Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Polisi
a Pherfformiad y wybodaeth ynglŷn â gwaith y Cyngor o ran Sylwadau o
Ganmoliaeth, Cwynion a Rhyddid Gwybodaeth rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth
2023. Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth benodol ar y nifer a’r mathau o
sylwadau o ganmoliaeth a chwynion a dderbyniwyd, gwahanol gamau’r weithdrefn
gwynion, perfformiad a chanlyniadau yn ymwneud â’r rhain, a gwybodaeth am
gydymffurfio â deddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth a Rheoliadau Gwybodaeth
Amgylcheddol.
Hefyd, cyflwynwyd adroddiad am y sylwadau o
ganmoliaeth a chwynion mewn perthynas â'r Gwasanaethau Cymdeithasol a darparwyd
gwybodaeth am y gwersi a ddysgwyd o ganlyniad i’r cwynion (corfforaethol).
Roedd y prif adroddiad yn cynnwys adran am y cysylltiadau a gafwyd gan
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (“yr Ombwdsmon”) yn ystod y cyfnod
adrodd. Yn ogystal, cyflwynwyd Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon at y Cyngor ac
roedd hwn yn rhoi rhagor o fanylion am holl weithgarwch yr Ombwdsmon ar gyfer
Ceredigion a chynghorau eraill ledled Cymru.
Dyma'r pedwerydd adroddiad yn olynol lle na chafodd
unrhyw ymchwiliadau eu cychwyn nac unrhyw adroddiadau ffurfiol eu cyhoeddi gan
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â chwynion a wnaed yn
erbyn y Cyngor. Er bod llai o atgyfeiriadau gan yr Ombwdsmon yn ystod y
flwyddyn adrodd hon, roedd gan y Cyngor gyfradd gyson uchel o Setliadau
Datrysiad Cynnar/Gwirfoddol.
Cydnabuwyd felly fod heriau'n parhau mewn perthynas
â chymhlethdod y cwynion a dderbyniwyd, y cynnydd cyffredinol mewn gweithgarwch
sy'n ymwneud â chwynion, Rhyddid Gwybodaeth, atgyfeiriadau gan yr Ombwdsmon ac
atgyfeiriadau at Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, yn ogystal â'r heriau sy’n gysylltiedig â darparu’r Gwasanaeth
Cwynion a Rhyddid Gwybodaeth ei hun. Yn anochel, roedd yr heriau hyn wedi
cael effaith ar allu'r Cyngor i gyflawni ei amcanion perfformiad yn unol â’r
amserlenni penodedig.
Yn gryno:
roedd
465 o sylwadau o ganmoliaeth wedi dod i law
roedd
403 o ymholiadau wedi’u prosesu gan y Gwasanaeth Cwynion a Rhyddid Gwybodaeth
roedd
144 o gwynion wedi dod i law: Cam 1 = 96
Cam 2 = 48
cafwyd
35 o ‘Gysylltiadau’ gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
roedd
882 o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol wedi’u
prosesu gan y Gwasanaeth Cwynion a Rhyddid Gwybodaeth
Wrth grynhoi, soniwyd am y canlynol:-
•Cafwyd llawer mwy o sylwadau o ganmoliaeth yn ystod
y cyfnod adrodd hwn. Roedd gwella'r ffordd yr oedd sylwadau o ganmoliaeth yn
cael eu cyflwyno yn parhau i fod yn waith yr oedd angen i'r Tîm Cwynion a'r
Rhyddid Gwybodaeth ei wneud, ond roedd oedi o ran y gwaith hwn oherwydd
cyfyngiadau o ran capasiti.
•Derbyniodd y gwasanaeth llawer mwy o ymholiadau –
roedd llawer ohonynt naill ai wedi’u dyrannu i'r meysydd gwasanaeth priodol i’w
datrys yn rhagweithiol, neu roedd angen ymatebion ffurfiol er mwyn egluro pam
na ellid ymdrin â materion o'r fath o dan y gweithdrefnau cwynion.
•Roedd yn werth nodi mai nifer y cwynion a
dderbyniwyd gan y Cyngor oedd y trydydd isaf yng Nghymru.
•Roedd angen gwneud llawer iawn o waith i atal
cwynion Cam 1 rhag symud i Gam 2 yn ddiangen oherwydd nad oedd modd ymateb o
fewn yr amserlen benodedig o ddeg diwrnod gwaith.
•Hefyd, roedd angen rhoi sylw i’r trefniadau o ran cydymffurfio
ag amserlenni Cam 2, yn ogystal â'r diffygion wrth ymdrin â chwynion a oedd
wedi’u cyfeirio at yr Ombwdsmon. Roedd y Tîm Cwynion a Rhyddid Gwybodaeth yn
parhau i wynebu heriau wrth geisio bodloni’r gofynion cynyddol o ran nifer y
sylwadau o ganmoliaeth, cwynion a cheisiadau Rhyddid Gwybodaeth.
•Roedd llai o atgyfeiriadau gan yr Ombwdsmon na’r
llynedd, ond nodwyd mai nifer y Setliadau Datrysiad Cynnar / Gwirfoddol oedd yr
uchaf yng Nghymru.
• Materion yn ymwneud â Chasglu Sbwriel a Chynllunio
yw'r prif resymau o hyd dros gwynion. Fodd bynnag, roedd y gwasanaethau hyn yn
fwy tebygol o ddenu cwynion ac felly
rhaid ystyried y cyd-destun a lefel y gweithgarwch a wneir gan y ddau faes
gwasanaeth dan sylw.
• Roedd
cydymffurfiaeth â’r amserlenni Rhyddid Gwybodaeth a Rheoliadau Gwybodaeth
Amgylcheddol ar y lefel isaf a gofnodwyd, sef 54% a 44%. Roedd llawer o waith
yn cael ei wneud i wella hyn.
Ymhlith y meysydd yr oedd angen canolbwyntio arnynt
oedd y canlynol:-
•Gwella cydymffurfiaeth â’r amserlenni a bennwyd yn
y polisïau/deddfwriaeth sy’n ymwneud â chwynion a Rhyddid Gwybodaeth/Rheoliadau
Gwybodaeth Amgylcheddol.
•Cryfhau cydnerthedd o fewn y Tîm Cwynion a Rhyddid
Gwybodaeth
• Atgyfnerthu'r egwyddor bod cwynion yn
gyfrifoldeb i’r Cyngor cyfan
• Darparu rhaglen hyfforddi gynhwysfawr ar
ymdrin â chwynion
• Gwella’r system ar gyfer casglu sylwadau
o ganmoliaeth a data am y gwersi a ddysgwyd.
• Parhau â
dull agored, tryloyw sy’n canolbwyntio ar y dinesydd wrth ddatrys pryderon.
CYTUNWYD i nodi cynnwys yr adroddiad hwn cyn y
byddai’n cael ei gyflwyno yng nghyfarfod y Cabinet ar 7 Tachwedd 2023.
Dogfennau ategol: