Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Lisa Evans
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y Cynghorydd
Rhodri Evans am na allai fod yn bresennol yn y cyfarfod. Cadeiriodd y Cynghorydd Wyn
Evans (Is-gadeirydd) y cyfarfod gan fod y Cynghorydd Keith Evans (Cadeirydd, a
oedd yn bresennol o bell) yn gwella o salwch. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 Cofnodion: Datgelodd y Cynghorydd Gareth
Davies fuddiant personol mewn perthynas ag Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin
Cymru |
|
Ystyried cyllideb ddrafft 2023/24, a ystyriwyd gan y Cabinet ar 24/01/23 Cofnodion: Amlinellodd y Cynghorydd Wyn Evans, Cadeirydd y Pwyllgor,
weithdrefn y cyfarfod a chroesawodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies, y Cynghorydd Gareth Davies, Aelod Cabinet
dros y Gwasanaethau Cyllid a Chaffael, Aelodau’r Pwyllgor, gweddill Aelodau’r
Cabinet, yr Aelodau nad ydynt yn perthyn i Bwyllgor a Swyddogion i’r
cyfarfod. Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan
Davies yr adroddiad ar gyllideb ddrafft 2023/2024 gan gynnwys rhaglen gyfalaf
aml-flwyddyn wedi’i diweddaru a noddodd ei bod yn seiliedig ar setliad dros dro
Llywodraeth Cymru a bod setliad terfynol Llywodraeth Cymru i ddod ar 28
Chwefror 2023. Cynghorodd
yr Arweinydd Aelodau’r Pwyllgor y croesawir y cynnydd uwch na’r disgwyl o 8.1%
(ar sail ariannol) yn y setliad dros dro gan Lywodraeth Cymru ar gyfer
2023/2024. Dylai hyn sicrhau y gellir
diogelu gwasanaethau i breswylwyr Ceredigion cymaint ag sy’n bosibl ar gyfer y
flwyddyn ariannol 2023/2024 er y cydnabyddir bod hon yn Gyllideb eithriadol o
heriol o hyd. Mae’r pwyntiau allweddol
sy’n deillio o’r adroddiad fel a ganlyn: ·
Mae’r pwysau costau a wynebir gan
y Cyngor yn dod i gyfanswm na welwyd ei debyg o £22m, sydd gyfwerth â ffactor
chwyddiant penodol i Geredigion o fwy na 13%. Mae hyn yn cymharu â chwyddiant
cyffredinol o 10.5% (ffigwr CPI Rhagfyr 2022). Mae angen dod o hyd i ddiffyg o
£12m yn y gyllideb felly drwy gyfuniad o ystyriaethau o ran Arbedion Cyllidebol
a chynnydd yn Nhreth y Cyngor. ·
Dywedodd nad oedd y meysydd lle
gwelir pwysau costau yn gyffredinol yn unigryw i Geredigion. Mae themâu’n dod
i’r amlwg yn gyson sy’n debyg i’r rhai y cyfeirir atynt yn y wasg yn
genedlaethol sy’n effeithio ar ystod o sefydliadau sector cyhoeddus a phreifat
yn ogystal ag ar sefyllfa ariannol teuluoedd unigol. Maent yn amrywio o gostau ynni a thanwydd i
ddyfarniadau cyflog staff uwch na’r rhagamcanion, i gontractau â chymalau sy’n
gysylltiedig â chwyddiant. ·
Mae cynnydd arfaethedig ar ei
ardoll gan Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru hefyd sydd ar lefel na
welwyd ei thebyg o’r blaen. Mae cynnydd arfaethedig o 13% yn ei Gyllideb yn
arwain yn ei dro at bwysau costau mawr, mewn termau cymharol, ar gyllideb y
Cyngor ei hun. ·
Mae’r gofynion ar gyllidebau sy’n
ymwneud â Gofal Cymdeithasol yn dal i gynyddu, ac mae hefyd angen cyfeirio mwy
nag £1.7m o gyllid o fewn y Setliad Dros Dro (1.5% o’r cynnydd o 8.1%) i
wasanaethau a gomisiynir yn allanol yng Ngheredigion er sicrhau bod gweithwyr
Gofal Cymdeithasol cofrestredig yn dal i gael eu talu ar y Cyflog Byw Real, o
leiaf, (sydd wedi codi o £9.90 i £10.90 yr awr - cynnydd o 10.1%). ·
Ar waethaf heriau gweithredol ar
adegau mewn rhai gwasanaethau, mae Cyngor Sir Ceredigion yn dal i ddarparu
gwasanaeth o safon a gaiff ei gydnabod gan reoleiddwyr
allanol. Mae Asesu Cymru yn asesu bod y Cyngor yn parhau yn sefydlog yn
ariannol, er yn cydnabod bod heriau ariannol yn ei wynebu gan greu risg
ariannol parhaus nad yw’n unigryw i Geredigion. · Mae lefel bresennol Band D Treth y ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 25. |
|
Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Blaenorol ac unrhyw faterion sy’n codi o’r Cofnodion hynny Cofnodion: Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 18 Ionawr 2023 ac
unrhyw fater yn codi o’r cofnodion. CYTUNWYD cadarnhau fel cofnod cywir
Gofnodion y Cyfarfod o’r Pwyllgor a gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2023. Nid oedd
materion yn codi o’r cofnodion hynny. 5 Unrhyw fater
arall y penderfyna’r Cadeirydd sy’n gofyn am sylw brys y Pwyllgor Ni chodwyd materion
eraill. |