Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Mrs Dana Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y Cynghorwyr Gethin Davies, Ifan Davies, Sian Maehrlein, Mark Strong a Carl Worrall am nad oeddent yn gallu mynychu’r cyfarfod. |
|
Materion Personol |
|
Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu Cofnodion: Datganodd Ms Elin Prysor fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu yng Nghais A220638 ac roedd Mrs Patricia Armstrong, Rheolwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cyfreithiol yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod yr eitem hon fel y Dirprwy Swyddog Monitro. |
|
Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Hydref 2023 PDF 98 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Hydref 2023 yn gywir. Materion yn
codi Dim. |
|
Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor PDF 2 MB Cofnodion: Ystyriwyd Adroddiad
y Swyddog Arweiniol Corfforaethol
– Economi ac Adfywio ar y ceisiadau
cynllunio canlynol a ystyriwyd mewn cyfarfod blaenorol ac a oedd angen ystyriaeth
bellach gan y Pwyllgor:- A210757 Codi adeilad gwneud faniau ceffylau,
gan gynnwys gosod mynedfa i gerbydau a safle trin pecynnau, tir gerllaw’r
B4338, rhwng y gyffordd â’r C1279 a’r gyffordd
â’r C1060, Llanybydder CYMERADWYO’R cais, gydag amodau. Cymerwyd pleidlais
a gofnodwyd yn unol â Rhan 4, Dogfen I o Gyfansoddiad y Cyngor oherwydd bod penderfyniad y Pwyllgor yn groes
i argymhelliad y Swyddog ac yn
gwyro’n sylweddol oddi wrth y polisi.
Cynigiodd y Cynghorydd
Gareth Lloyd i fynd yn erbyn yr argymhelliad,
ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Rhodri Evans. O blaid yr
argymhelliad: Y Cynghorydd Rhodri Davies (1) Yn erbyn
yr argymhelliad: Y Cynghorwyr Meirion Davies,
Raymond Evans, Rhodri Evans, Chris James, Ceris Jones, Maldwyn Lewis a Gareth
Lloyd (7) Ymatal: Y Cynghorydd Marc Davies (1) Nid oedd
yr Aelodau’n cytuno ag argymhelliad y Swyddogion ac roeddent o’r farn y gellid
cymeradwyo’r cais am y rhesymau canlynol: - • Roedd y cais o fewn Polisi S04: Datblygu mewn ‘Aneddiadau Cyswllt a Lleoliadau Eraill’ – paragraff 3b. safle sydd heb
ei neilltuo ac mae naill ai: i. ar ‘raddfa
fach’ ac yn diwallu angen lleol
penodol;
neu ii. yn unol
â gofynion Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 6 sy’n ymwneud â mentrau gwledig. • Roedd y cais hefyd
o fewn Polisi DM17, y Dirwedd
yn Gyffredinol, gan ei fod
yn nodi y caniateir datblygu ar yr
amod nad yw’n cael effaith
niweidiol arwyddocaol ar briodweddau a chymeriad arbennig tirweddau a morweddau gweledol, hanesyddol, daearegol, ecolegol neu ddiwylliannol Ceredigion, y Parciau
Cenedlaethol a’r ardal gyfagos drwy: 1. achosi amhariad
gweledol sylweddol; 2. cael ei
leoli’n annoeth ac yn anystyriol o fewn y dirwedd; 3. cyflwyno neu ddwysáu defnydd sy’n anghydnaws â’i leoliad; 4. ddim yn
gydnaws â ffurf y tir a’r dirwedd
neu ddim yn eu gwella; ac/neu 5. colli neu fethu
ag ymgorffori nodweddion traddodiadol pwysig, patrymau,
strwythurau a chynllun aneddiadau a thirweddau. Lle mae hynny’n bosibl dylai datblygu wella’r priodweddau hynny a’r nodweddion
arbennig. • Byddai cymeradwyo’r cais yn cefnogi
busnes lleol ac economi Ceredigion yn unol â pholisi S02 ac S03 • Roedd yr holl
safleoedd eraill ar gyfer y busnes
wedi eu hystyried
a’u dihysbyddu gyda’r prawf dilyniannol
ac roedd y tir hwn yn addas ar
gyfer yr ymgeisydd yn unig. • Nid oedd y cynllun
presennol yn addas ar gyfer Ceredigion fel sir wledig. Atgoffwyd aelodau’r
Pwyllgor Rheoli Datblygu o’r ffaith
bod cyfarwyddyd wedi’i dderbyn gan y Gweinidog
Newid Hinsawdd o dan Erthygl 18 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012. Mae’r cyfarwyddyd
yn atal y Cyngor rhag rhoi caniatâd
cynllunio mewn perthynas â chais cynllunio A210757, heb awdurdodiad ymlaen llaw gan Weinidogion
Cymru. O ganlyniad, rhaid i’r ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|
Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu PDF 2 MB Cofnodion: Ystyriwyd adroddiad
y Swyddog Arweiniol Corfforaethol:
Economi ac Adfywio ar geisiadau statudol,
llywodraeth leol, hysbysebion a datblygu:- Anerchodd Mr Mark Bedder (Asiant) y Pwyllgor yn unol â’r
weithdrefn Weithredol ar gyfer Aelodau’r
Cyhoedd sy’n annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu. A230210 Codi bloc newydd o fflatiau ar wahân,
pedwar llawr o uchder, sy’n cynnwys
8 fflat, gyda meysydd parcio cysylltiedig a mannau amwynder cymunedol, Bryn Derw, Ffordd Stanley, Aberystwyth GOHIRIO’R cais i gwblhau cytundeb A106 ynglŷn â darparu tai fforddiadwy a chaniatáu’r cais gydag amodau
unwaith y bydd cytundeb A106 wedi’i gwblhau. _________________________________________________________________ A230304 Datblygiad arfaethedig yn cynnwys bloc newydd ar wahân o fflatiau,
tri llawr o uchder, sy'n cynnwys 6 fflat gyda meysydd
parcio cysylltiedig a mannau amwynder cymunedol. (Bloc 1B) Bloc 1B, Bryn Derw,
Ffordd Stanley, Aberystwyth GOHIRIO’R cais i gwblhau cytundeb A106 ynglŷn â darparu tai fforddiadwy a chaniatáu’r cais gydag amodau
unwaith y bydd cytundeb A106 wedi’i gwblhau. _______________________________________________________________ A230306 Datblygiad arfaethedig yn cynnwys bloc newydd ar wahân o fflatiau,
tri llawr o uchder, sy’n cynnwys 6 fflat gyda meysydd
parcio cysylltiedig a mannau amwynder cymunedol. (Bloc 1C) Bloc 1C, Bryn Derw,
Ffordd Stanley, Aberystwyth GOHIRIO’R cais i gwblhau cytundeb A106 ynglŷn â darparu tai fforddiadwy a chaniatáu’r cais gydag amodau
unwaith y bydd cytundeb A106 wedi’i gwblhau. ________________________________________________________________ A230308 Datblygiad arfaethedig yn cynnwys bloc newydd ar wahân o fflatiau
dau lawr gyda lle yn
y to, sy’n cynnwys pedwar fflat gyda
meysydd parcio cysylltiedig a mannau amwynder cymunedol. (Bloc 1D) Brynderw, Ffordd Stanley,
Aberystwyth GOHIRIO’R cais i gwblhau cytundeb A106 ynglŷn â darparu tai fforddiadwy a chaniatáu’r cais gydag amodau
unwaith y bydd cytundeb A106 wedi’i gwblhau. ____________________________________________________________ A230612 Codi annedd, Tir ar fferm
Bron Y Glyn Glynarthen,
Llandysul Nodi bod y cais wedi’i DYNNU’N ÔL. |
|
Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig PDF 2 MB Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi’r rhestr o geisiadau cynllunio yr ymdriniwyd â hwy yn Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol – Economi ac Adfywio. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: CYTUNWYD i nodi’r apeliadau a dderbyniwyd. |
|
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor |