Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Lisa Evans
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: i.
Ymddiheurodd y Cynghorwyr Marc Davies, Meirion Davies a
John Roberts am nad oeddent yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod. ii.
Ymddiheurodd y Cynghorydd Rhodri Davies am ymuno a’r
cyfarfod yn hwyr. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Ni ddatgelodd yr un Aelod o’r Pwyllgor fuddiant personol na buddiant a oedd yn rhagfarnu (nac ychwaith unrhyw ddatganiadau chwipio). |
|
Adolygu Polisi Rheoli Harbyrau Ceredigion: Ymgynghoriad Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y Cynghorydd Keith Henson (Aelod o’r Cabinet dros Briffyrdd a
Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon) ddiweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar
ganlyniad proses ymgynghori Polisi Rheoli Harbyrau
Ceredigion. Cymeradwywyd Polisi presennol Rheoli Harbyrau
Ceredigion gan y Cyngor ar 19 Hydref 2010 ac roedd wedi darparu fframwaith
clir, defnyddiol a phriodol ar gyfer cyflawni a rheoli’r gweithgarwch yn Harbyrau'r Cyngor yn Aberaeron, Aberystwyth a Chei Newydd.
Fodd bynnag, erbyn hyn ystyriwyd ei bod yn briodol ac yn amserol i adolygu a
diweddaru’r Polisi i adlewyrchu’r newidiadau perthnasol ers i'r Polisi gael ei
roi ar waith. Hefyd, i fynd i'r afael ag unrhyw fylchau
rhwng y Polisi a gweithgarwch presennol yr Harbyrau
oedd wedi'u nodi neu oedd yn deillio o brofiad. Roedd y newidiadau a gynigwyd yn adeiladu ar y Polisi presennol oedd wedi
gwasanaethu’r rhanddeiliaid yn dda ers dros ddegawd. Roedd y newidiadau yn
cydnabod ac yn adlewyrchu bod yr Harbyrau yn
gyfleusterau aml-ddefnydd oedd yn cael eu rhannu, a bwriad cyffredinol y Cyngor
oedd i gryfhau'r Polisi fel y gellid parhau i reoli'r rhain mewn ffordd deg,
dryloyw a chytbwys er budd yr holl randdeiliaid. Roedd Polisi
drafft diweddaredig wedi’i baratoi ac fel rhan o'r
broses o newid polisi, cynhaliwyd ymgynghoriad gan roi cyfle i randdeiliaid roi eu barn. Lansiwyd yr ymgynghoriad ar 20
Medi 2023 ac roedd ar agor hyd 20 Hydref 2023. Yn gyfan gwbl, cafwyd 108 o
ymatebion drwy’r broses ymgynghori benodedig. Cafwyd a nodwyd adborth drwy
ffyrdd eraill hefyd. Cafwyd trosolwg o'r adborth a dderbyniwyd. Yn dilyn yr
adborth a gafwyd drwy’r broses ymgynghori, gwnaed newidiadau i ddrafft
diweddaraf y Polisi newydd. Fel gydag unrhyw ymgynghoriad oedd yn ymwneud â
newid polisi, nid oedd yn bosib ymateb yn gadarnhaol i'r holl adborth ac
awgrymiadau a sylwadau a ddaeth i law. Yn wir, gall amcanion, dyheadau a
disgwyliadau'r gwahanol randdeiliaid wrthdaro â’i
gilydd Eglurodd y
Cynghorydd Keith Henson a Gerwyn Jones, Rheolwr Corfforaethol- Gwasanaethau
Amgylcheddol mai’r bwriad oedd cael fframwaith polisi eang oedd yn cefnogi ac
yn hwyluso’r gwaith o reoli’r harbyrau yn deg, yn
gyson ac yn dryloyw gan gydnabod amrywiaeth y rhanddeiliaid oedd yn defnyddio'r
cyfleusterau. Derbyniwyd na fyddai pawb yn cymeradwyo nac yn cytuno â'r
manylion a'r goblygiadau. Fodd bynnag, cyfleusterau a weithredwyd gan y Cyngor
oedd y rhain, ac yn y pen draw mater i'r Cyngor oedd penderfynu sut orau i’w
rheoli nhw a'r gweithgarwch oedd yn digwydd ynddynt. Ychwanegodd
Gerwyn Jones fod camddealltwriaeth wedi bod ynghylch amserau aros a bod hyn
wedi’i adlewyrchu yn yr adborth. Hefyd os oedd cwch ar werth gydag angorfa, y
gallai hyn greu premiwm artiffisial. O’r 108 o ymatebion, rhoddodd 33 eu barn ar y polisi er iddynt ddweud nad oeddent yn ymwybodol
o’i fodolaeth, felly roedd yn bwysig cael dull cytbwys o ymdrin â’r mater. Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn
cwestiynau a gafodd eu hateb gan y Swyddogion. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd: · Roedd yr Aelodau'n gefnogol i dynnu ymaith yr hawliau trosglwyddo ac etifeddu o’r trefniadau angori ar gyfer deiliaid hamdden yn y ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Eglurodd y Cynghorydd Keith Henson fod y papur yn nodi
sut caiff y gwasanaeth Torri Porfa ei reoli, y rhesymeg y tu ôl hyn a’r costau
cysylltiedig. Yn 2014 – 15 gostyngwyd prif doriad ymyl y ffordd i un toriad.
Gwnaed hyn yn sgil toriadau a wnaed i’r gwasanaeth yn dilyn adolygiad o
Wasanaethau’r Cyngor y flwyddyn honno. Drwy gydnabod hyn. penderfynwyd torri
mewn ardaloedd penodol yn hytrach nag yn ôl hierarchaeth ffyrdd, er bod
rhywfaint o drawsgroesi. Yn y drefn
gyfredol, roedd angen gwneud toriadau ar sail ‘diogelwch / gwelededd’ yn gyntaf
(cyffyrdd a llinellau gwelededd) ac yna’r ardaloedd oedd yn tyfu’n gynnar. Yn
sgil yr hinsawdd, roedd tyfiant yn gynt yn y de felly roedd y gwasanaeth yn
gweithio o’r de i’r gogledd. Roedd 70% o’r rhwydwaith yn Ffyrdd Dosbarth C a
Ffyrdd Di-ddosbarth ac roedd llwyddo i fynd i’r holl lonydd cul yn her. Wrth
gwrs, roedd adnoddau’n brin ac ni allant dorri bob ymyl y ffordd ar yr un pryd,
felly roedd rhai yn cael eu torri’n gynt nag eraill. Naill ffordd, roedd
posibilrwydd y byddai amseriad y toriadau yn denu cwynion. Roedd y
contractwr wedi bod yn torri profa ers nifer o flynyddoedd ac roedd y
gwasanaeth yn ceisio peidio â gwyro’r contractwr o’r rhaglen am fod costau ychwanegol
yn gysylltiedig â hyn. Fodd bynnag, gellid newid y rhaglen os oedd angen am
resymau diogelwch y ffyrdd. Roedd Swyddog yn archwilio pob cais i dorri porfa a
dderbyniwyd gan asesu a oedd y rheswm yn ddigonol i wyro adnoddau. Roedd yn
cymryd oddeutu 6 wythnos i gwblhau’r prif doriad. Roedd y gwasanaeth yn cynnal
cyfarfod briffio gyda’r contractwr cyn y tymor torri ac ar ôl hynny. Rhannwyd y Sir
i 10 ardal. Roedd 9 ardal yn cynnwys ffyrdd y sir ac un ardal ar wahân ar gyfer
y cefnffyrdd sef ardal rhif 10 caiff ei rheoli ar ran NMWTRA. Roedd yr Awdurdod
bob amser yn gorfod adolygu safonau yn y cytundebau lefel gwasanaeth er mwyn
adlewyrchu’r gostyngiad yn y gyllideb i’r gweithgareddau cynnal a chadw
priffyrdd amrywiol. Roedd blaenoriaethau yn y dyfodol yn debygol o arwain at
ffocysu mwy ar risg a diogelwch y ffordd a llai ar ymddangosiad esthetaidd yr
ardaloedd porfa a gaiff eu cynnal a’u cadw. Cyfeiriwyd at y
canlynol a nodwyd yn yr adroddiad: · Toriadau ar y
Brif Ffyrdd · Torri porfa -
mannau amwynder · Mannau Trefol â
Blodau Gwyllt · Mannau
Cadwraeth ger y Ffordd · Costau’r
Gwasanaeth Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn
cwestiynau a gafodd eu hateb gan y Swyddogion. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd: · Roedd toriadau
amwynder yn cael eu gwneud yn fewnol gan y tîm Cynnal a Chadw Tiroedd a hynny
bedair gwaith y flwyddyn. Diogelwch ar y ffyrdd oedd y prif reswm dros dorri
porfa. · Fe wnaeth Aelodau godi pryderon nad oedd rhai ardaloedd yn eu wardiau yn cael eu torri'n gyson. Nodwyd y gallai cyrff gwahanol fod yn gyfrifol am yr ardal o borfa, megis cymdeithasau tai a pherchnogion tir. Cytunodd y swyddogion i rannu manylion ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Adroddiad Blynyddol y Fforwm Mynediad Lleol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd Eifion
Jones, Swyddog Llwybrau Cyhoeddus ac Ysgrifennydd y Fforwm Mynediad Lleol, wedi
rhoi trosolwg o Adroddiad Blynyddol y Fforwm Mynediad Lleol ac o waith a rôl y
Fforwm. Sefydlwyd Fforwm Mynediad Lleol Ceredigion yn unol â Deddf Cefn Gwlad a
Hawliau Tramwy 2000 i gynghori’r Cyngor Sir, Cyfoeth Naturiol Cymru ac eraill
ynghylch y ffordd y gellid gwella a rheoli mynediad i gefn gwlad. Roedd
Fforymau Mynediad Lleol yn cynrychioli amrywiaeth eang o fuddiannau ac roedd yr
aelodau yn chwarae rôl bwysig o ran gwella a rheoli mynediad i gefn gwlad
amrywiol ac atyniadol y sir Penodwyd
aelodau’r Fforwm Mynediad Lleol am dair blynedd; penodwyd y Fforwm presennol
gan Gyngor Sir Ceredigion, sef yr Awdurdod Penodi, yn 2022 a bydd yr aelodau’n
eistedd ar y fforwm tan 2025. Nid yn unig yr oedd y Fforwm yn gorff statudol a
anogir i osod ei agenda ei hun, yr oedd yn allweddol ar gyfer denu grantiau a
oedd yn werth dros £100,000 y flwyddyn. Hefyd roedd yn bartner wrth reoli
Hawliau Tramwy a Mynediad. Lluniwyd yr adroddiad blynyddol yn unol â Rheoliad
16 Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Fforymau Mynediad Lleol) (Cymru) 2001. Estynnodd y Cynghorydd Clive Davies (Aelod o’r Cabinet dros yr Economi ac
Adfywio) ei ddiolch i Eifion Jones am lunio’r adroddiad. Fel aelod o’r Fforwm,
dywedodd fod y gwaith - a’r cyflwyniadau a wneir gan gyrff allanol - yn
ddiddorol iawn. Cytunodd
Aelodau’r Pwyllgor i nodi’r wybodaeth er mwyn codi ymwybyddiaeth o waith y
Fforwm Mynediad Lleol a’r Adroddiad Blynyddol a baratowyd. |
|
Adborth yn dilyn yr ymweliad â Chanolfan Bwyd Cymru Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i’r adborth yn dilyn ymweliad y
Pwyllgor â Chanolfan Fwyd Cymru yn Horeb, Llandysul. Estynnodd y Cadeirydd ei
ddiolch i Angela Sawyer, Uwch-Dechnolegydd Bwyd, am gyflwyniad llawn gwybodaeth
a thaith o amgylch y safle. Nododd
Aelodau'r Pwyllgor yr adroddiad. |
|
Cofnodion: Cytunwyd i gadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Hydref 2023. Materion sy’n codi: Dim. |
|
Ystyried Rhaglen Flaen Trosolwg a Chraffu Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cytunwyd i nodi cynnwys y Flaenraglen Waith a gyflwynwyd, yn ddibynnol ar
gynnwys y canlynol: · Gwybodaeth am y
grantiau sydd ar gael ar gyfer mudiadau a busnesau. Estynnodd y Cadeirydd ei ddiolch i bawb a dymunodd Nadolig Llawen a
Blwyddyn Newydd Dda i bob un. |