Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Dwynwen Jones
Rhif | eitem |
---|---|
I ethol is-Gadeirydd ar gyfer gweddill blwyddyn fwrdeistrefol 2023.2024 i gychwyn yn syth Cofnodion: PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Elaine Evans yn Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer gweddill blwyddyn fwrdeistrefol 2023/2024, i ddechrau ar unwaith. |
|
Ymddiheuriadau a Materion Personol Cofnodion: Ymddiheurodd
y Cynghorwyr Euros Davies, Eryl Evans a Paul Hinge ynghyd ag Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies am na fedrent ddod i’r
cyfarfod. Ymddiheurodd
y Cynghorydd Caryl Roberts i’r
holl Swyddogion Arweiniol Corfforaethol am ei sylwadau yn
y cyfarfod diwethaf, a oedd yn
ei barn hi wedi cael eu camddehongli.
Serch hynny, dywedodd y Cynghorydd Roberts nad oedd yn
briodol gwneud y gymhariaeth a’i bod yn cymryd cyfrifoldeb
am ei gweithredoedd. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Dim. |
|
Adroddiad Blynyddol Mynd i'r Afael a Chaledi 2022.2023 Cofnodion: Roedd yr
adroddiad hwn yn nodi’r camau a gymerwyd gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
Ceredigion wrth ddarparu ymateb cydgysylltiedig i’r risg gynyddol o galedi yng
Ngheredigion. Dyma oedd yr adroddiad olaf am y ‘Strategaeth Mynd i’r Afael â
Thlodi’ a oedd yn dod i ben fel strategaeth
ar wahân. Yn y dyfodol, cytunwyd y byddai is-grŵp Tlodi’r Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus yn sicrhau bod mynd i’r afael â thlodi yn fater
trawsbynciol ar draws yr holl feysydd gwaith wrth gyflawni Cynllun Llesiant
Lleol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion 2023-28. Roedd cynllun gwaith yn
cael ei ddatblygu ar hyn o bryd i helpu’r Cyngor i gyflawni hyn. Roedd tri
amcan allweddol Strategaeth Mynd i’r Afael â Chaledi Ceredigion 2020-2023 fel a
ganlyn: 1. Ar y
cyd ag asiantaethau sy’n bartneriaid, dod i ddeall effaith esblygol COVID-19 ar
galedi yng Ngheredigion, a hynny drwy goladu a dadansoddi data. 2.
Cydlynu ac atgyfnerthu gwaith ar y cyd ag asiantaethau sy’n bartneriaid i hyrwyddo
a manteisio ar yr holl gymorth sydd ar gael. 3. Nodi
bylchau o ran y cymorth sydd ar gael ac o ran anghenion caledi wrth iddynt
newid er mwyn llunio ymyriadau cynnar effeithiol a fydd yn sicrhau bod
unigolion a chymunedau’n fwy cydnerth wrth inni ddygymod ag effaith COVID-19. Roedd y
Cyngor wedi cyflawni amcanion y strategaeth. Roedd yr is-grŵp
Tlodi wedi cyfarfod yn rheolaidd ac roedd wedi trafod ystod eang o faterion i’n
helpu i ddeall effaith caledi ar bobl Ceredigion. Roedd y dangosfyrddau data a
ddatblygwyd i gefnogi’r gwaith hwn yn cael eu defnyddio’n eang gan bartneriaid
ac roeddent wedi’u cydnabod ledled Cymru fel enghraifft o arfer da. Roedd cynllun gweithredu’r Strategaeth Mynd
i’r Afael â Chaledi a’r adroddiadau rheolaidd wedi helpu’r Cyngor i gydlynu ei
gamau gweithredu. Bu’r dudalen
Costau Byw ar wefan y Cyngor a’r daflen Costau Byw, a bostiwyd i holl godau
post Ceredigion yn ystod gaeaf 2022, o gymorth i hyrwyddo’r cymorth a oedd ar
gael. Roedd y bylchau mewn cymorth wedi’u nodi ac, er nad oedd y Cyngor yn
gallu mynd i’r afael â phob un o’r rhain, roedd wedi gallu ymateb i rai
ohonynt, e.e. sefydlwyd rhwydwaith o 54 o Fannau Croeso Cynnes a oedd yn cynnig
lle cynnes a chyfeillgar i gymunedau ddod at ei gilydd yn ystod gaeaf 2022. Cyflwynwyd yr adroddiad llawn am y cyfnod rhwng Mawrth 2022 ac Ebrill
2023. Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i dderbyn a chymeradwyo
Adroddiad Blynyddol y Strategaeth Mynd i’r Afael â Chaledi 2022-23. Hefyd, cytunwyd y dylid anfon e-bost at Glercod y Cynghorau Cymuned
lle nad oedd banciau bwyd yn bodoli yn eu wardiau sef Llandyfrïog, Llanddewi Brefi, Tregaron ac Ystrad Fflur
ynglŷn â’r broses o sefydlu’r banciau yn y wardiau hyn. |
|
Adroddiad Blynyddol Sylwadau o Ganmoliaeth, Cwynion a Rhyddid Gwybodaeth 2022.2023 Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Polisi
a Pherfformiad y wybodaeth ynglŷn â gwaith y Cyngor o ran Sylwadau o
Ganmoliaeth, Cwynion a Rhyddid Gwybodaeth rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth
2023. Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth benodol ar y nifer a’r mathau o
sylwadau o ganmoliaeth a chwynion a dderbyniwyd, gwahanol gamau’r weithdrefn
gwynion, perfformiad a chanlyniadau yn ymwneud â’r rhain, a gwybodaeth am
gydymffurfio â deddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth a Rheoliadau Gwybodaeth
Amgylcheddol. Hefyd, cyflwynwyd adroddiad am y sylwadau o
ganmoliaeth a chwynion mewn perthynas â'r Gwasanaethau Cymdeithasol a darparwyd
gwybodaeth am y gwersi a ddysgwyd o ganlyniad i’r cwynion (corfforaethol).
Roedd y prif adroddiad yn cynnwys adran am y cysylltiadau a gafwyd gan
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (“yr Ombwdsmon”) yn ystod y cyfnod
adrodd. Yn ogystal, cyflwynwyd Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon at y Cyngor ac
roedd hwn yn rhoi rhagor o fanylion am holl weithgarwch yr Ombwdsmon ar gyfer
Ceredigion a chynghorau eraill ledled Cymru. Dyma'r pedwerydd adroddiad yn olynol lle na chafodd
unrhyw ymchwiliadau eu cychwyn nac unrhyw adroddiadau ffurfiol eu cyhoeddi gan
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â chwynion a wnaed yn
erbyn y Cyngor. Er bod llai o atgyfeiriadau gan yr Ombwdsmon yn ystod y
flwyddyn adrodd hon, roedd gan y Cyngor gyfradd gyson uchel o Setliadau
Datrysiad Cynnar/Gwirfoddol. Cydnabuwyd felly fod heriau'n parhau mewn perthynas
â chymhlethdod y cwynion a dderbyniwyd, y cynnydd cyffredinol mewn gweithgarwch
sy'n ymwneud â chwynion, Rhyddid Gwybodaeth, atgyfeiriadau gan yr Ombwdsmon ac
atgyfeiriadau at Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, yn ogystal â'r heriau sy’n gysylltiedig â darparu’r Gwasanaeth
Cwynion a Rhyddid Gwybodaeth ei hun. Yn anochel, roedd yr heriau hyn wedi
cael effaith ar allu'r Cyngor i gyflawni ei amcanion perfformiad yn unol â’r
amserlenni penodedig. Yn gryno: roedd
465 o sylwadau o ganmoliaeth wedi dod i law roedd
403 o ymholiadau wedi’u prosesu gan y Gwasanaeth Cwynion a Rhyddid Gwybodaeth roedd
144 o gwynion wedi dod i law: Cam 1 = 96
Cam 2 = 48 cafwyd
35 o ‘Gysylltiadau’ gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru roedd
882 o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol wedi’u
prosesu gan y Gwasanaeth Cwynion a Rhyddid Gwybodaeth Wrth grynhoi, soniwyd am y canlynol:- •Cafwyd llawer mwy o sylwadau o ganmoliaeth yn ystod
y cyfnod adrodd hwn. Roedd gwella'r ffordd yr oedd sylwadau o ganmoliaeth yn
cael eu cyflwyno yn parhau i fod yn waith yr oedd angen i'r Tîm Cwynion a'r
Rhyddid Gwybodaeth ei wneud, ond roedd oedi o ran y gwaith hwn oherwydd
cyfyngiadau o ran capasiti. •Derbyniodd y gwasanaeth llawer mwy o ymholiadau –
roedd llawer ohonynt naill ai wedi’u dyrannu i'r meysydd gwasanaeth priodol i’w
datrys yn rhagweithiol, neu roedd angen ymatebion ffurfiol er mwyn egluro pam
na ellid ymdrin â materion o'r fath o dan y gweithdrefnau cwynion. •Roedd yn werth nodi mai nifer y cwynion a
dderbyniwyd gan y Cyngor oedd y trydydd isaf yng Nghymru. •Roedd angen gwneud llawer iawn o waith i atal cwynion Cam 1 rhag symud i Gam 2 ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|
Diweddariad ar Gontract Bancio'r Cyngor Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd
fod cais wedi dod i law oddi wrth aelod
o’r cyhoedd ar 27 Gorffennaf
2023 yn gofyn iddo ystyried y ddarpariaeth o ran gwasanaethau bancio’r Cyngor yn wyneb pryder am yr angen brys
i fynd i’r afael â newid hinsawdd
a chymryd pob cam angenrheidiol i gyrraedd ‘sero net’. Bu i’r aelod o’r
cyhoedd nodi’r canlynol: Teimlwn y byddai’n
fuddiol i’r Pwyllgor Craffu ystyried yn drylwyr
ac ymchwilio i’r sawl y mae’r awdurdod
yn bancio â nhw, yr effaith
y gallai hyn ei chael a’r
ffordd orau ymlaen ar gyfer
yr Awdurdod i sicrhau bod ei arian a’i fuddsoddiadau
yn helpu i fynd i’r afael
â newid hinsawdd yn hytrach na
gwaethygu’r sefyllfa. Yn unol â’r
gweithdrefnau ar gyfer caniatáu i aelodau’r cyhoedd annerch y Pwyllgor, daeth Mr Grimsell i’r cyfarfod i annerch yr Aelodau
ar y mater hwn. Ar ôl hynny, cyflwynodd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol adroddiad a oedd
yn rhoi trosolwg
o’r hyn yr
oedd y contract bancio yn ei gwmpasu
a’r diweddaraf am y broses dendro bresennol. Bu iddo hefyd nodi fod materion amgylcheddol
wedi’u hystyried o fewn y meini prawf
sgorio. Yn dilyn cwestiynau gan yr Aelodau, cytunwyd
i nodi’r adroddiad er gwybodaeth. Diolchodd y Cadeirydd
i Mr Grimsell am ddod i’r cyfarfod i rannu ei bryderon. |
|
Ystyried Blaenraglen Waith y Pwyllgor Cofnodion: CYTUNWYD i nodi’r flaenraglen waith fel y’i cyflwynwyd. |
|
Cofnodion: Cynigiodd
y Cynghorydd Caryl Roberts newidiadau arfaethedig i’r cofnodion drafft fel a
ganlyn: ·
Dileu’r cyfeiriad at Swyddogion yn nhrydydd paragraff yr eitem am Clic gan mai dim
ond at y Swyddogion Arweiniol Corfforaethol yr oedd y Cynghorydd Caryl Roberts
yn cyfeirio atynt; “fod y Prif Weithredwr wedi dweud wrth yr holl Aelodau yn y
cyfarfod cyntaf ar ôl yr etholiad na ddylai’r Aelodau gysylltu ag unrhyw
swyddogion yn uniongyrchol i drafod materion, ar wahân i’r Swyddogion
Arweiniol Corfforaethol” ·
Ychwanegu brawddeg “Dywedodd y Prif Weithredwr fod
rhywun o amgylch y bwrdd hwn yn dweud celwydd.” Cafwyd trafodaeth ynglŷn ag
ychwanegu’r frawddeg a rhoddwyd cyngor gan y Swyddog Arweiniol Corfforaethol:
Gwasanaethau Democrataidd. Wrth
ystyried y newidiadau arfaethedig i’r cofnodion, PENDERFYNWYD cau allan y
cyhoedd a’r wasg o’r cyfarfod wrth ystyried yr eitem ar y sail bod y drafodaeth
yn ymwneud ag unigolyn/unigolion ac na ddylai gwybodaeth o’r fath, ar ôl pwyso
a mesur, gael ei datgelu i’r cyhoedd a’r wasg. Cytunwyd
i gau allan y cyhoedd a’r wasg o’r cyfarfod yn unol â pharagraff 12 y rheolau
ynghylch Mynediad at Wybodaeth. Yn
dilyn trafodaeth, dychwelodd y cyfarfod i fod yn un cyhoeddus. Bu
i’r Cynghorydd Caryl Roberts dynnu’n ôl y frawddeg ychwanegol arfaethedig a
chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Ann Bowen Morgan. Yn
dilyn pleidlais, CYTUNWYD i gadarnhau cofnodion y cyfarfod yn amodol ar y
newidiadau canlynol:- · Dileu’r cyfeiriad at
Swyddogion yn nhrydydd paragraff yr eitem am Clic gan mai dim ond at y
Swyddogion Arweiniol Corfforaethol yr oedd y Cynghorydd Caryl Roberts yn
cyfeirio atynt; “fod y Prif Weithredwr wedi dweud wrth
yr holl Aelodau yn y cyfarfod cyntaf ar ôl yr etholiad na ddylai’r Aelodau
gysylltu ag unrhyw swyddogion
yn uniongyrchol i drafod materion, ar wahân i’r Swyddogion
Arweiniol Corfforaethol” ·
Dileu’r cyfeiriad at “y Rheolwr Corfforaethol” a
oedd hefyd yn nhrydydd paragraff yr eitem am Clic; “na ddylai’r Aelodau
gysylltu ag unrhyw swyddogion yn uniongyrchol i drafod materion, ar wahân i’r
Swyddogion Arweiniol Corfforaethol, y Rheolwr Corfforaethol neu ef ei hunan” Nid
oedd dim materion yn codi o’r cofnodion. |