Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau - Dydd Mercher, 17eg Gorffennaf, 2024 3.00 pm

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Nia Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorwyr Marc Davies, Amanda Edwards, Elaine Evans a Caryl Roberts am eu hanallu i fynychu’r cyfarfod.

2.

Datgelu buddiannau personol a buddiannau sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Dim.

3.

I ystyried Cofnodion y Cyfarfod blaenorol o'r Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r cofnodion hyny pdf eicon PDF 85 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd 2023 yn rhai cywir, yn amodol ar gywiro sillafiad enw’r Cynghorydd Chris James.

 

Materion yn codi

Nid oedd unrhyw faterion yn codi.

4.

Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau pdf eicon PDF 69 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Louise Harries yr adroddiad i’r Pwyllgor gan nodi mai hwn oedd cyfarfod cyntaf y pwyllgor yn ystod blwyddyn bresennol y Cyngor. Dywedodd fod Cylch Gorchwyl y pwyllgor hwn wedi’i ddiweddaru nifer o weithiau ers ei sefydlu yn 2014.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD nodi Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau.

5.

I dderbyn adroddiad ar Adroddiadau Blynyddol yr Ymddiriedolwyr 2023-24 pdf eicon PDF 69 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Louise Harries yr adroddiad i’r Pwyllgor gan nodi bod rhwymedigaeth gyfreithiol, o dan adran 162 o Ddeddf Elusennau 2011, i baratoi adroddiad blynyddol os byddai’r incwm yn fwy na £25,000. Er nad oedd incwm yr un o’r pum elusen yn fwy na’r swm hwn, roedd y Pwyllgor wedi penderfynu llynedd i baratoi adroddiadau bob blwyddyn.  Ystyriwyd adroddiadau drafft yr elusennau cofrestredig canlynol:

 

  • Neuadd Goffa, Cei Newydd;
  • Llyfrgell ac Ystafell Ddarllen Cei Newydd;
  • Sefydliad Addysgol Coffa COE;
  • Cronfa Addysg Ganolradd a Thechnegol Sir Aberteifi; ac
  • Elusen Richard James Thomas.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo’r 5 adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr drafft a nodir yn Atodiadau 1-5 yr adroddiad hwn ac y bydd Cadeirydd y Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau yn llofnodi a dyddio copïau glân o'r un fath ar ran ymddiriedolwr yr elusen.

6.

I dderbyn adroddiad ar Gyfrifon Ariannol 2022-23 a 2023-24 pdf eicon PDF 65 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Chris Macey yr adroddiad i’r Pwyllgor gan nodi fod yn rhaid i ymddiriedolwyr elusennau, yn unol ag Adran 132 ac Adran 133 o Ddeddf Elusennau 2011, baratoi ar gyfer pob blwyddyn ariannol o’r elusen naill ai datganiad cyfrifon neu, os dewisant wneud hynny yn achos elusennau incwm is, gyfrif derbyniadau a thaliadau ynghyd â datganiadau o asedau a dyledion.

 

Dywedodd fod modd ystyried Cyfrifon y blynyddoedd ariannol a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023 a 31 Mawrth 2024 ar gyfer yr elusennau canlynol, a hynny am fod y Gwasanaeth Cyllid a Chaffael wedi cwblhau Cyfrifon 2023-24 yn gynnar:

 

  • Neuadd Goffa, Cei Newydd;
  • Llyfrgell ac Ystafell Ddarllen Cei Newydd;
  • Sefydliad Addysgol Coffa COE;
  • Cronfa Addysg Ganolradd a Thechnegol Sir Aberteifi; ac
  • Elusen Richard James Thomas.

 

Gofynnodd yr Aelodau am sicrwydd ynghylch y llog ar gyfrifon yr ymddiriedolwyr, a chadarnhawyd bod llog wedi’i dalu. Roedd hyn yn esbonio’r cynnydd mewn incwm a gafwyd yn 2023-24 o gymharu â 2022-23.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD nodi cynnwys y cyfrifon.

7.

I dderbyn Adroddiad Blynyddol diweddariad Neuadd Goffa Cei Newydd 2023-2024 pdf eicon PDF 93 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Louise Harries yr adroddiad i’r Pwyllgor. Yn ogystal â chynnal llawer o ddigwyddiadau, roedd nifer o brosiectau buddsoddi a gwella wedi’u rhoi ar waith gan gynnwys system sain newydd, uwchraddio goleuadau gan gynnwys golau argyfwng y tu allan, gosod drysau gwydr dwbl, balwstrad gwydr yn lle’r balconi yn y blaen, paneli solar a byrddau a chadeiriau newydd. Cafwyd diffibriliwr oddi wrth ‘Calon Hearts Screening and Defibrillators Cymru’ a oedd wedi’i osod y tu allan i’r Neuadd. Hefyd, nodwyd y byddai Swyddog Datblygu llawn amser yn cael ei ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar gontract tair blynedd. Byddai deiliad y swydd yn trefnu ac yn goruchwylio gweithgareddau ac yn sicrhau hygyrchedd.

 

Bu i’r Aelodau longyfarch gwirfoddolwyr y Pwyllgor am eu gwaith caled a’u hymrwymiad wrth gefnogi grwpiau a digwyddiadau cymunedol.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD nodi’r diweddariad gan y tenant ar gyfer y cyfnod 10 Chwefror 2023 – 9 Chwefror 2024

8.

I dderbyn adroddiad ar Neuadd goffa Ceinewydd - caniatâd i wneud addasiadau pdf eicon PDF 98 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Louise Harries yr adroddiad i’r Pwyllgor gan nodi, yn unol â chymal 23 y brydles i’r elusen gofrestredig ‘Neuadd Goffa Ceinewydd’, ni allai’r tenant gyflawni rhai addasiadau neu ychwanegiadau penodol i’r eiddo heb ganiatâd y landlord. Ar 21 Mai 2024, cafodd y Swyddogion gais oddi wrth y tenant yn gofyn am ganiatâd i ymgeisio am arian Loteri fel y gellid gosod drysau awtomatig i’r anabl ar y llawr gwaelod ac ailddatblygu’r toiledau y tu allan er mwyn creu ystafell aml-bwrpas.

 

Bu i’r Cynghorydd Rhodri Evans argymell bod Aelodau’r Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau yn datgan buddiant pe byddai’r grŵp yn gwneud cais am arian grant oddi wrth Gyngor Sir Ceredigion. Hefyd, gofynnodd yr Aelodau a fyddai modd i’r Cyngor sicrhau bod costau am bethau megis trwyddedau yn medru cael eu cadw mor isel ag y bo modd, gan y byddai’r gwaith y byddai’r tenant yn ei wneud yn y pen draw yn arwain at welliannau i eiddo yr oedd Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau Cyngor Sir Ceredigion yn berchen arno. Dywedodd y Swyddogion mai’r Cabinet oedd yn cymeradwyo’r ffioedd ac nad oedd dim pwerau wedi’u dirprwyo i’r Swyddogion i newid y rhain. Ychwanegwyd y dylai’r costau hyn, fodd bynnag, gael eu cynnwys yn y ceisiadau am arian grant.

 

Yn dilyn trafodaeth PENDERFYNWYD:

    1. CYMERADWYO mewn egwyddor gais y tenant am ganiatâd ar gyfer y gwaith y cyfeirir ato yn yr adroddiad sydd ynghlwm, yn amodol ar:

a)    Fod y swyddogion, ar ran yr ymddiriedolaeth, yn cytuno gyda’r tenant ar fanylion a hyd a lled y gwaith ar ôl i’r tenant gyflwyno rhagor o wybodaeth;

b)    bod y tenant a'r ymddiriedolwr yn gweithredu ac yn cwblhau Trwydded ar gyfer Addasiadau mewn perthynas â'r gwaith;

c)    bod y tenant yn ysgwyddo costau a threuliau rhesymol yr ymddiriedolwr (gan gynnwys costau cyfreithiol neu gostau proffesiynol eraill) mewn perthynas â chais y tenant am ganiatâd yn unol â chymal 12.1(e) o'r Brydles â’r tenant.

    1. AWDURDODI’R Gwasanaeth Ystadau a’r Gwasanaeth Cyfreithiol i ymgymryd â'r holl ffurfioldebau angenrheidiol i weithredu a chwblhau Trwyddedau ar gyfer Addasiadau mewn perthynas â'r gwaith y cyfeirir ato yn yr adroddiad cysylltiedig, os cydymffurfir â'r materion y cyfeirir atynt ym mhwynt 1 uchod.

 

9.

I ystyried adroddiad ar Lyfrgell ac Ystafell Ddarllen Ceinewydd - gardd gymunedol pdf eicon PDF 84 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Louise Harries yr adroddiad i’r Pwyllgor gan nodi penderfyniadau blaenorol y Pwyllgor ynglŷn ag ymgynghori ynghylch y defnydd y gellid ei wneud o Lyfrgell ac Ystafell Ddarllen Ceinewydd yn y dyfodol. Dywedodd fod 3 datganiad o ddiddordeb wedi dod i law oddi wrth unigolion/grwpiau, a bod y Gwasanaethau Cyfreithiol wedi cwrdd â’r unigolion dan sylw i weld a fyddai’r partïon hyn yn dymuno cydweithio. Penderfynodd un o’r unigolion a oedd am ddefnyddio’r safle ar gyfer dosbarthiadau addysgol y byddai Neuadd Goffa Ceinewydd yn well lleoliad ar gyfer y prosiect hwnnw. Roedd y ddau barti arall yn dymuno gweld y safle yn cael ei ddefnyddio fel gerddi / rhandiroedd cymunedol a fyddai’n gysylltiedig â’r ysgol a phenderfynodd y rhain y byddent yn cydweithio â’i gilydd ac y byddent yn mynd ati i gyflwyno dogfen fer fel y gallai’r Pwyllgor ystyried eu cynnig.

 

Dywedodd Louise Harries y byddai gofyn i’r Ymddiriedolwr, cyn ymrwymo i brydles ar dir elusennol, yn unol â Rhan 7 o Ddeddf Elusennau 2011, ofyn i syrfëwr cymwysedig baratoi adroddiad ysgrifenedig ar y brydles arfaethedig  ac y byddai angen i’r Ymddiriedolwr benderfynu a ydyw’n fodlon bod y telerau a gynigir i waredu’r eiddo y rhai gorau y gall yr elusen yn rhesymol eu cael, yn seiliedig ar gynnwys adroddiad y syrfëwr.  Rhaid i’r ymddiriedolwr hefyd gyflwyno hysbysiad cyhoeddus ynghylch y brydles arfaethedig, gan wahodd sylwadau ac ystyried unrhyw sylwadau a ddaw i law ynghylch y bwriad i waredu.

 

Nododd yr Aelodau nad oedd Cynghorau Cymuned yn gymwys i wneud cais am arian o gronfa grantiau cymunedol Cyngor Sir Ceredigion, a gwnaethant ofyn a fyddai modd i’r grŵp gael statws Sefydliad Corfforedig Elusennol er mwyn bodloni’r gofynion cymhwystra. Dywedodd y Swyddog y gallent sefydlu Sefydliad Corfforedig Elusennol ar y cyd, a fyddai’n cynnwys cynrychiolydd o’r Cyngor Cymuned fel aelod o’r grŵp. Nodwyd y byddai’r Swyddogion yn trafod yr opsiynau hyn â’r cynrychiolwyr.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:

CYMERADWYO bod y swyddogion, ar ran yr ymddiriedolaeth, yn:

  1. bwrw ymlaen i drafod yn fanylach gyda Chyngor Tref Ceinewydd gynnig y Cyngor Tref am ardd gymunedol ar safle’r ymddiriedolaeth;
  2. os gellir cytuno ar benawdau telerau’r brydles mewn egwyddor, bod y penawdau telerau arfaethedig ac adroddiad syrfëwr cymwys ar y brydles arfaethedig yn dod gerbron y Pwyllgor i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf sydd ar gael.

10.

Unrhyw Fater Arall

Cofnodion:

Dywedodd Louise Harries mai prin oedd y cyllid a oedd yn weddill yng nghronfa elusen Richard James Thomas ac nad oedd yr elusen bellach mewn sefyllfa i dalu costau megis yswiriant a thrydan. Argymhellwyd y dylai’r ymddiriedolwr ddechrau adolygiad o’r ymddiriedolaeth a chynnal arolwg o gyflwr yr adeilad. Nodwyd bod Swyddogion Amgueddfa Ceredigion yn ystyried opsiynau o ran cyflwyno cais am arian grant o Raglen Gwelliannau Cyfalaf Llywodraeth Cymru ar gyfer Rheoli Casgliadau (2024-25), a oedd yn darparu grantiau rhwng £20k a £100k i wella cyflwr adeiladau a chasgliadau. Ychwanegwyd bod y grant hwn yn un llawn nad oedd angen dod o hyd i arian cyfatebol ar ei gyfer.

 

Dywedodd yr Aelodau na fyddai hyn yn datrys y problemau o ran diffyg cyllid a’r costau rhedeg at y dyfodol. Hefyd, nodwyd y gallai’r grant gynnwys telerau ac amodau a fyddai’n atal unrhyw fwriad i waredu’r ased neu ei addasu at ddibenion gwahanol, ac argymhellwyd y dylid mynd ar drywydd y ddau lwybr hyn ochr yn ochr.