Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Rheoli Datblygu - Dydd Mercher, 8fed Tachwedd, 2023 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Mrs Dana Jones 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorwyr Gethin Davies, Ifan Davies, Sian Maehrlein, Mark Strong a Carl Worrall am nad oeddent yn gallu mynychu’r cyfarfod. 

2.

Materion Personol

3.

Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Datganodd Ms Elin Prysor fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu yng Nghais A220638 ac roedd Mrs Patricia Armstrong, Rheolwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cyfreithiol yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod yr eitem hon fel y Dirprwy Swyddog Monitro.

4.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Hydref 2023 pdf eicon PDF 98 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Hydref 2023 yn gywir.

 

Materion yn codi

Dim.

5.

Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Ystyriwyd Adroddiad y Swyddog Arweiniol CorfforaetholEconomi ac Adfywio

ar y ceisiadau cynllunio canlynol a ystyriwyd mewn cyfarfod blaenorol ac a oedd angen ystyriaeth bellach gan y Pwyllgor:-

 

A210757 Codi adeilad gwneud faniau ceffylau, gan gynnwys gosod mynedfa i gerbydau a safle trin pecynnau, tir gerllaw’r B4338, rhwng y gyffordd â’r C1279 a’r gyffordd â’r C1060, Llanybydder

 

CYMERADWYO’R cais, gydag amodau.

 

Cymerwyd pleidlais a gofnodwyd yn unol â Rhan 4, Dogfen I o Gyfansoddiad y Cyngor oherwydd bod penderfyniad y Pwyllgor yn groes i argymhelliad y Swyddog ac yn gwyro’n sylweddol oddi wrth y polisi. Cynigiodd y Cynghorydd Gareth Lloyd i fynd yn erbyn yr argymhelliad, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Rhodri Evans.

 

O blaid yr argymhelliad:

Y Cynghorydd Rhodri Davies (1)

 

Yn erbyn yr argymhelliad:

Y Cynghorwyr Meirion Davies, Raymond Evans, Rhodri Evans, Chris James, Ceris Jones, Maldwyn Lewis a Gareth Lloyd (7)

 

Ymatal:

Y Cynghorydd Marc Davies (1)

 

Nid oedd yr Aelodau’n cytuno ag argymhelliad y Swyddogion ac roeddent o’r farn y gellid cymeradwyo’r cais am y rhesymau canlynol: -

         Roedd y cais o fewn Polisi S04: Datblygu mewnAneddiadau Cyswllt a Lleoliadau Eraill’ – paragraff 3b. safle sydd heb ei neilltuo ac mae naill ai:

i. arraddfa fach’ ac yn diwallu angen lleol penodol;

neu

ii. yn unol â gofynion Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 6 sy’n ymwneud â mentrau gwledig.

         Roedd y cais hefyd o fewn Polisi DM17, y Dirwedd yn Gyffredinol, gan ei fod yn nodi y caniateir datblygu ar yr amod nad yw’n cael effaith niweidiol arwyddocaol ar briodweddau a chymeriad arbennig tirweddau a morweddau gweledol, hanesyddol, daearegol, ecolegol neu ddiwylliannol Ceredigion, y Parciau Cenedlaethol a’r ardal gyfagos drwy:

1. achosi amhariad gweledol sylweddol;

2. cael ei leoli’n annoeth ac yn anystyriol o fewn y dirwedd;

3. cyflwyno neu ddwysáu defnydd sy’n anghydnaws â’i

leoliad;

4. ddim yn gydnaws â ffurf y tir a’r dirwedd neu ddim yn eu

gwella; ac/neu

5. colli neu fethu ag ymgorffori nodweddion traddodiadol

pwysig, patrymau, strwythurau a chynllun aneddiadau a

thirweddau.

Lle mae hynny’n bosibl dylai datblygu wella’r priodweddau hynny a’r nodweddion arbennig.

