Ystyriwyd Adroddiad
y Swyddog Arweiniol Corfforaethol
dros yr Economi ac Adfywio o ran ceisiadau statudol, llywodraeth leol, hysbysiadau a datblygu:-
Gwnaeth Mr Rhys ap Dylan (Asiant) annerch y Pwyllgor yn unol
â’r weithdrefn weithredol ar gyfer Aelodau a’r Cyhoedd yn
annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu.
A230434 Codi annedd fforddiadwy, tir yn Allt y Bryn, Llanarth
CYMERADWYO’r cais yn ddibynnol
ar amodau a chytundeb Adran 106 ar gyfer annedd
fforddiadwy.
_________________________________________________________________
Gwnaeth Mr Rhys ap Dylan (Asiant) annerch y Pwyllgor yn unol
â’r weithdrefn weithredol ar gyfer Aelodau a’r Cyhoedd yn
annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu.
A210308 datblygiad preswyl
3 annedd, gan gynnwys y Ficerdy newydd, tir gyferbyn
â’r Ficerdy, Llanarth.
CYMERADWYO’r cais
yn ddibynnol ar amodau a chytundeb
Adran 106 ar gyfer darparu’r byngalo sydd wedi’i gymeradwyo yn y cais cynllunio
A230434 i fod fel uned fforddiadwy barhaol, ac iddo gael ei gwblhau
ac er mwyn iddo gael ei gwblhau'n
ymarferol cyn meddiannu'r ail annedd ar y farchnad agored.
_______________________________________________________________
Anerchodd Mr Geraint John (Asiant)
y Pwyllgor yn unol â'r weithdrefn
weithredol ar gyfer Aelodau'r Cyhoedd yn annerch
y Pwyllgor Rheoli Datblygu
A230223 Codi Unedau Diwydiannol
gyda Masnach Cownter. Defnydd B8, Cyn
Depo Nwy Gwres Stad Ddiwydiannol Glanyrafon, Llanbadarn Fawr
Aberystwyth
CYMERADWYO’r cais yn ddibynol ar amodau.
Roedd Aelodau o’r farm y gallai’r cais gael ei
gymeradwyo am y rhesymau canlynol:
·
y tebygolrwydd o lifogydd ar y safle yn isel
·
roedd amddiffynfeydd
mewn lle, ond roedd angen
eu diweddaru gan fod y data model a ddefnyddiwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru wedi’i selio ar ffigyrau o 2013, sydd bellach yn annheg
·
dylai Cyfoeth
Naturiol Cymru wella’r amddiffynfeydd llifogydd presennol
·
roedd hwn yn safle cae brown
·
mae’r safle hwn wedi’i letya yn flaenorol fel uned ddiwydiannol
· cafwyd budd economaidd cytbwys wrth gymeradwyo'r cais ar ôl clywed
yr holl dystiolaeth a ddarparwyd gan yr asiant
________________________________________________________________
Anerchodd Mr Richard Rees (Ymgeisydd) y Pwyllgor yn unol â'r
weithdrefn weithredol ar gyfer Aelodau'r
Cyhoedd yn annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu
A230265 Menter wledig arfaethedig preswyl i gynnwys newidiadau i fynedfa bresennol cae a gosod gwaith
trin gwastraff ar safle'r annedd flaenorol a elwir
yn 'Tŷ Newydd'. Tir yn Nhŷ
Newydd Tregaron, Tregaron
CYFEIRIO'r cais
at y Panel Arolygu Safle yn unol â Pharagraff
1 a 5 o Weithdrefn Weithredol
fabwysiedig y Cyngor. Bydd
y cais hefyd yn cael ei
ohirio am fis am gyfnod 'oeri’ er mwyn caniatáu amser pellach i ystyried y pwyntiau a godwyd gan yr
Aelodau.
_________________________________________________________________
Yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd Ifan
Davies, oedd cadeirydd y cyfarfod ar gyfer
yr eitem ganlynol gan fod y Cadeirydd wedi datgan buddiant
personol a rhagfarnol yn y cais.
A230390 Dymchwel adeiladau a strwythurau adfeiliedig presennol, paratoi safle a disodli adeilad ffrâm ddur newydd, Fferm Pwllperian, Cwmystwyth, Aberystwyth.
CYMERADWYO'r cais
yn ddibynnol ar ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.
|