fe’u hatebwyd yn eu tro gan y
Swyddogion. Tynnwyd sylw at y ffaith
hefyd bod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion ar hyn o bryd yn cynnal
ymarfer ymgysylltu er mwyn i’r wybodaeth honno fod yn sail i’r Asesiad Llesiant
Lleol nesaf. Maent am gasglu gwybodaeth am lesiant pobl a chymunedau lleol, yn
awr ac i’r dyfodol. Gall llawer o bethau ddylanwadu
ar lesiant unigolion a chymunedau, megis ffactorau economaidd, cymdeithasol,
amgylcheddol a diwylliannol. Mae
gwybodaeth am yr ymgysylltiad wedi ei hanfon at bob Cynghorydd, Cyngor Cymuned
a Chyngor Tref a rhanddeiliaid eraill er mwyn iddynt
gyfrannu. Y dyddiad cau ar gyfer ymateb i’r Holiadur Llesiant Rhanbarthol yw 8
Hydref 2021.
Yn dilyn trafodaeth, gofynnwyd i
Aelodau’r Pwyllgor ystyried yr argymhellion canlynol:
ARGYMHELLIAD/ARGYMHELLION: 1. Derbyn cofnodion drafft cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus Ceredigion a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2021; 2. Derbyn yr adroddiad diweddaraf ar gyfer pob un o
Grwpiau Prosiect y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus fel y’i cyflwynwyd i’r BGC; 3. Derbyn Adroddiad Blynyddol Cynllun Llesiant Lleol
Ceredigion am y flwyddyn 2020-21. |
Cytunodd Aelodau’r Pwyllgor â
phwyntiau 1-3 uchod. Diolchodd y Cadeirydd i Diana
Davies a Lynne Walters am fynychu’r cyfarfod ac am eu cyflwyniad. |
Dogfennau ategol: