Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trwyddedu - tacsis a materion eraill (anstatudol) - Dydd Iau, 14eg Gorffennaf, 2022 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Eitemau
Rhif eitem

5.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorwyr Endaf Edwards a Caryl Roberts am fethu â bod yn bresennol yn y cyfarfod.

 

6.

Datgan diddordebau personol/diddordebau sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Dim.

7.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 24 Chwefror 2022 ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion hynny pdf eicon PDF 349 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD cadarnhau fel cofnod cywir gofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd 24 Ebrill 2022.

 

Materion yn codi

Cofnod 7 - Gofynnodd yr Aelodau am gadarnhad bod rhieni/gwarcheidwaid wedi cael eu hysbysu i beidio â rhedeg injan cerbydau heb fod angen tra bod y cerbydau’n sefyll yn eu hunfan ar ffordd gyhoeddus y tu allan i ysgolion. Nodwyd bod y gwasanaeth Addysg wedi hysbysu pob ysgol a bod y neges hon wedi’i rhaeadru i rieni drwy ParentMail. Nodwyd hefyd y dylai’r Uned Cludiant Corfforaethol gael ei hysbysu o’r cais hwn er mwyn dweud wrth gwmnïau bysus i beidio â chadw’r injan yn rhedeg

8.

Diweddariad cyffredinol Tacsis a materion eraill (Anstatudol) pdf eicon PDF 384 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r Adroddiad ar y Diweddariad Cyffredinol ar Dacsis a materion eraill (Anstatudol). Cafodd yr adroddiad ei gyflwyno er mwyn rhoi gwybod i’r Aelodau am weithgarwch yr Adain Drwyddedu ers y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor a hefyd i roi gwybod iddynt am y gwaith sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd.

 

Rhoddwyd diweddariad ar y canlynol:

  • Gwrandawiadau Tacsis - Addasrwydd i gadw Trwydded Yrru Ddeuol
  • Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976
  • Cyfarfod Masnach Tacsis Ceredigion 07/03/2022
  • Adolygu Prisiau Siwrneiau Tacsis
  • Deddf Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat (Pobl Anabl) 2022

 

Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD nodi’r diweddariad a ddarparwyd.

 

9.

Amodau Newydd Trwydded Safleoedd Carafannau Gwyliau pdf eicon PDF 644 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r Adroddiad ar Amodau Newydd Trwydded Safleoedd Carafannau Gwyliau.  Cafodd yr adroddiad ei gyflwyno er mwyn hysbysu’r Aelodau bod yr amodau cyfredol yn fwy na 30 mlwydd oed a bod angen eu gwneud yn gyfredol o leiaf i adlewyrchu’r newidiadau a ddaeth i rym gan Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005. Adroddwyd bod y rhain yn welliant ar yr amodau cyfredol gan eu bod yn fwy cryno, yn symlach ac yn egluro’r gofynion a roddir ar berchenogion safleoedd.

Cawsant eu hystyried a’u drafftio gan aelodau Fforwm Trwyddedu’r Pedair Sir gyda mewnbwn gan yr Awdurdod Tân, a byddent yn arwain y ffordd o ran cael dull cyson ar draws ardal Pedair Sir Dyfed-Powys.

 

Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD

(i) cymeradwyo amodau’r drwydded safonol arfaethedig yn Atodiad C a D yr adroddiad; a

(ii) cymeradwyo’r angen i ymgynghori â’r busnes perthnasol sef deiliaid trwydded presennol safleoedd yn rhan o broses ymgynghori 8-wythnos yn unol â Deddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960.

 

10.

Adroddiad am y ffioedd arfaethedig ar gyfer Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021 pdf eicon PDF 534 KB

Cofnodion:

Adroddwyd bod Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021 (y ddeddfwriaeth) wedi’u cyflwyno i warchod mwy ar les anifeiliaid a werthir yn anifeiliaid anwes.    Mae’r rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i fwy o werthwyr preifat anifeiliaid anwes gael eu trwyddedu i wneud yn siŵr bod diogelwch lles anifeiliaid yn gymwys.    Maent hefyd yn disodli’r ddeddfwriaeth gyfredol o ran trwyddedu Siopau Anifeiliaid anwes.  Mae’r ddeddfwriaeth newydd yn dod â mwy o werthwyr anifeiliaid anwes yn rhan o’r drefn drwyddedu ac felly’n cyflwyno strwythur ffioedd ehangach.  Mae angen cytuno ar y ffioedd newydd hyn er mwyn eu cyflwyno, a thrwyddedu gwerthwyr anifeiliaid anwes.

 

Rhoddwyd cyflwyniad i’r ddeddfwriaeth newydd drwy’r broses Ddemocrataidd yn 2021.  Cafodd y broses o gyfrifo ffioedd ei gwneud ar sail adennill costau’n unig gan ddilyn y broses a ddefnyddir ar draws y swyddogaeth drwyddedu.  Mae adolygiad o awdurdodau eraill wedi canfod bod lefel y ffioedd yn gyson.

 

Cafodd y ffi orfodi ei chynnwys yn ffioedd 2022/2023 er mwyn talu am y gwaith ychwanegol y bu’n rhaid i’r awdurdod ei wneud i ddynodi’r rheiny sy’n gweithredu heb drwydded.  Wrth i’r gweithredwyr nad oedd raid iddynt gael trwydded cyn hyn ymuno, yna bydd yr angen am y ffi hon yn lleihau.  Rhestrir y tâl am ffioedd gorfodi ychwanegol yn y ddeddfwriaeth.

 

Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD

(i) nodi’r adroddiad er gwybodaeth.

(ii) bod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach yn ystyried y ffioedd yn ei gyfarfod nesaf a bod y gwasanaeth yn rhoi enghreifftiau penodol o ffioedd bridwyr cŵn mewn perthynas â’r math o drwydded;

(iii) nodi bod manteision i iechyd geist i gael un torraid yn eu hoes ac na fyddai angen trwydded ar gyfer gwerthiannau yn yr un achos hwnnw; a 

(iv) y byddai’r cyhoedd yn cael gwybod am y gofynion cyfreithiol newydd hyn drwy ddatganiad i’r wasg ac ar blatfform cyfryngau cymdeithasol y Cyngor.