Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol - Dydd Iau, 21ain Mawrth, 2024 11.05 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Dwynwen Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Dim.

2.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

Dim.

3.

Ethol Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn fwrdeistrefol 2024/25, gan ddechrau ar 17 Mai 2024.

Cofnodion:

Cynigiodd y Cynghorydd Paul Hinge ac eiliwyd gan y Cynghorydd Rhodri Evans bod y Cynghorydd Elaine Evans yn cael ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn Gyngor nesaf.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol bod y Cynghorydd Elaine Evans yn cael ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn Gyngor nesaf.

4.

Ethol Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn fwrdeistrefol 2024/25, gan ddechrau ar 17 Mai 2024.

Cofnodion:

Cynigiodd y Cynghorydd Ifan Davies ac eiliwyd gan y Cynghorydd Euros Davies bod y Cynghorydd Rhodri Evans yn cael ei ethol yn Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn Gyngor nesaf.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol bod y Cynghorydd Rhodri Evans yn cael ei ethol yn Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn Gyngor nesaf.