         Byddai cymeradwyo’r cais yn cefnogi busnes lleol ac economi Ceredigion yn unol â pholisi S02 ac S03

         Roedd yr holl safleoedd eraill ar gyfer y busnes wedi eu hystyried a’u dihysbyddu gyda’r prawf dilyniannol ac roedd y tir hwn yn addas ar gyfer yr ymgeisydd yn unig.

         Nid oedd y cynllun presennol yn addas ar gyfer Ceredigion fel sir wledig.

 

Atgoffwyd aelodau’r Pwyllgor Rheoli Datblygu o’r ffaith bod cyfarwyddyd wedi’i dderbyn gan y Gweinidog Newid Hinsawdd o dan Erthygl 18 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012.

 

Mae’r cyfarwyddyd yn atal y Cyngor rhag rhoi caniatâd cynllunio mewn perthynas â chais cynllunio A210757, heb awdurdodiad ymlaen llaw gan Weinidogion Cymru.

 

O ganlyniad, rhaid i’r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Ystyriwyd adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Economi ac Adfywio ar geisiadau statudol, llywodraeth leol, hysbysebion a datblygu:-

 

Anerchodd Mr Mark Bedder (Asiant) y Pwyllgor yn unol â’r weithdrefn Weithredol ar gyfer Aelodau’r Cyhoedd sy’n annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu.

 

A230210 Codi bloc newydd o fflatiau ar wahân, pedwar llawr o uchder, sy’n cynnwys 8 fflat, gyda meysydd parcio cysylltiedig a mannau amwynder cymunedol, Bryn Derw, Ffordd Stanley, Aberystwyth

 

GOHIRIO’R cais i gwblhau cytundeb A106 ynglŷn â darparu tai fforddiadwy a chaniatáu’r cais gydag amodau unwaith y bydd cytundeb A106 wedi’i gwblhau.

_________________________________________________________________

A230304 Datblygiad arfaethedig yn cynnwys bloc newydd ar wahân o fflatiau, tri llawr o uchder, sy'n cynnwys 6 fflat gyda meysydd parcio cysylltiedig a mannau amwynder cymunedol. (Bloc 1B) Bloc 1B, Bryn Derw, Ffordd Stanley, Aberystwyth

 

GOHIRIO’R cais i gwblhau cytundeb A106 ynglŷn â darparu tai fforddiadwy a chaniatáu’r cais gydag amodau unwaith y bydd cytundeb A106 wedi’i gwblhau.

_______________________________________________________________

A230306 Datblygiad arfaethedig yn cynnwys bloc newydd ar wahân o fflatiau, tri llawr o uchder, sy’n cynnwys 6 fflat gyda meysydd parcio cysylltiedig a mannau amwynder cymunedol. (Bloc 1C) Bloc 1C, Bryn Derw, Ffordd Stanley, Aberystwyth

 

GOHIRIO’R cais i gwblhau cytundeb A106 ynglŷn â darparu tai fforddiadwy a chaniatáu’r cais gydag amodau unwaith y bydd cytundeb A106 wedi’i gwblhau.

________________________________________________________________

A230308 Datblygiad arfaethedig yn cynnwys bloc newydd ar wahân o fflatiau dau lawr gyda lle yn y to, sy’n cynnwys pedwar fflat gyda meysydd parcio cysylltiedig a mannau amwynder cymunedol. (Bloc 1D) Brynderw, Ffordd Stanley, Aberystwyth

 

GOHIRIO’R cais i gwblhau cytundeb A106 ynglŷn â darparu tai fforddiadwy a chaniatáu’r cais gydag amodau unwaith y bydd cytundeb A106 wedi’i gwblhau.

____________________________________________________________

 

A230612 Codi annedd, Tir ar fferm Bron Y Glyn Glynarthen, Llandysul

 

Nodi bod y cais wedi’i DYNNU’N ÔL.

 

7.

Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi’r rhestr o geisiadau cynllunio yr ymdriniwyd â hwy yn Adroddiad y Swyddog Arweiniol CorfforaetholEconomi ac Adfywio.

8.

Apeliadau pdf eicon PDF 2 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi’r apeliadau a dderbyniwyd.

9.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor