Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Lisa Evans
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Dim. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Dim. |
|
Trafodaeth ar gynllunio a ffosffadau Dwr Cymru Welsh Water (DCWW) PDF 88 KB Cofnodion: Rhoddodd Dr Sarah
Groves-Phillips grynodeb o’r adroddiad a gyflwynwyd ynghylch cynllunio a
ffosffadau a rhoddodd Mrs Kelly Jordan, Rheolwr Cyswllt Ansawdd Afonydd (Asedau
Dŵr Gwastraff) a Mr Ryan Norman, Rheolwr Twf (Datblygu) gyflwyniad PwyntPŵer am eu gwaith o ran y mater hwn.
Darparwyd y wybodaeth ganlynol:-
Yn dilyn cwestiynau gan
yr Aelodau am faterion o fewn wardiau penodol ac esboniad am y materion a
godwyd yn y cyflwyniad, CYTUNWYD y dylid nodi’r sefyllfa bresennol ac y byddai
dyddiadau unrhyw waith y byddai Dŵr Cymru yn ei wneud yn y Sir yn y
dyfodol yn cael eu hanfon at y Cynghorwyr er gwybodaeth. |
|
Darparu Gwasanaeth y Gaeaf PDF 128 KB Cofnodion: Rhoddodd
Mr Phil Jones, Rheolwr Corfforaethol, Gwasanaethau Priffyrdd gyflwyniad manwl
i’r Aelodau am Wasanaeth y Gaeaf gan gynnwys y materion canlynol:-
Cododd yr Aelodau
bryderon ynghylch y ffyrdd nad oeddynt yn cael eu graeanu yn eu Wardiau. Serch
hynny, yn unol â’r protocolau asesu (y matrics), roedd pob un o ffyrdd y Sir
wedi’u sgorio’n wrthrychol ac roedd y sgoriau hyn wedi’u cadarnhau gan ail
swyddog. Roedd materion megis a oedd y ffordd yn agos at ysgol neu ar lwybr
bysiau, ac ati, hefyd yn cael eu hystyried. Awgrymwyd y dylai’r Aelodau dderbyn
gwybodaeth am sgoriau’r ffyrdd nad oeddynt yn cael eu graeanu fel y gallent roi
gwybod i’w trigolion am benderfyniadau’r Cyngor. Yn dilyn eglurhad
ynghylch y materion a godwyd yn y cyflwyniad a thrafodaeth ynghylch dulliau
eraill o raeanu gan gynnwys halen craig a gofyn i ffermwyr gynorthwyo yn ystod
tywydd gwael, CYTUNWYD y dylai’r swyddogion gynnal adolygiad cynhwysfawr o
Wasanaeth y Gaeaf yn barod ar gyfer gaeaf 2024/25. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Keith Henson yr eitem ynghylch y cynnig i roi 2 awr o barcio am
ddim cyn 11am ym Meysydd Parcio Talu ac Arddangos y Cyngor a rhoddodd Mr Gerwyn
Jones, Rheolwr Corfforaethol, Gwasanaethau Amgylcheddol gyflwyniad i’r aelodau.
Darparwyd y wybodaeth ganlynol:-
Cyflwynodd y Cynghorydd Ann Bowen Morgan gynnig am 2 awr o barcio am ddim
ym meysydd parcio’r Cwmins a’r Rwceri
yn Llanbedr Pont Steffan gan y byddai hyn, yn ei barn hi, yn cefnogi busnesau
ac yn annog twristiaid i ymweld â’r dref. Fel rhan o broses pennu’r gyllideb ar gyfer 2023/24, roedd yr Aelodau
wedi cytuno ar flwyddyn arall o barcio am ddim ym meysydd parcio talu ac
arddangos Tregaron a Llandysul. Cyfrannodd Aelodau
eraill at y drafodaeth am y cynnig a gyflwynwyd a rhannodd y Cynghorwyr
Elizabeth Evans, Sian Maeherlin ac Elaine Evans eu
barn â’r Pwyllgor ynglŷn â pharcio am ddim yn y meysydd parcio yn eu
wardiau. CYTUNWYD felly i argymell y dylai’r Cabinet:- (i) ystyried cynnal adolygiad ynghylch codi tâl am barcio ar hyd y
Promenâd yn Aberystwyth; ac (ii) ystyried cynnig 2 awr o barcio am ddim
rhwng 8am a 10am, o ddydd Llun i ddydd Gwener, mewn un maes parcio ym mhob un o
drefi Llanbedr Pont Steffan, Aberaeron ac Aberteifi |
|
Cofnodion: Cytunwyd i gadarnhau
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Mehefin 2023. Materion yn codi: Dim. |
|
Ystyried Rhaglen Flaen Trosolwg a Chraffu PDF 88 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cytunwyd i nodi cynnwys y Flaenraglen Waith a gyflwynwyd yn amodol
ar nodi y gallai’r canlynol gael eu
hystyried yng nghyfarfodydd y dyfodol:-
|