Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau - Dydd Llun, 6ed Tachwedd, 2023 11.30 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Nia Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorwyr Elaine Evans a Ceris Jones am eu hanallu i fynychu'r cyfarfod.

 

2.

Datgelu buddiannau personol a buddiannau sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Nododd y Cynghorwyr Rhodri Evans a Wyn Evans ddiddordeb personol mewn perthynas ag eitem 6.

3.

I ystyried cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2023 ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r cofnodion hyny pdf eicon PDF 68 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD  cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2023 yn rhai cywir.

 

Materion yn codi

Nid oedd unrhyw faterion yn codi.

 

4.

I dderbyn adroddiad ar Adroddiadau Blynyddol ddrafft yr Ymddiriedolwyr 2022-2023 pdf eicon PDF 88 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Louise Harries yr adroddiad i'r Pwyllgor gan nodi ei bod yn ddyletswydd gyfreithiol o dan adran 162 o Ddeddf Elusennau 2011, i baratoi adroddiad blynyddol lle mae'r incwm yn fwy na £25,000.  Er nad oedd yr un o incwm y pum elusen yn uwch na'r swm hwn, penderfynodd y Pwyllgor y llynedd gynhyrchu adroddiadau yn flynyddolCafodd adroddiadau drafft eu hystyried ar gyfer yr elusennau cofrestredig canlynol:

 

·       Neuadd y Gofeb Rhyfel, Cei Newydd

·       Llyfrgell ac Ystafell Ddarllen Cei Newydd

·       Sefydliad Addysg Goffa COE

·       Cronfa Addysg Ganolradd a Thechnegol Sir Aberteifi, ac

·       Elusen Richard James Thomas

 

Mae canllawiau'r Comisiwn yn nodi y dylid gwneud datganiad byr sy'n datgelu os nad yw ymddiriedolwyr wedi darllen canllawiau'r Comisiwn Elusennau ar fudd cyhoeddus wrth arfer unrhyw bwerau neu ddyletswyddau y byddai'r canllawiau'n berthnasol iddynt.  Mae yna rai sydd heb eu cwblhau, felly argymhellwyd bod holl Aelodau'r Pwyllgor yn darllen ac yn cadarnhau eu bod wedi darllen y canllawiau cyn cyflwyno'r adroddiadau y flwyddyn nesaf.

 

Gofynnodd yr Aelodau bod prawf yswiriant yn cael ei ddarparu gan bob tenant yn flynyddolGofynnwyd hefyd i'r cyfeiriad  at Ysgol Dyffryn Teifi  yng Nghronfa Addysg Ganolradd a Thechnegol Sir Aberteifi gael ei ddiwygio i gyfeirio at Ysgol Bro Teifi.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD ar y canlynol:

1. cymeradwyo'r 5 adroddiad ymddiriedolwyr blynyddol drafft a nodir yn Atodiadau 1-5 o'r adroddiad hwn ac y bydd Cadeirydd y Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusen yn llofnodi a dyddio copïau glân o'r rhain ar ran ymddiriedolwr yr elusen:

2. y bydd holl Aelodau'r Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusen yn darllen dwy ddogfen ganllawiau'r Comisiwn Elusennau (PB2 a PB3) a nodir yn Atodiad 6 yr adroddiad hwn ac yn cadarnhau yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor eu bod wedi darllen y canllawiau.

5.

I dderbyn adroddiad ar Lyfrgell ac Ystafell Ddarllen Cei Newydd - diweddariad pdf eicon PDF 84 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Louise Harries yr adroddiad i'r Pwyllgor gan nodi bod datganiad i'r wasg wedi'i gyhoeddi ar 10 Gorffennaf 2023, a bod swyddogion hefyd wedi cysylltu'n uniongyrchol ag amrywiol sefydliadau a restrir yn yr adroddiad yn gofyn a fyddai gan unrhyw grŵp neu sefydliad ddiddordeb mewn ymgymryd â safle Llyfrgell ac Ystafell Ddarllen Cei Newydd at ddibenion addysgol.

 

Nodwyd fod pum mynegiant o ddiddordeb wedi dod i law, un ohonynt wedi cael ei dynnu'n ôl ers hynny, ac un a oedd yn ymwneud â busnes masnacholDerbyniwyd datganiad pellach o ddiddordeb y tu hwnt i'r dyddiad cau a osodwyd, a oedd hefyd yn ymwneud â busnes masnachol.

 

Cadarnhaodd Louise Harries fod Swyddogion wrthi'n trafod y ceisiadau ar hyn o bryd gyda'r 3 datganiad o ddiddordeb sy'n weddill, o ran uno syniadau, ac y bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno, yn gynnar y flwyddyn nesaf unwaith y bydd y cynigion yn glir ar gyfer penderfynu a yw'r Pwyllgor yn dymuno bwrw ymlaen.

 

NODODD Aelodau'r Pwyllgor yr adroddiad.

6.

I dderbyn diweddariad ar lafar ynghylch Is-Grŵp Tregaron

Cofnodion:

Rhoddodd Louise Harries ddiweddariad llafar i'r Pwyllgor ar gyfarfodydd Is-Grŵp Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau Tregaron.  Nododd fod yr is-grŵp wedi cyfarfod ym mis Medi i drafod cynigion ynghylch sut y dylid gwario'r arianMynychodd Rhydian Harries o Borth Cymorth Cynnar y  cyfarfodydd i ddarparu gwybodaeth am y gwahanol fathau o gaeau astroturf ac agweddau cadarnhaol a negyddol yr arwynebau amrywiol hyn yn ogystal â chyllid a chostau grant posibl, ac i geisio dyheadau'r grŵp o ran lleoliad.

 

Darparwyd dogfen un dudalen i'r aelodau yn amlinellu'r uchod a phrisiau posibl.  Y cam nesaf fydd trefnu cyfarfod pellach o'r is-grŵp er mwyn gallu cyflwyno argymhelliad yn ôl i'r pwyllgor hwn.

7.

I dderbyn adroddiad ar newidiadau arfaethedig i Gylch Gorchwyl y Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau pdf eicon PDF 77 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Louise Harries yr adroddiad i'r Pwyllgor gan nodi bod y newidiadau arfaethedig yn cael eu hargymell i adlewyrchu ffaith bod Is-gadeiryddion y Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau i bob pwrpas yn gwneud mwy nag arsylwi ar y cyfarfodyddByddai'r gwelliannau yn caniatáu i holl Aelodau'r Pwyllgor gymryd rhan mewn cyfarfodydd fel Aelodau llawn.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:

 

Bod Aelodau'r Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau:

1. yn cytuno mewn egwyddor bod Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusen yn cael eu diwygio er mwyn:

a) galluogi Is-gadeiryddion i bleidleisio; a

b) er mwyn:

dileu'r cyfeiriad at Is-gadeiryddion fel "arsylwyr";

dileu'r cyfeiriad at is-gadeiryddion gyda’r hawl i gyflwyno sylwadau;

dileu'r cyfeiriad at Is-gadeiryddion yn cael pleidlais yn absenoldeb y Cadeiryddion; a

c) cadarnhau bod cworwm Pwyllgor Ymddiriedolwyr yr Elusen yn 3 (o'r holl aelodau sy'n pleidleisio).

2. argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo'r diwygiadau uchod i'r Cylch Gorchwyl yn y Cyfansoddiad sy'n ymwneud â statws Is-gadeiryddion.