Eitem Agenda

Gwasanaeth Casglu Gwastraff

Cofnodion:

Esboniodd y Cadeirydd mai diben y cyfarfod oedd gwrando ar y rhesymau dros yr amharu a fu i’r Gwasanaeth Casglu Gwastraff ym mis Rhagfyr 2022, a cheisio canfod ffordd ymlaen i ddatrys y materion sy’n effeithio ar y gwasanaeth.

 

Diolchodd Eifion Evans, y Prif Weithredwr, i’r Cadeirydd a’r Pwyllgor am eu hamynedd gan ganiatáu i’r swyddogion ganolbwyntio ar y gyllideb cyn trefnu’r cyfarfod heddiw. Cydnabuwyd y bu tarfu ar y gwasanaeth yn ystod mis Rhagfyr 2022, a oedd wedi arwain at anfodlonrwydd ymhlith y cyhoedd. Roedd y Gwasanaeth Casglu Gwastraff yn darparu gwasanaeth ardderchog a chanmolwyd y staff am eu parodrwydd i barhau i gasglu gwastraff drwy gydol y pandemig COVID-19. Cyfrannodd nifer o ffactorau at y tarfu a welwyd ym mis Rhagfyr 2022 a byddai’r cyd-destun yn cael ei amlinellu maes o law ynghyd ag opsiynau amrywiol i geisio datrys y materion, ond roedd yn bwysig iawn nodi nad oedd unrhyw fai ar y staff. Roedd swyddogion wedi cael eu herio’n rheolaidd gan aelodau etholedig, a oedd wedi cael eu herio gan aelodau’r cyhoedd ynghylch y mater ac roedd nifer o drafodaethau wedi’u cynnal rhwng y swyddogion ac arweinwyr y grwpiau gwleidyddol.

 

O ran y Gwasanaeth Casglu Gwastraff, cyflogir tua 28 aelod o staff ym mhob un o’r 2 depo gweithredol ac oherwydd natur eu contractau, roedd uchafswm o 4 aelod o staff yn cael bod ar wyliau ar unrhyw adeg, heb ystyried y staff a oedd yn absennol oherwydd salwch. Gan fod gwyliau banc a ‘chwmni’ (tri diwrnod o wyliau sefydlog rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd) yn cael eu gweithio ar sail goramser gwirfoddol ar hyn o bryd, nid oedd swyddogion wedi gallu cael digon o staff i ddarparu’r gwasanaeth yn ystod y cyfnodau hyn. Yn hanesyddol roedd mwy o gydnerthedd yn y gwasanaeth ond yn ystod y degawd diwethaf collwyd £72 miliwn o arian craidd oddi wrth Lywodraeth Cymru a chollwyd 750 o swyddi ar draws gwasanaethau’r Cyngor. Pan nad oedd unrhyw faterion yn codi, roedd y gwasanaeth yn rhedeg yn effeithiol ac yn effeithlon gyda lefel uchel iawn o ddibynadwyedd, ond roedd gallu ymateb i argyfyngau’n heriol. Roedd yr Uwch Swyddogion yn pwysleisio o hyd na allai aelod o staff gyflawni rôl megis gyrru neu lwytho Cerbydau Casglu Sbwriel (RCV) oni bai bod gan yr unigolyn yr hyfforddiant, cymwysterau a’r profiad addas.

 

Esboniodd Barry Rees, Cyfarwyddwr Corfforaethol, y bu 3 achos o darfu ar y gwasanaeth ym mis Rhagfyr 2022:

 

1.      Amharwyd ar y gwasanaeth oherwydd y tywydd eithafol, pan aeth y swyddogion ati i flaenoriaethu’r gwaith graeanu yn hytrach na chasglu gwastraff, er mwyn sicrhau iechyd a diogelwch y cyhoedd. Ar yr un pryd, darparwyd cymorth i Dŵr Cymru i ddosbarthu dŵr yn ystod toriad yn y cyflenwad, yn enwedig yn ne'r Sir.

2.      Amharwyd ar y casgliadau yn ystod y Nadolig / y Flwyddyn Newydd oherwydd natur y contractau sydd ar waith a’r 3 diwrnod o wyliau blynyddol penodedig y mae hawl gan staff eu cymryd, a arweiniodd at brinder staff.

3.      Gwelwyd y trydydd achos o darfu eto oherwydd effaith y tywydd eithafol.

 

Er ei bod yn bosibl cynllunio ar gyfer tywydd gwael, nid oedd yn bosib rhagweld pryd y byddai'n digwydd, yn wahanol i wyliau’r banc. Roedd yn allweddol bwysig cofio nad oedd neb mewn perygl pan roedd tarfu ar y gwasanaeth casglu gwastraff, ond cydnabuwyd y trafferthion a’r anghyfleustra a achoswyd i breswylwyr Ceredigion.

 

Amlinellodd Rhodri Llwyd, Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, y canlynol:

 

·        Prif Faterion i’w Hystyried              

-       Lefelau Staffio

-       Trefniadau Cytundebol

-       Cyllideb Casglu Gwastraff

-       Allanoli Posibl

-       Cynnal a Chadw Fflyd

-       Cyfathrebu

-       Safleoedd Gwastraff Cartref

-       Ymholiadau Clic

·        Gwaith sy’n Mynd Rhagddo          

·        Opsiynau Posibl am y Dyfodol   

-         Archwilio cyfleoedd ar gyfer datrysiad digidol

-         Adolygiad o gontractau staff gweithredol (9-12 mis)

-         Adolygiad o opsiynau cyflenwi amgen

-         Lleihau pwysau adnoddau a chyllidebol ar y gwasanaeth

-         Cynyddu'r ddarpariaeth yn y gyllideb ar gyfer casglu gwastraff

 

Esboniodd Rhodri Llwyd fod rhai mesurau eisoes ar waith a byddai rhai yn cymryd mwy o amser i’w cyflawni, ond gallai newidiadau graddol wella darpariaeth y gwasanaeth. Byddai dal absenoldeb salwch ymhlith y staff ac argyfyngau megis tywydd eithafol, ond y gobaith yw y byddai’r mesurau sy’n cael eu cynnig ar y cyfan yn creu gwasanaeth mwy cyson a chydnerth.  

 

Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan y swyddogion. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:

 

·        Roedd gan yr holl staff gontractau parhaol a gallent wirfoddoli i weithio ar benwythnosau a gwyliau’r banc. Byddai angen ystyried newidiadau i gontractau yn gorfforaethol, byddai’n cymryd hyd at 12 mis a byddai angen dilyn proses ymgynghori ffurfiol. Byddai newid y contractau, megis i batrwm shifftiau treigl, yn rhoi mwy o hyblygrwydd i’r rheolwyr er mwyn sicrhau bod digon o staff ar gael yn ystod y cyfnodau anodd. 

·        Roedd casglu gwastraff masnachol yn fater eang ac roedd busnesau wedi derbyn llythyr yn esbonio fod dyletswydd gyfreithiol arnynt i ddelio â’u gwastraff yn y modd cywir. Ar hyn o bryd, roedd gan Gerbydau Casglu Sbwriel (RCVs) gamerâu i dracio eu llwybrau a’r gwastraff a gesglir ond roedd angen ymchwilio a buddsoddi mwy mewn technoleg i allu monitro gwastraff masnachol yn fwy gofalus, a fyddai’n fuddiol i wasanaethau eraill y Cyngor hefyd. 

·        Mewn ymateb i’r awgrymiadau i ganslo casgliadau dros gyfnod y Nadolig, byddai’n well gan y gwasanaeth osgoi gwneud hyn gan y byddai’n arwain at broblemau yn ystod yr wythnosau dilynol. Ers COVID-19, roedd cyfanswm y gwastraff a gesglir wedi cynyddu 10%-15% ac roedd natur y gwastraff yn amrywio bob wythnos ac o ran llwybr.

·        O ran cyfathrebu â’r cyhoedd, roedd hyn yn cael ei adolygu’n rheolaidd a chydnabuwyd y gellid ymchwilio er mwyn darparu gwybodaeth gliriach ynghylch casgliadau ac amhariadau. Roedd manylion ar gael drwy Clic (y Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid) a’r awdurdod oedd y cyntaf yng Nghymru i rannu diweddariadau manwl ar-lein. Gyda datblygu ‘Fy Nghyfrif’, byddai preswylwyr yn gallu derbyn diweddariadau mewn ffyrdd amrywiol.

·        Anogwyd y staff i barhau i gwblhau’r cyrsiau ar gyfer trwydded cerbydau nwyddau trwm. Roedd rhai o’r staff sydd wedi’u cyflogi fel llwythwyr ac wedi cael yr hyfforddiant / cymwysterau priodol yn gallu gyrru’r cerbydau nwyddau trwm gan gynnwys Cerbydau Casglu Sbwriel (RCVs)  pan fo angen. Oherwydd ystyriaethau cydymffurfio cyfreithiol a’r dechnoleg sydd ynghlwm wrth y cerbydau, byddai’n beryglus iawn cynnwys unigolion nad ydynt yn gyfarwydd â’r gwaith.

·        Barnwyd bod Glasbrint Llywodraeth Cymru ar gyfer casglu gwastraff yn aneffeithiol ar gyfer ardaloedd gwledig a chododd y weinyddiaeth flaenorol bryderon fod angen hyblygrwydd i ddarparu gwasanaeth cost-effeithiol i’r sir.

·        Roedd y gwasanaeth wedi treialu Cerbyd Casglu Sbwriel (RCV)  trydan ac roedd wedi gweithio’n dda, ond roedd pryderon ynghylch defnyddio ynni gwyrdd ar gyfer pob cerbyd o gofio nad oes digon o gapasiti yn y grid yn y sir. Barnwyd bod cyfuniad o systemau hydrogen a thrydan yn fwy addas ac roedd angen i ddylunwyr polisi Llywodraeth Cymru ystyried hyn.

·        Canmolwyd staff y gwasanaeth am eu proffesiynoldeb wrth sicrhau bod y fflyd yn addas i’r diben ac yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth, a hynny er diogelwch y gweithlu a’r cyhoedd.

·        Pan roedd digon o staff ar gael, roedd y gwasanaeth yn rhedeg yn iawn, ond roedd yn heriol yn ystod argyfyngau ac felly dyna pam y gwelwyd yr amharu ar y gwasanaeth. I gael mwy o gydnerthedd drwy gynyddu capasiti, byddai angen cyllid pellach.

·        Roedd darparu gorsafoedd trosglwyddo gwastraff ym Mhenrhos yn cael ei ystyried yn gorfforaethol. Yn ogystal, roedd angen cynnal trafodaethau â Safleoedd Gwastraff Cartref a safleoedd ailgylchu preifat i ofyn a fyddent yn fodlon ystyried gosod sgipiau ar y safleoedd i gasglu bagiau ailgylchu.

·        Byddai symud casgliadau i’r dydd Sadwrn cyn dydd Llun Gŵyl y Banc yn cael ei ffafrio, a byddai'n parhau i gael ei dreialu.

·        Roedd gwastraff yn cael ei ddadlwytho yn Llanbedr Pont Steffan a Beulah yn dilyn caffael contractau newydd yr Orsaf Drosglwyddo.

·        I gyflwyno cyfyngiad ar nifer y bagiau du fesul aelwyd, byddai angen gwneud penderfyniad gwleidyddol yn dilyn ymgynghoriad. Gobeithiwyd y byddai hyn yn annog pobl i ailgylchu fwy.

 

Diolchodd Eifion Evans i Aelodau’r Pwyllgor eto am eu hamynedd wrth ddelio â’r mater hwn. Cynigiwyd nifer o syniadau cyffrous ac arloesol a’r nod oedd darparu gwasanaeth cyson a fyddai’n cael ei fesur yn ystod gwyliau’r banc a chyfnod y Nadolig yn arbennig. Canmolwyd y swyddogion a’r aelodau etholedig am eu haeddfedrwydd yn ystod y trafodaethau. Roedd pawb yn awyddus i ddatrys yr heriau a gydnabuwyd yn y system.

 

Nododd y Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet, fod gwaith da’r gwasanaeth yn cael ei gydnabod yn genedlaethol, gan fod y gwasanaeth yn cael ei ystyried ymhlith y 5 uchaf o ran ailgylchu yng Nghymru. Roedd y fflyd bresennol yn gweithio’n dda, ond roedd angen buddsoddi er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth yn rhedeg yn effeithlon. Diolchodd i’r swyddogion a oedd yn bresennol a’r staff rheng-flaen am eu gwaith, a nododd ei fod yn gobeithio y byddai cyflwyno’r terfynau cyflymder 20mya yn creu amgylchedd gwaith mwy diogel. 

 

Nododd y Cadeirydd fod y cyfarfod heddiw wedi bod yn fuddiol ac esboniodd y byddai’r Pwyllgor yn hapus i drafod ymhellach pe bai angen. Awgrymodd fod y staff yn aml yn ymwybodol o’r problemau ynghyd â’r datrysiadau, felly roedd yn bwysig rhoi cyfle i’r staff rannu eu safbwyntiau.

 

Diolchodd Rhodri Llwyd i bawb a oedd yn bresennol, a diolchodd i Aelodau’r Pwyllgor am eu parodrwydd i graffu ar y gwaith wrth symud ymlaen. O safbwynt y staff, roedd swyddogion yn cynnal trafodaethau rheolaidd gyda’r staff i drafod a rhannu gwybodaeth ac roedd taflen wybodaeth ‘Clatsho Bant’ yn cael ei rhannu â staff i roi diweddariad iddynt ynghylch unrhyw ddatblygiadau corfforaethol neu ddatblygiadau iechyd a diogelwch. 

 

Yn dilyn cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor, cytunwyd i nodi’r ymateb i'w adroddiad ac i wneud argymhellion priodol i'r Cabinet os ystyrir bod angen.

 

Dogfennau ategol: