Cofnodion:
Ystyriwyd Adroddiad
y Swyddog Arweiniol Corfforaethol
dros yr Economi ac Adfywio o ran ceisiadau statudol, llywodraeth leol, hysbysiadau a datblygu:- Gwnaeth Mr Rhys ap Dylan (Asiant) annerch y Pwyllgor yn unol
â’r weithdrefn weithredol ar gyfer Aelodau a’r Cyhoedd yn
annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu. A230434 Codi annedd fforddiadwy, tir yn Allt y Bryn, Llanarth CYMERADWYO’r cais yn ddibynnol
ar amodau a chytundeb Adran 106 ar gyfer annedd
fforddiadwy. _________________________________________________________________ Gwnaeth Mr Rhys ap Dylan (Asiant) annerch y Pwyllgor yn unol
â’r weithdrefn weithredol ar gyfer Aelodau a’r Cyhoedd yn
annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu. A210308 datblygiad preswyl
3 annedd, gan gynnwys y Ficerdy newydd, tir gyferbyn
â’r Ficerdy, Llanarth. CYMERADWYO’r cais
yn ddibynnol ar amodau a chytundeb
Adran 106 ar gyfer darparu’r byngalo sydd wedi’i gymeradwyo yn y cais cynllunio
A230434 i fod fel uned fforddiadwy barhaol, ac iddo gael ei gwblhau
ac er mwyn iddo gael ei gwblhau'n
ymarferol cyn meddiannu'r ail annedd ar y farchnad agored. _______________________________________________________________ Anerchodd Mr Geraint John (Asiant)
y Pwyllgor yn unol â'r weithdrefn
weithredol ar gyfer Aelodau'r Cyhoedd yn annerch
y Pwyllgor Rheoli Datblygu A230223 Codi Unedau Diwydiannol
gyda Masnach Cownter. Defnydd B8, Cyn Depo Nwy Gwres Stad Ddiwydiannol Glanyrafon, Llanbadarn Fawr Aberystwyth CYMERADWYO’r cais yn ddibynol ar amodau.
Roedd Aelodau o’r farm y gallai’r cais gael ei
gymeradwyo am y rhesymau canlynol: ·
y tebygolrwydd o lifogydd ar y safle yn isel ·
roedd amddiffynfeydd
mewn lle, ond roedd angen
eu diweddaru gan fod y data model a ddefnyddiwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru wedi’i selio ar ffigyrau o 2013, sydd bellach yn annheg ·
dylai Cyfoeth
Naturiol Cymru wella’r amddiffynfeydd llifogydd presennol ·
roedd hwn yn safle cae brown ·
mae’r safle hwn wedi’i letya yn flaenorol fel uned ddiwydiannol · cafwyd budd economaidd cytbwys wrth gymeradwyo'r cais ar ôl clywed
yr holl dystiolaeth a ddarparwyd gan yr asiant
________________________________________________________________ Anerchodd Mr Richard Rees (Ymgeisydd) y Pwyllgor yn unol â'r
weithdrefn weithredol ar gyfer Aelodau'r
Cyhoedd yn annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu A230265 Menter wledig arfaethedig preswyl i gynnwys newidiadau i fynedfa bresennol cae a gosod gwaith
trin gwastraff ar safle'r annedd flaenorol a elwir
yn 'Tŷ Newydd'. Tir yn Nhŷ
Newydd Tregaron, Tregaron CYFEIRIO'r cais
at y Panel Arolygu Safle yn unol â Pharagraff
1 a 5 o Weithdrefn Weithredol
fabwysiedig y Cyngor. Bydd
y cais hefyd yn cael ei
ohirio am fis am gyfnod 'oeri’ er mwyn caniatáu amser pellach i ystyried y pwyntiau a godwyd gan yr
Aelodau. _________________________________________________________________ Yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd Ifan
Davies, oedd cadeirydd y cyfarfod ar gyfer
yr eitem ganlynol gan fod y Cadeirydd wedi datgan buddiant
personol a rhagfarnol yn y cais. A230390 Dymchwel adeiladau a strwythurau adfeiliedig presennol, paratoi safle a disodli adeilad ffrâm ddur newydd, Fferm Pwllperian, Cwmystwyth, Aberystwyth. CYMERADWYO'r cais
yn ddibynnol ar amodau. __________________________________________________________________ Darllenwyd llythyr
ar ran y Cynghorydd
Elizabeth Evans fel yr Aelod Lleol nad
oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod. A230474 Estyniad i'r adeilad capel gorffwys presennol i greu ardal weithio
fwy a garej i leoli ceir cwmni
Cyfarwyddwyr Angladdau
Derek Jones, Heol y Frenhines, Aberaeron. CYMERADWYO'r cais
yn ddibynnol ar amodau. __________________________________________________________________ A230561 Dymchwel arfaethedig yr annedd bresennol
ac adeiladu annedd newydd arfaethedig, a'r holl waith
cysylltiedig; The Beach House, Cae
Dolwen, Aberporth, Aberteifi Nodi bod y cais wedi'i DYNNU'n ôl o'r agenda gan fod gwybodaeth bellach wedi'i chyflwyno gan yr ymgeisydd yn dilyn cyhoeddi'r
agenda, ond nad oedd swyddogion a gwrthwynebwyr wedi cael digon o amser i'w hystyried
cyn y cyfarfod. _________________________________________________________________ A230652 Adnewyddu Ardal
Gemau Aml-ddefnydd (MUGA)
gyda ffensys perimedr a llifoleuadau, Canolfan Hamdden Plascrug, Rhodfa Plascrug, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth CYMERADWYO'r cais yn ddibynnol ar amodau. |
Dogfennau ategol: