Cofnodion:
Eglurodd y Cynghorydd Keith Henson fod y papur yn nodi
sut caiff y gwasanaeth Torri Porfa ei reoli, y rhesymeg y tu ôl hyn a’r costau
cysylltiedig. Yn 2014 – 15 gostyngwyd prif doriad ymyl y ffordd i un toriad.
Gwnaed hyn yn sgil toriadau a wnaed i’r gwasanaeth yn dilyn adolygiad o
Wasanaethau’r Cyngor y flwyddyn honno. Drwy gydnabod hyn. penderfynwyd torri
mewn ardaloedd penodol yn hytrach nag yn ôl hierarchaeth ffyrdd, er bod
rhywfaint o drawsgroesi.
Yn y drefn
gyfredol, roedd angen gwneud toriadau ar sail ‘diogelwch / gwelededd’ yn gyntaf
(cyffyrdd a llinellau gwelededd) ac yna’r ardaloedd oedd yn tyfu’n gynnar. Yn
sgil yr hinsawdd, roedd tyfiant yn gynt yn y de felly roedd y gwasanaeth yn
gweithio o’r de i’r gogledd. Roedd 70% o’r rhwydwaith yn Ffyrdd Dosbarth C a
Ffyrdd Di-ddosbarth ac roedd llwyddo i fynd i’r holl lonydd cul yn her. Wrth
gwrs, roedd adnoddau’n brin ac ni allant dorri bob ymyl y ffordd ar yr un pryd,
felly roedd rhai yn cael eu torri’n gynt nag eraill. Naill ffordd, roedd
posibilrwydd y byddai amseriad y toriadau yn denu cwynion.
Roedd y
contractwr wedi bod yn torri profa ers nifer o flynyddoedd ac roedd y
gwasanaeth yn ceisio peidio â gwyro’r contractwr o’r rhaglen am fod costau ychwanegol
yn gysylltiedig â hyn. Fodd bynnag, gellid newid y rhaglen os oedd angen am
resymau diogelwch y ffyrdd. Roedd Swyddog yn archwilio pob cais i dorri porfa a
dderbyniwyd gan asesu a oedd y rheswm yn ddigonol i wyro adnoddau. Roedd yn
cymryd oddeutu 6 wythnos i gwblhau’r prif doriad. Roedd y gwasanaeth yn cynnal
cyfarfod briffio gyda’r contractwr cyn y tymor torri ac ar ôl hynny.
Rhannwyd y Sir
i 10 ardal. Roedd 9 ardal yn cynnwys ffyrdd y sir ac un ardal ar wahân ar gyfer
y cefnffyrdd sef ardal rhif 10 caiff ei rheoli ar ran NMWTRA. Roedd yr Awdurdod
bob amser yn gorfod adolygu safonau yn y cytundebau lefel gwasanaeth er mwyn
adlewyrchu’r gostyngiad yn y gyllideb i’r gweithgareddau cynnal a chadw
priffyrdd amrywiol. Roedd blaenoriaethau yn y dyfodol yn debygol o arwain at
ffocysu mwy ar risg a diogelwch y ffordd a llai ar ymddangosiad esthetaidd yr
ardaloedd porfa a gaiff eu cynnal a’u cadw.
Cyfeiriwyd at y
canlynol a nodwyd yn yr adroddiad:
· Toriadau ar y
Brif Ffyrdd
· Torri porfa -
mannau amwynder
· Mannau Trefol â
Blodau Gwyllt
· Mannau
Cadwraeth ger y Ffordd
· Costau’r
Gwasanaeth
Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn
cwestiynau a gafodd eu hateb gan y Swyddogion. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:
· Roedd toriadau
amwynder yn cael eu gwneud yn fewnol gan y tîm Cynnal a Chadw Tiroedd a hynny
bedair gwaith y flwyddyn. Diogelwch ar y ffyrdd oedd y prif reswm dros dorri
porfa.
· Fe wnaeth
Aelodau godi pryderon nad oedd rhai ardaloedd yn eu wardiau yn cael eu torri'n
gyson. Nodwyd y gallai cyrff gwahanol fod yn gyfrifol am yr ardal o borfa,
megis cymdeithasau tai a pherchnogion tir. Cytunodd y swyddogion i rannu
manylion yr ardaloedd glaswelltog yr oedd gan yr awdurdod lleol gyfrifoldeb
amdanynt yn y sir, a hynny er mwyn galluogi’r Aelodau i ddeall y sefyllfa yn
well.
· Yn hanesyddol
rhannwyd y sir yn ddwy gylchdaith, ond mewn ymdrechion i ddenu mwy o
gontractwyr cafodd ei rhannu'n 10 cylchdaith yn y blynyddoedd diwethaf a
threfnwyd sesiwn ‘cwrdd â'r prynwr’ fel rhan o’r gwaith caffael torri porfa. Er
bod sawl contractwr wedi dangos diddordeb i ddechrau, dim ond dau gontractwr
oedd wedi tendro am y gwaith. Nodwyd mai un o'r ffactorau allweddol yn yr
ymarfer caffael oedd cydymffurfio â diogelwch ar y ffyrdd.
· Cafodd pryderon
eu codi ynghylch torri porfa yn y fynwent yn Aberystwyth ac effaith hyn ar y
cyhoedd. Codwyd cwestiynau hefyd yn ymwneud â llwybr beicio Ystwyth a Rheidol.
Nodwyd bod hyn wedi dod i sylw'r gwasanaeth ac y byddai'n cael ei adolygu.
· Gofynnodd yr
Aelodau am iddynt gael gwybod am unrhyw newidiadau i'r rhaglen torri porfa pan
nad oedd angen penderfyniad gwleidyddol, er mwyn sicrhau bod ganddynt y
wybodaeth i ateb cwestiynau’r cyhoedd.
· Diolchwyd i'r
Gwasanaeth am eu gwaith a'u hyblygrwydd pan anfonodd Aelod gais i dorri'r porfa
pan oedd angladd yn y ward.
Yn dilyn cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor, cytunwyd i
nodi’r adroddiad er gwybodaeth.
Dogfennau ategol: