Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Rheoli Datblygu - Dydd Mercher, 10fed Gorffennaf, 2024 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Mrs Dana Jones 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorwyr Gethin Davies a Rhodri Davies am eu hanallu i fynychu'r cyfarfod.

 

Dywedodd y Cynghorydd Cerys Jones y byddai angen iddi adael y cyfarfod yn gynnar oherwydd ymrwymiadau eraill.

2.

Materion Personol

Cofnodion:

Dymunwyd yn dda i Mrs Sian Holder gan mai hwn oedd ei chyfarfod olaf cyn ei chyfnod mamolaeth.

 

3.

Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Datgelodd y Cynghorydd Chris James fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu yng Nghais A211186.

 

Datgelodd Mrs Sian Holder, Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu – De fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu yng Nghais A240180.

 

Datgelodd Mrs Dana Jones, Swyddog Democrataidd a Safonau fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu yng Nghais A230727.

 

4.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Mai 2024 pdf eicon PDF 92 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Mai 2024 fel rhai cywir.

 

Materion sy’n codi

Dywedodd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol, Economi ac Adfywio y cynhelir sesiwn friffio gydag Aelodau ar Apeliadau a TAN 6 maes o law.

5.

Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol – Economi ac Adfywio ar y ceisiadau cynllunio a ganlyn a ystyriwyd mewn cyfarfod blaenorol ac yr oedd angen eu hystyried ymhellach gan y Pwyllgor:-

 

 

A200774 Codi caban gwyliau bach ag un llawr, ynghyd â gwaith tirweddu cysylltiedig, ac adleoli’r fynedfa bresennol sy’n is na’r safon i wasanaethu’r fferm a’r caban gwyliau arfaethedig, Tir ar Fferm Blaenarthen, Brongest, Castellnewydd Emlyn

 

GOHIRIO'r cais i'r Grŵp Callio yn unol â pharagraff 2 (opsiwn 3) o'r broses ohirio ar gyfer ceisiadau a gyflwynir i'r Pwyllgor Rheoli Datblygu - Gweithdrefnau Gweithredol a hefyd gofyn i'r ymgeisydd gwblhau Asesiad Anghenion Twristiaeth ac Effaith Datblygu.

 

 

 

6.

Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Economi ac Adfywio ar geisiadau datblygu, hysbysebu; yr awdurdod lleol a statudol:-

 

Anerchodd Mr Emyr Jones a Mr Rob Jones (Asiantiaid) y pwyllgor yn unol â'r weithdrefn Weithredol ar gyfer Aelodau'r Cyhoedd yn annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu

 

A211186  Codi siop adwerthu bwyd Dosbarth A1 - Aldi, adnewyddu pafiliwn chwaraeon rhestredig Gradd II, gosod tri phod arddangos o bren parod a chreu ardal natur a bioamrywiaeth, gyda mynedfa, maes parcio a gwaith tirlunio yn gysylltiedig.  Caeau Chwarae Prifysgol y Drindod Dewi Sant, Heol Pontfaen, Llanbedr Pont Steffan.

 

 

GOHIRIO'r cais i'r Grŵp Callio yn unol â pharagraff 2 (opsiwn 3) o'r broses ohirio ar gyfer ceisiadau a gyflwynir i'r Pwyllgor Rheoli Datblygu - Gweithdrefnau Gweithredol.

 

_________________________________________________________________

 

Anerchodd Jon Wilks y pwyllgor yn unol â'r

weithdrefn Weithredol ar gyfer Aelodau'r Cyhoedd yn annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu

 

A230727  Datblygiad preswyl ynghyd â gwaith cysylltiedig gan gynnwys cynllun tirlunio, strategaeth ecoleg a draenio. Tir i'r De o Stryd Alma, Llannarth

 

CYMERADWYO’r cais yn destun amodau a chytundeb adran 106.

 

Roedd Aelodau'r Pwyllgor yn dymuno iddo gael ei nodi yng nghofnodion y cyfarfod, bod Cyngor y Gymuned yn ceisio budd cymunedol o'r cais a'u bod yn cynnig ardal wedi'i lleoli y tu ôl i neuadd Llannarth ar gyfer maes parcio y mae'r Datblygwr wedi cytuno iddi. 

 

 

_______________________________________________________________

Anerchwyd y pwyllgor gan Mr James Scarborough yn unol a'r

weithdrefn Weithredol ar gyfer Aelodau'r Cyhoedd yn annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu

 

A230865  Ystafell arddangos arfaethedig ac adeilad ar gyfer Gweithdy/MOT yn lle'r gweithdy presennol, Garej Whitehall, Stryd Fawr, Llan-non

 

CYFEIRIO'r cais i'r Panel Arolygu Safleoedd yn unol â

pharagraff 2 a 3 o feini prawf mabwysiedig y Cyngor.

 

_______________________________________________________________

 

A240148  Uned blwch storio (storage container unit) newydd arfaethedig i ddarparu ar gyfer busnes therapi harddwch (at ddefnydd unigryw sui generis), Parc Piliau, Ystâd Ddiwydiannol Pentood, Aberteifi

 

GOHIRIO penderfynu ar y cais i’r Awdurdod Cynllunio Lleol ofyn am gadarnhad gan Ddŵr Cymru os oeddent yn barod i ddileu’r amod a argymhellwyd ganddynt yn atal meddiannaeth tan 31 Mawrth 2027 neu hyd nes y bydd y gwaith uwchraddio i  waith trin dŵr gwastraff Aberteifi wedi’i gwblhau, bod y Swyddog Arweiniol Corfforaethol, Economi ac Adfywio wedi’i awdurdodi i WRTHOD y cais os nad yw Dŵr Cymru yn cytuno i ddileu'r amod.

 

_________________________________________________________________

 

A240180 Adeiladu uned i gynnwys llety staff dros dro,  Neuadd Cyngor Ceredigion, Ffordd Mynediad Swyddfeydd y Cyngor, Penmorfa, Aberaeron

 

CYMERADWYO'r cais yn destun amodau.

 

_____________________________________________________________

 

A240417 Diwygiadau Ansylweddol i A190729 i ddiwygio geiriad amodau 12, 15 a 17 i ofyn am ryddhad rhannol o'r amodau 12, 15 a 17 ar gyfer rhan gyfyngedig o'r datblygiad arfaethedig, Llwybr Ystwyth, Tregaron

 

CYMERADWYO bod caniatâd yn cael ei roi ar gyfer diwygiad ansylweddol i ganiatáu newidiadau i eiriad amod 12, 15 ac 17 yn y drefn honno  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o geisiadau cynllunio yr ymdriniwyd â hwy yn Adroddiad y Swyddog Arweiniol CorfforaetholEconomi ac Adfywio.

8.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor

Cofnodion:

Dim.

9.

Apeliadau pdf eicon PDF 2 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYTUNWYD nodi'r apeliadau cynllunio a gafwyd.