Cofnodion:
Ystyriwyd Adroddiad
y Swyddog Arweiniol Corfforaethol
– Economi ac Adfywio
ar y ceisiadau
cynllunio canlynol a ystyriwyd mewn cyfarfod blaenorol ac a oedd angen ystyriaeth
bellach gan y Pwyllgor:-
A210757 Codi adeilad gwneud faniau ceffylau,
gan gynnwys gosod mynedfa i gerbydau a safle trin pecynnau, tir gerllaw’r
B4338, rhwng y gyffordd â’r C1279 a’r gyffordd
â’r C1060, Llanybydder
CYMERADWYO’R cais, gydag amodau.
Cymerwyd pleidlais
a gofnodwyd yn unol â Rhan 4, Dogfen I o Gyfansoddiad y Cyngor oherwydd bod penderfyniad y Pwyllgor yn groes
i argymhelliad y Swyddog ac yn
gwyro’n sylweddol oddi wrth y polisi.
Cynigiodd y Cynghorydd
Gareth Lloyd i fynd yn erbyn yr argymhelliad,
ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Rhodri Evans.
O blaid yr
argymhelliad:
Y Cynghorydd Rhodri Davies (1)
Yn erbyn
yr argymhelliad:
Y Cynghorwyr Meirion Davies,
Raymond Evans, Rhodri Evans, Chris James, Ceris Jones, Maldwyn Lewis a Gareth
Lloyd (7)
Ymatal:
Y Cynghorydd Marc Davies (1)
Nid oedd
yr Aelodau’n cytuno ag argymhelliad y Swyddogion ac roeddent o’r farn y gellid
cymeradwyo’r cais am y rhesymau canlynol: -
• Roedd y cais o fewn Polisi S04: Datblygu mewn ‘Aneddiadau Cyswllt a Lleoliadau Eraill’ – paragraff 3b. safle sydd heb
ei neilltuo ac mae naill ai:
i. ar ‘raddfa
fach’ ac yn diwallu angen lleol
penodol;
neu
ii. yn unol
â gofynion Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 6 sy’n ymwneud â mentrau gwledig.
• Roedd y cais hefyd
o fewn Polisi DM17, y Dirwedd
yn Gyffredinol, gan ei fod
yn nodi y caniateir datblygu ar yr
amod nad yw’n cael effaith
niweidiol arwyddocaol ar briodweddau a chymeriad arbennig tirweddau a morweddau gweledol, hanesyddol, daearegol, ecolegol neu ddiwylliannol Ceredigion, y Parciau
Cenedlaethol a’r ardal gyfagos drwy:
1. achosi amhariad
gweledol sylweddol;
2. cael ei
leoli’n annoeth ac yn anystyriol o fewn y dirwedd;
3. cyflwyno neu ddwysáu defnydd sy’n anghydnaws â’i
leoliad;
4. ddim yn
gydnaws â ffurf y tir a’r dirwedd
neu ddim yn eu
gwella; ac/neu
5. colli neu fethu
ag ymgorffori nodweddion traddodiadol
pwysig, patrymau,
strwythurau a chynllun aneddiadau a
thirweddau.
Lle mae hynny’n bosibl dylai datblygu wella’r priodweddau hynny a’r nodweddion
arbennig.
• Byddai cymeradwyo’r cais yn cefnogi
busnes lleol ac economi Ceredigion yn unol â pholisi S02 ac S03
• Roedd yr holl
safleoedd eraill ar gyfer y busnes
wedi eu hystyried
a’u dihysbyddu gyda’r prawf dilyniannol
ac roedd y tir hwn yn addas ar
gyfer yr ymgeisydd yn unig.
• Nid oedd y cynllun
presennol yn addas ar gyfer Ceredigion fel sir wledig.
Atgoffwyd aelodau’r
Pwyllgor Rheoli Datblygu o’r ffaith
bod cyfarwyddyd wedi’i dderbyn gan y Gweinidog
Newid Hinsawdd o dan Erthygl 18 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012.
Mae’r cyfarwyddyd
yn atal y Cyngor rhag rhoi caniatâd
cynllunio mewn perthynas â chais cynllunio A210757, heb awdurdodiad ymlaen llaw gan Weinidogion
Cymru.
O ganlyniad, rhaid
i’r Cyngor yn awr aros am benderfyniad
Gweinidogion Cymru ynghylch
a oedd y cais
yn cael ei
alw i mewn cyn y gallai’r Cyngor roi unrhyw ganiatâd
cynllunio.
_________________________________________________________________
A220638, Cam 4 - Codi 8 annedd gan gynnwys 2 dŷ
fforddiadwy, Cae John,
Cross Inn, Llanon
CYMERADWYO’R cais gydag amodau a chytundeb Adran 106 yn ymwneud â darparu
tai fforddiadwy a mannau agored cyhoeddus.
Cymerwyd pleidlais
a gofnodwyd yn unol â Rhan 4, Dogfen I o Gyfansoddiad y Cyngor oherwydd bod penderfyniad y Pwyllgor yn groes
i argymhelliad y Swyddog ac yn
gwyro’n sylweddol oddi wrth y polisi.
Cynigiodd y Cynghorydd
Gareth Lloyd i fynd yn erbyn yr argymhelliad,
ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Meirion Davies.
O blaid yr
argymhelliad:
Y Cynghorydd Marc Davies (1)
Yn erbyn
yr argymhelliad:
Y Cynghorwyr Rhodri Davies,
Meirion Davies, Raymond Evans, Chris James, Ceris Jones, Maldwyn Lewis a Gareth
Lloyd (7)
Ymatal:
Y Cynghorydd Rhodri Evans (1)
Nid oedd
yr Aelodau’n cytuno ag argymhelliad y Swyddogion, ac roeddent o’r farn y gellid
cymeradwyo’r cais am y rhesymau canlynol:-
• Bod y cais ar safle
addas a bod galw am dai yn y lleoliad hwn
oherwydd bod rhestr aros ar gyfer
yr anheddau
• Bod y datblygiad o fudd i fusnesau lleol yr ardal
• Roedd y tai mwy ar y safle hefyd
yn fforddiadwy o gymharu â thai o’r un maint
mewn lleoliadau eraill
• Bod y tai fforddiadwy wedi eu hadeiladu yn
gyntaf cyn y tai marchnad agored
_________________________________________________________________
Dogfennau ategol: