Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Dwynwen Jones
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Dim. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Dim. |
|
Ethol Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn fwrdeistrefol 2024/25, gan ddechrau ar 17 Mai 2024. Cofnodion: Cynigiodd y Cynghorydd Paul Hinge ac eiliwyd
gan y Cynghorydd Rhodri Evans bod y Cynghorydd Elaine Evans yn cael ei ethol yn
Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn Gyngor nesaf. PENDERFYNWYD yn unfrydol bod y Cynghorydd Elaine Evans yn
cael ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn Gyngor nesaf. |
|
Ethol Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn fwrdeistrefol 2024/25, gan ddechrau ar 17 Mai 2024. Cofnodion: Cynigiodd y Cynghorydd Ifan Davies ac eiliwyd
gan y Cynghorydd Euros Davies bod y Cynghorydd Rhodri Evans yn cael ei ethol yn
Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn Gyngor nesaf. PENDERFYNWYD yn unfrydol bod y Cynghorydd Rhodri Evans yn
cael ei ethol yn Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn Gyngor nesaf. |