Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Rheoli Datblygu - Dydd Mercher, 13eg Mawrth, 2024 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Mrs Dana Jones 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Dim.

2.

Materion Personol

Cofnodion:

Dim.

3.

Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Dim.

4.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2024 pdf eicon PDF 96 KB

Cofnodion:

5.

Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor pdf eicon PDF 663 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Economi ac Adfywio ynghylch y ceisiadau cynllunio canlynol a ystyriwyd mewn cyfarfod blaenorol ac a oedd angen ystyriaeth bellach gan y Pwyllgor:-

 

A230265  Annedd menter wledig yn cynnwys addasiadau i giât fynedfa bresennol y cae a chyfleuster trin carthion ar safle hen annedd a oedd yn dwyn enw ‘Tŷ Newydd’, Tir yn Nhŷ Newydd, Tregaron, SY25 6LQ

 

Cynigodd y Cynghorydd Gareth Lloyd y dylid mynd yn erbyn argymhelliad y swyddog gan roi caniatâd cynllunio i’r cais, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Marc Davies.

Cafwyd pleidlais wedi’i chofnodi ar sail argymhelliad gan y swyddog yn unol â Rhan 4, Dogfen I o Gyfansoddiad y Cyngor gan fod penderfyniad y Pwyllgor yn mynd yn groes i argymhelliad y swyddog ac yn wyriad sylweddol oddi wrth bolisi.

 

O blaid yr argymhelliad: Neb.

 

Yn erbyn yr argymhelliad:

Y Cynghorwyr Gethin Davies, Rhodri Davies, Marc Davies, Meirion Davies, Raymond Evans, Rhodri Evans, Hugh Hughes, Chris James, Ceris Jones, Gareth Lloyd, Sian Maehrlein, Mark Strong, Carl Worrall (13)

 

Ymatal: Neb

 

Cytunwyd i GYMERADWYO’r cais yn amodol ar Rwymedigaeth Adran 106 ar gyfer annedd menter wledig.

 

 

Nid oedd yr Aelodau’n cytuno ag argymhelliad y swyddogion ac roeddent o’r farn y gellid cymeradwyo’r cais am y rhesymau canlynol:

         Roedd safle’r cais yn eistedd ar ôl troed adfail presennol, lle’r oedd hi dal yn bosib gweld amlinelliad o’r mynediad a’r cwrtil blaenorol ar y llawr;

         Roedd safle’r cais yn agos ac o fewn pellter cerdded i safle’r busnes;

         Roedd y ffermdy’n ymddangos yn rhy fach i letya’r ymgeisydd a’i deulu, ynghyd â rhieni’r ymgeisydd. Roedd lleoliad safle’r cais yn caniatáu elfen o breifatrwydd, i ffwrdd o’r prif ffermdy;

         Byddai’r cynnig yn defnyddio’r fynedfa a’r trac mynediad presennol;

         Dim ond o nifer cyfyngedig o eiddo cyfagos y gellid gweld yr annedd arfaethedig, gyda’r eiddo agosaf tua hanner milltir i ffwrdd;

         Ni ystyriwyd bod maint yr annedd arfaethedig yn amharu ar yr ardal nac yn ymddangos yn anghyson; 

         Roedd yr annedd yn ymddangos yn draddodiadol o ran ei hymddangosiad ac yn cyd-fynd â chymeriad gwledig yr ardal;

         Byddai unrhyw effaith weledol yn cael ei lliniaru gan y sgrinio naturiol presennol ger y safle a’r ffaith y byddai’r annedd yn cael ei hail-adeiladu ar ôl troed y tŷ blaenorol; 

         Roedd geiriad Nodyn Cyngor Technegol 6 (TAN6) ynghylch y mentrau gwledig cymwys yn rhy gyfyngedig ond roedd yr Aelodau’n teimlo er nad safle’r cais ei hun oedd prif fewnbwn y cynnig, roedd yn cynrychioli cynllun arallgyfeirio ar fferm ac yn darparu gwasanaeth a oedd yn cefnogi gweithgareddau amaethyddol yn yr ardal leol. Daeth yr Aelodau i’r casgliad fod y cais yn bodloni’r ffactorau cymhwyso ar gyfer annedd o dan Nodyn Cyngor Technegol 6. 

         Roedd y cais yn bodloni’r meini prawf ym mharagraff 4.4. Nodyn Cyngor Technegol 6 a oedd yn cyfeirio at anheddau newydd ar fentrau gwledig sefydledig;-

c. bod y fenter dan sylw wedi’i sefydlu ers o leiaf tair blynedd, wedi gwneud elw yn ystod  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu pdf eicon PDF 669 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Economi ac Adfywio ynghylch ceisiadau cynllunio statudol, awdurdod lleol, hysbysebu a datblygu:-

 

Anerchodd Mr Kevin Davies y Pwyllgor yn unol â’r gweithdrefnau gweithredol ar gyfer aelodau’r cyhoedd sy’n annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu.

 

A220738 Annedd marchnad agored a fydd yn cynnwys creu mynediad i gerbydau, Pencoed, Pentre’r Bryn, Llandysul

 

GOHIRIO’r cais er mwyn i’r Grŵp Callio roi ystyriaeth bellach i’r pwyntiau a godwyd yn y cyfarfod a CHYFEIRIO’r cais i’r Panel Archwilio Safleoedd yn unol â Pharagraff 5 y meini prawf a fabwysiadwyd gan y Cyngor.

 

______________________________________________________________

 

A230750 Dileu amod 4 a osodwyd ar ganiatâd cynllunio -D1.980.90 –

Meddiannaeth, Werna, C1240 o Dregaron i Bont Nanstalwen,

Tregaron

 

GOHIRIO gwneud penderfyniad ynghylch y cais, gan roi pwerau i’r Swyddog Arweiniol Corfforaethol gymeradwyo neu wrthod y cais yn ddibynnol ar addasu’r amod meddiannu presennol i’r amod meddiannu modern o dan Nodyn Cyngor Technegol 6. 

_______________________________________________________________

 

7.

Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig pdf eicon PDF 661 KB

Cofnodion:

8.

Apeliadau pdf eicon PDF 656 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

9.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor