Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau - Dydd Iau, 29ain Mehefin, 2023 11.30 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Nia Jones 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorwyr Marc Davies a Ceris Jones am eu hanallu i fynychu'r cyfarfod.

 

2.

Datgelu buddiannau personol a buddiannau sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Nododd y Cynghorwyr Rhodri Evans, Wyn Evans a Chris James ddiddordeb personol mewn perthynas ag eitem 4 ar yr agenda.

3.

I gadarnhau cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau a gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2023 aac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r confodion hyny pdf eicon PDF 85 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2023 fel rhai cywir.

 

Materion yn codi

Nododd yr Aelodau eu bod wedi gofyn am fwy o eglurder mewn perthynas â'r llog a dalwyd ar y cyfrifon, ac am ddadansoddiad o'r cyfrifon ar gyfer pob un o'r Elusennau sydd mewn ymddiriedolaeth, gan gynnwys gwerth yr asedau.  Nodwyd y byddai Cyllid yn cael eu gofyn i gynhyrchu adroddiadau ar gyfer y cyfarfod nesaf.

4.

I dderbyn adroddiad ar hen Ysgol Tregaron - is-grŵp pdf eicon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Louise Harries yr adroddiad gan nodi bod ymgynghoriad cyhoeddus wedi'i gynnal eleni am gyfnod o 8 wythnos i ofyn am awgrymiadau gan y cyhoedd ar sut y dylid gwario arian yr ymddiriedolaeth i hyrwyddo addysg plant cyn-ysgol ac oedran ysgol yn Nhregaron.  Nodwyd bod fersiwn 'Hawdd ei Ddarllen' wedi’i ddarparu i blant a'r rhai oedd eisiau cipolwg o’r wybodaeth, a bod yr ymgynghoriad wedi’i hyrwyddo drwy ddatganiad i'r wasg a negeseuon cyfryngau cymdeithasol yn ogystal â chysylltu ag ymgyngoreion penodol yn  ardal Tregaron.  Cyfarfu is-grŵp a oedd yn cynnwys Aelodau'r Pwyllgor hwn ar 23 Mai 2023 i ystyried yr ymatebion ac ystyried argymhellion i'r Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau.

 

Nodwyd bod 25 o ymatebion wedi dod i law, y rhan fwyaf ohonynt yn ymwneud â chyfleusterau chwaraeon. Cefnogwyd y farn hon gan yr Is-Grŵp gydag argymhelliad bod dirprwyaeth yn cael ei roi i swyddogion drafod gyda swyddogion yn y Gwasanaethau Hamdden ac Addysg (Porth Cymorth Cynnar a Gwasanaethau Ysgolion a Diwylliant erbyn hyn), ynghyd â chynrychiolwyr o'r Is-grŵp. 

 

Eglurwyd hefyd y gellid defnyddio'r arian a ddelir mewn ymddiriedolaeth ar gyfer naill ai cyllid cyfalaf neu refeniw , gan nad yw'r Ymddiriedolaeth yn dod o dan yr un gofynion â’r Cyngor. 

 

Nododd yr Aelodau bwysigrwydd cynnal astudiaeth ddichonoldeb er mwyn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sydd ar gael, gan bwysleisio bod hwn yn ddatblygiad cyffrous a hynod bwysig i ardal Tregaron.

 

Yn dilyn trafodaeth, nododd yr Aelodau yr ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus a'r argymhellion gan yr Is-grŵp, a PHENDERFYNWYD yn unfrydol:

a)  Bod swyddogion, ar ran yr Ymddiriedolwyr, yn pennu swyddogion priodol yn y gwasanaethau Porth Cymorth Cynnar ac Ysgolion a Diwylliant i drafod yr opsiynau ynghylch arian grant ar gyfer cyfleusterau chwaraeon; a

b)  Bod yr Is-grŵp, sy'n cynnwys y swyddogion a nodir yn yr argymhelliad uchod ac aelodau presennol yr is-grŵp, yn cwrdd i drafod yr opsiynau ariannu hynny ymhellach gan wneud argymhellion i'r Pwyllgor.

 

5.

I dderbyn adroddiad ar Lyfrgell Cei Newydd a'r Ystafell Ddarllen pdf eicon PDF 101 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Louise Harries yr adroddiad i'r Pwyllgor gan nodi bod ymgynghoriad cyhoeddus wedi'i gynnal o fis Chwefror eleni am gyfnod o 10 wythnos i ystyried cynnig i newid pwrpas yr ased a ddelir mewn ymddiriedolaeth i fod yn 'hyrwyddo addysg trigolion Cei Newydd', gan ofyn, os nad oeddent yn cytuno,  Pa ddefnydd y byddent yn awgrymu bod asedau'r ymddiriedolaeth yn cael eu rhoi tuag ato.

