Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Dwynwen Jones
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y
Cynghorwyr Ceris Jones, Hugh R M Hughes a Caryl Roberts am na fedrent ddod i’r
cyfarfod. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Dim. |
|
Adroddiad monitro chwe-misol y Polisi Ymgysylltu a Chyfranogi PDF 635 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Matthew Vaux, yr Aelod Cabinet dros Bartneriaethau,
Tai, Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu, a Diogelu’r Cyhoedd, adroddiad
monitro chwe-misol y Polisi Ymgysylltu a Chyfranogi. Nododd fod adroddiad am y
cynnydd a wnaed o ran y cynllun gweithredu yn ystod 2022-23 wedi’i gyflwyno i’r
Pwyllgor ym mis Mehefin 2023. Cytunwyd y byddai adroddiad monitro chwe-misol yn
cael ei gyflwyno ym mis Rhagfyr 2023. Adroddwyd bod Polisi Ymgysylltu a
Chyfranogi Ceredigion, ‘Siarad, Gwrando a Gweithio Gyda’n Gilydd’, yn cynnwys
cynllun gweithredu a oedd yn sail i’r adroddiad hwn. Yn ogystal, cyhoeddwyd y
Polisi ar wefan Cyngor Sir Ceredigion. Cytunodd y Cabinet ag argymhellion y Pwyllgor
Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol sef: • y dylai pawb
sy’n cymryd rhan yn yr ymarferion ymgysylltu dderbyn y canlyniadau; • bod adroddiad
monitro chwe-misol yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau
Corfforaethol yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr. Roedd Pecyn Cymorth Ymgysylltu ac Ymgynghori
diwygiedig, a gyflwynwyd yn Atodiad 1, wedi’i baratoi ac roedd yn cynnwys adran
ynghylch darparu adborth i’r sawl a oedd yn cymryd rhan yn yr ymarferion.
Byddai pwysigrwydd rhoi adborth yn cael ei bwysleisio yn yr hyfforddiant
ynghylch defnyddio’r pecyn cymorth. Roedd nifer o’r camau gweithredu a oedd yn
goch neu’n oren yn yr adroddiad blaenorol wedi gwneud cynnydd erbyn hyn, a
hynny’n bennaf oherwydd y pecyn cymorth diwygiedig. Roedd y cynllun
gweithredu’n cynnwys pedwar nod. Roedd system Coch / Oren / Gwyrdd ar waith er
mwyn monitro’r cynnydd a wnaed. Coch (dim cynnydd wedi’i wneud), Oren
(rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud), Gwyrdd (cam gweithredu ar y trywydd iawn
neu wedi’i gwblhau). 1. Prif ffrydio gwaith ymgysylltu a
chyfranogi effeithiol ar draws Cyngor Sir Ceredigion. Gwnaed cynnydd o ran statws y camau
gweithredu, o 2 x Gwyrdd ac 1 x Oren i 3 x Gwyrdd. 2. Sicrhau ein bod yn ymgysylltu â phobl
Ceredigion yn y ffordd orau. Gwnaed cynnydd o ran statws y camau
gweithredu, o 1 x Gwyrdd, 1 x Oren ac 1 x Coch i 1 x Gwyrdd a 2 x Oren. 3. Bodloni ein cyfrifoldebau a’n dyletswyddau
statudol o dan y ddeddfwriaeth. Gwnaed cynnydd o ran statws y camau
gweithredu, o 1 x Gwyrdd a 2 x Oren i 3 x Gwyrdd. 4. Cadw llygad ar y datblygiadau a’r arferion
gorau diweddaraf ym maes ymgysylltu. Gwnaed cynnydd o ran statws y camau
gweithredu, o 2 x Gwyrdd ac 1 x Oren i 3 x Gwyrdd. Roedd rhagor o fanylion i’w gweld yn yr
adroddiad cynnydd yn Atodiad 2. Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i
wneud y canlynol: (i)
nodi cynnwys yr
adroddiad monitro chwe-misol ynghylch y Polisi Ymgysylltu a Chyfranogi; a (ii) nodi’r pecyn cymorth
newydd ar gyfer Ymgysylltu ac Ymgynghori. Byddai Rheolwr
Corfforaethol – Partneriaethau a Pherfformiad yn rhannu â’r Aelodau ystadegau a
grëwyd yn genedlaethol ynghylch cyfraddau ymateb i ymgynghoriadau. |
|
Trafod gyda'r Swyddogion y posibilrwydd o sefydlu Grwp Gorchwyl a Gorffen ar Gaffael Cofnodion: Yn dilyn cyflwyniad gan y swyddogion am Gaffael,
CYTUNWYD i sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen. Byddai trafodaeth bellach
ynghylch dogfen cwmpasu’r grŵp yn cael ei hystyried yn dilyn y cyfarfod
gyda’r posibilrwydd o gynnwys eitemau megis y Strategaeth Gaffael a Chomisiynu,
capasiti o fewn y gwasanaeth, a gwiriadau ansawdd a gwerth am arian. Roedd
yr holl Aelodau a’r Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Cyllid a Chaffael eisiau
diolch i George Ryley (Rheolwr Corfforaethol – Caffael a Thaliadau) am ei holl
waith ac ymroddiad. Byddai George yn ymddeol yn fuan. Dymunodd pawb yn dda iddo
ar gyfer y dyfodol. |
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD
cadarnhau bod cofnodion y cyfarfod blaenorol yn gywir |
|
Ystyried Blaenraglen Waith y Dyfodol PDF 150 KB Cofnodion: CYTUNWYD i nodi’r Flaenraglen Waith fel
y’i cyflwynwyd yn amodol ar gytuno y dylid canslo’r cyfarfod nesaf gan mai dim
ond un adroddiad oedd yn cael ei gyflwyno oherwydd nid oedd Openreach yn gallu
dod i’r cyfarfod ond byddent yn darparu datganiad ysgrifenedig i’r Pwyllgor.
Cytunwyd y byddai’r adroddiad chwe-misol ar ganmoliaeth, cwynion a rhyddid
gwybodaeth pob gwasanaeth yn cael ei ystyried yn un o’r cyfarfodydd
dilynol. |