Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Dana Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Dim. |
|
Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu Cofnodion: Dim. |
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau Cofnodion Cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 21 Hydref 2023
fel rhai cywir. Materion
yn codi Dim. |
|
Diweddariad Cyffredinol PDF 232 KB Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i'r Adroddiad diweddariad cyffredinol ar Tacsis a
materion eraill (Anstatudol). Cyflwynwyd yr adroddiad er mwyn rhoi gwybod i’r
Aelodau am weithgaredd yr Adran Drwyddedu ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor a
hefyd i gynghori ar y gwaith cyfredol sy'n cael ei wneud.
Yn dilyn cwestiynau, PENDERFYNWYD: (i)
nodi'r adroddiad er gwybodaeth; a (ii) cymeradwyo'r angen i ddiwygio'r polisïau trwyddedu i
weithredu'r argymhellion a wnaed gan yr Archwiliad Mewnol. |
|
Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd Dr Sarah Jones, Uwch Gynghorydd Iechyd yr
Amgylchedd, Llywodraeth Cymru i'r cyfarfod i roi trosolwg o'r cynllun trwyddedu
gorfodol ar gyfer gweithdrefnau arbennig yng Nghymru ar y cyd â'r adroddiad a
gyflwynwyd. Darparwyd y wybodaeth
ganlynol:- ·
Mae enghreifftiau lawer o’r
risgiau Iechyd Cyhoeddus ac na chaiff eu hysbysu. Caiff hyn ei waethygu gan fframwaith
rheoleiddio sy’n dameidiog. ·
Cynllun Trwyddedu Gorfodol ·
Cyflwyno'r Cynllun Trwyddedu ·
Paratoadau Awdurdodau Lleol ·
Mae ymgysylltu gweithredol ag
awdurdod lleol a rhanddeiliaid y diwydiant yn hanfodol ·
Symud Ymlaen Yn dilyn cwestiynau PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad a'r cyflwyniad er gwybodaeth. |