 

Hyrwyddwyd yr ymgynghoriad drwy ddatganiad i'r wasg a'r cyfryngau cymdeithasol, a hysbyswyd ymgyngoreion lleol penodol hefyd o'r ymgynghoriad.  Diolchwyd i Lyfrgell Gymunedol Cei Newydd am  osod poster yn ymwneud â'r ymgynghoriad yn y Llyfrgell a Neuadd Goffa Cei Newydd ac am ganiatáu i fersiynau papur gael eu cadw yn y llyfrgell pe bai defnyddwyr yn dymuno llenwi copïau papur.

 

Nodwyd bod 32 o ymatebion ffurfiol i'r ymgynghoriad yn ogystal â 9 sylw o dan negeseuon Facebook y Cyngor. Roedd dwy ran o dair o'r ymatebwyr yn cytuno â'r cynnig i ddiwygio diben yr ymddiriedolaeth, ac o'r herwydd gall yr ymddiriedolaeth ystyried datrysiad i wneud cais i'r Comisiwn Elusennau i newid pwrpas yr ymddiriedolaeth, ond nodwyd nad oedd thema glir wedi ymddangos o'r ymgynghoriad yn wahanol i Dregaron, a bod nifer o'r ymatebion ddim yn cyfateb â’r diben arfaethedig.

 

Nodwyd hefyd bod arolwg cyflwr wedi cael ei gynnal gan Wasanaethau Eiddo Ceredigion a Chynnal a Chadw Tiroedd, a ganfu nad oedd yr eiddo yn addas i'w ddefnyddio ac y byddai angen buddsoddiad sylweddol. Ar hyn o bryd mae gan yr Ymddiriedolaeth ychydig dros £1,000 mewn arian parod a all fod yn destun treuliau ychwanegol mewn perthynas â datgysylltu trydan, ac fe fydd mwy o wybodaeth yn cael ei ddarparu yn y cyfarfod nesaf.

 

Gan nad yw'r Ymddiriedolaeth felly mewn sefyllfa i wneud y gwaith angenrheidiol, argymhellwyd bod yr Ymddiriedolaeth yn gofyn am farn Cymuned Cei Newydd os oes unrhyw grwpiau, sefydliadau neu unigolion sydd â diddordeb mewn ymgymryd â les yr adeilad, a gwneud cais am arian grant, fel y digwyddodd gyda Neuadd Goffa Cei Newydd .  Nododd yr Aelodau, os nad oedd diddordeb lleol, efallai y bydd angen i'r Pwyllgor ystyried opsiynau eraill ar gyfer ei ddefnydd yn y dyfodol.

 

Yn dilyn trafodaeth, nododd yr Aelodau yr ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus, a  PHENDERFYNWYD cyhoeddi datganiad i'r wasg a chysylltu'n uniongyrchol ag ymgyngoreion penodol (yn debyg i'r rheiny y cyfeirir atynt ym Mharagraff 2.2. yn yr adroddiad hwn) i ofyn i drigolion Ceinewydd a fyddai gan unrhyw grŵp neu sefydliad ddiddordeb mewn ymgymryd â safle’r ymddiriedolaeth at ddibenion addysgol a cheisio arian grant at y diben hwnnw.  Bydd y dyddiad cau ar gyfer ymatebion un mis ar ôl cyhoeddi’r datganiad i’r wasg. Bydd adroddiad yn mynd gerbron cyfarfod nesaf y Pwyllgor. 

 

6.

I dderbyn adroddiad diweddariad ar Neuadd Goffa Cei Newydd 2022-2023 pdf eicon PDF 95 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Louise Harries adroddiad blynyddol diweddariad Neuadd Goffa Cei Newydd 2022-23 i'r Pwyllgor. Nodwyd bod llawer wedi digwydd a'u bod yn gwneud gwaith da iawn.  Ers cyflwyno'r adroddiad, mae Pwyllgor Neuadd Goffa Cei Newydd wedi darparu diweddariad llafar pellach, gan nodi eu bod wedi derbyn £144,000 o’r Gronfa Loteri Genedlaethol a fydd yn hwyluso swydd datblygu llawn amser am 3 blynedd i oruchwylio gweithgareddau a datblygu rhaglen o ddigwyddiadau.

 

Llongyfarchodd yr Aelodau y Pwyllgor ar eu llwyddiant, gan nodi ei bod yn gadarnhaol iawn ac yn galonogol clywed am y llwyddiannau, sy’n dangos yr hyn y gall grŵp ymroddedig o wirfoddolwyr ei gyflawni dros bawb yn eu cymuned. 

7.

Unrhyw Fater Arall

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd Gwyn Wigley Evans i'r Cadeirydd ysgrifennu llythyr at Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ynghylch colli signal yn ystod cyfarfodydd hybrid.