Eitem Agenda

Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor

Cofnodion:

Ystyriwyd Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Economi ac Adfywio ynghylch y ceisiadau cynllunio canlynol a ystyriwyd mewn cyfarfod blaenorol ac a oedd angen ystyriaeth bellach gan y Pwyllgor:-

 

A230265  Annedd menter wledig yn cynnwys addasiadau i giât fynedfa bresennol y cae a chyfleuster trin carthion ar safle hen annedd a oedd yn dwyn enw ‘Tŷ Newydd’, Tir yn Nhŷ Newydd, Tregaron, SY25 6LQ

 

Cynigodd y Cynghorydd Gareth Lloyd y dylid mynd yn erbyn argymhelliad y swyddog gan roi caniatâd cynllunio i’r cais, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Marc Davies.

Cafwyd pleidlais wedi’i chofnodi ar sail argymhelliad gan y swyddog yn unol â Rhan 4, Dogfen I o Gyfansoddiad y Cyngor gan fod penderfyniad y Pwyllgor yn mynd yn groes i argymhelliad y swyddog ac yn wyriad sylweddol oddi wrth bolisi.

 

O blaid yr argymhelliad: Neb.

 

Yn erbyn yr argymhelliad:

Y Cynghorwyr Gethin Davies, Rhodri Davies, Marc Davies, Meirion Davies, Raymond Evans, Rhodri Evans, Hugh Hughes, Chris James, Ceris Jones, Gareth Lloyd, Sian Maehrlein, Mark Strong, Carl Worrall (13)

 

Ymatal: Neb

 

Cytunwyd i GYMERADWYO’r cais yn amodol ar Rwymedigaeth Adran 106 ar gyfer annedd menter wledig.

 

 

Nid oedd yr Aelodau’n cytuno ag argymhelliad y swyddogion ac roeddent o’r farn y gellid cymeradwyo’r cais am y rhesymau canlynol:

         Roedd safle’r cais yn eistedd ar ôl troed adfail presennol, lle’r oedd hi dal yn bosib gweld amlinelliad o’r mynediad a’r cwrtil blaenorol ar y llawr;

         Roedd safle’r cais yn agos ac o fewn pellter cerdded i safle’r busnes;

         Roedd y ffermdy’n ymddangos yn rhy fach i letya’r ymgeisydd a’i deulu, ynghyd â rhieni’r ymgeisydd. Roedd lleoliad safle’r cais yn caniatáu elfen o breifatrwydd, i ffwrdd o’r prif ffermdy;

         Byddai’r cynnig yn defnyddio’r fynedfa a’r trac mynediad presennol;

         Dim ond o nifer cyfyngedig o eiddo cyfagos y gellid gweld yr annedd arfaethedig, gyda’r eiddo agosaf tua hanner milltir i ffwrdd;

         Ni ystyriwyd bod maint yr annedd arfaethedig yn amharu ar yr ardal nac yn ymddangos yn anghyson; 

         Roedd yr annedd yn ymddangos yn draddodiadol o ran ei hymddangosiad ac yn cyd-fynd â chymeriad gwledig yr ardal;

         Byddai unrhyw effaith weledol yn cael ei lliniaru gan y sgrinio naturiol presennol ger y safle a’r ffaith y byddai’r annedd yn cael ei hail-adeiladu ar ôl troed y tŷ blaenorol; 

         Roedd geiriad Nodyn Cyngor Technegol 6 (TAN6) ynghylch y mentrau gwledig cymwys yn rhy gyfyngedig ond roedd yr Aelodau’n teimlo er nad safle’r cais ei hun oedd prif fewnbwn y cynnig, roedd yn cynrychioli cynllun arallgyfeirio ar fferm ac yn darparu gwasanaeth a oedd yn cefnogi gweithgareddau amaethyddol yn yr ardal leol. Daeth yr Aelodau i’r casgliad fod y cais yn bodloni’r ffactorau cymhwyso ar gyfer annedd o dan Nodyn Cyngor Technegol 6. 

         Roedd y cais yn bodloni’r meini prawf ym mharagraff 4.4. Nodyn Cyngor Technegol 6 a oedd yn cyfeirio at anheddau newydd ar fentrau gwledig sefydledig;-

c. bod y fenter dan sylw wedi’i sefydlu ers o leiaf tair blynedd, wedi gwneud elw yn ystod un ohonynt o leiaf, a bod y fenter a’r busnes sydd â’r angen am y swydd yn ariannol gadarn ar hyn o bryd a bod yna ragolwg clir y byddant yn parhau felly;

d. na ellir diwallu’r angen swyddogaethol gan annedd arall na thrwy drosi adeilad addas sydd eisoes ar y daliad tir lle mae’r fenter, neu unrhyw lety arall sydd eisoes yn bodoli yn yr ardal leol sy’n addas ac ar gael i’w feddiannu gan y gweithiwr dan sylw.

 

________________________________________________________________

 

Dogfennau ategol: