Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron.
Cyswllt: Lisa Evans
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet
ar gyfer Gwasanaethau Democrataidd, Polisi a Pherfformiad a Phobl a
Threfniadaeth am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Ni ddatgelodd yr un Aelod o’r Pwyllgor fuddiant personol na buddiant a oedd yn rhagfarnu (nac ychwaith unrhyw ddatganiadau chwipio). |
|
Gwasanaeth Casglu Gwastraff PDF 79 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Esboniodd y
Cadeirydd mai diben y cyfarfod oedd gwrando ar y rhesymau dros yr amharu a fu i’r
Gwasanaeth Casglu Gwastraff ym mis Rhagfyr 2022, a cheisio canfod ffordd ymlaen
i ddatrys y materion sy’n effeithio ar y gwasanaeth. Diolchodd
Eifion Evans, y Prif Weithredwr, i’r Cadeirydd a’r Pwyllgor am eu hamynedd gan
ganiatáu i’r swyddogion ganolbwyntio ar y gyllideb cyn trefnu’r cyfarfod
heddiw. Cydnabuwyd y bu tarfu ar y gwasanaeth yn ystod mis Rhagfyr 2022, a oedd
wedi arwain at anfodlonrwydd ymhlith y cyhoedd. Roedd y Gwasanaeth Casglu
Gwastraff yn darparu gwasanaeth ardderchog a chanmolwyd y staff am eu
parodrwydd i barhau i gasglu gwastraff drwy gydol y pandemig COVID-19.
Cyfrannodd nifer o ffactorau at y tarfu a welwyd ym mis Rhagfyr 2022 a byddai’r
cyd-destun yn cael ei amlinellu maes o law ynghyd ag opsiynau amrywiol i geisio
datrys y materion, ond roedd yn bwysig iawn nodi nad oedd unrhyw fai ar y
staff. Roedd swyddogion wedi cael eu herio’n rheolaidd gan aelodau etholedig, a
oedd wedi cael eu herio gan aelodau’r cyhoedd ynghylch y mater ac roedd nifer o
drafodaethau wedi’u cynnal rhwng y swyddogion ac arweinwyr y grwpiau
gwleidyddol. O ran y
Gwasanaeth Casglu Gwastraff, cyflogir tua 28 aelod o staff ym mhob un o’r 2
depo gweithredol ac oherwydd natur eu contractau, roedd uchafswm o 4 aelod o
staff yn cael bod ar wyliau ar unrhyw adeg, heb ystyried y staff a oedd yn
absennol oherwydd salwch. Gan fod gwyliau banc a ‘chwmni’ (tri diwrnod o wyliau
sefydlog rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd) yn cael eu gweithio ar sail
goramser gwirfoddol ar hyn o bryd, nid oedd swyddogion wedi gallu cael digon o
staff i ddarparu’r gwasanaeth yn ystod y cyfnodau hyn. Yn hanesyddol roedd mwy
o gydnerthedd yn y gwasanaeth ond yn ystod y degawd
diwethaf collwyd £72 miliwn o arian craidd oddi wrth Lywodraeth Cymru a
chollwyd 750 o swyddi ar draws gwasanaethau’r Cyngor. Pan nad oedd unrhyw
faterion yn codi, roedd y gwasanaeth yn rhedeg yn effeithiol ac yn effeithlon
gyda lefel uchel iawn o ddibynadwyedd, ond roedd gallu ymateb i argyfyngau’n
heriol. Roedd yr Uwch Swyddogion yn pwysleisio o hyd na allai aelod o staff
gyflawni rôl megis gyrru neu lwytho Cerbydau Casglu Sbwriel (RCV) oni bai bod
gan yr unigolyn yr hyfforddiant, cymwysterau a’r profiad addas. Esboniodd Barry Rees, Cyfarwyddwr Corfforaethol, y bu 3 achos o darfu ar y
gwasanaeth ym mis Rhagfyr 2022: 1.
Amharwyd ar y gwasanaeth oherwydd y tywydd eithafol, pan
aeth y swyddogion ati i flaenoriaethu’r gwaith graeanu yn hytrach na chasglu
gwastraff, er mwyn sicrhau iechyd a diogelwch y cyhoedd. Ar yr un pryd,
darparwyd cymorth i Dŵr Cymru i ddosbarthu dŵr yn ystod toriad yn y
cyflenwad, yn enwedig yn ne'r Sir. 2. Amharwyd ar y casgliadau yn ystod y Nadolig / y Flwyddyn Newydd oherwydd natur y contractau sydd ar waith a’r 3 diwrnod o wyliau blynyddol penodedig y mae hawl gan staff eu cymryd, a arweiniodd at brinder ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Cofnodion: Cytunwyd i gadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Chwefror 2023. Materion sy’n codi: Dim. |