Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Iaith - Dydd Gwener, 15fed Mawrth, 2024 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Neris Morgans 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

i.       Ymddiheurodd y Cynghorydd Rhodri Davies am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

ii.      Ymddiheurodd y Cynghorydd Chris James am y byddai’n hwyr yn ymuno â’r cyfarfod. 

iii.    Estynnodd y Cadeirydd groeso i Carys Lloyd-Jones a dymunodd yn dda iddi yn ei rôl newydd yn Swyddog Polisi Iaith y Cyngor.  

2.

Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu

Cofnodion:

3.

Cadarnhau cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Iaith a gynhaliwyd ar 25 Mai 2023 pdf eicon PDF 94 KB

Cofnodion:

4.

Materion yn codi o'r cofnodion

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd y diweddaraf ar y cynnydd parthed eitem agenda rhif 5:

·       Diolchwyd i aelodau’r staff am eu hymdrechion i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle a chafodd pawb eu hannog i barhau â’r cynnydd hwn

·       Datblygu Strategaeth Hybu’r Gymraeg ar gyfer y cyfnod 5 myned nesaf, yn unol â Safon 145/146- gwaith yn parhau

·       Adolygu Canllaw Asesu Effaith Integredig, er mwyn helpu swyddogion i nodi unrhyw effaith ar y Gymraeg wrth gyflwyno penderfyniadau polisi- wedi’i gwblhau

·       Datblygu prosiect ‘Croeso Ceredigion’ mewn ymgais i geisio cymhathu mewnfudwyr; y gwaith yn deillio o Fforwm Dyfodol Dwyieithog- gwaith yn parhau

·       Datblygu canllaw ar ddefnydd y Gymraeg ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned- i'w ystyried yn y dyfodol

·       Adnewyddu tudalennau ‘Iaith ar Waith’ ar fewnrwyd y Cyngor, cynnwys canllawiau a datblygu deunydd cymorth atodol sydd ei angen i hybu’r Gymraeg ac i gynorthwyo staff i ddefnyddio’r Gymraeg- gwaith yn parhau

·       Prosiect hyrwyddo ymwybyddiaeth o ddiwylliant a Chymreictod mewn cartrefi preswyl- i'w ystyried yn y dyfodol

 

Cafwyd eglurhad o ran nad yw Helo Blod Lleol ar gael mwyach, ond bod y fersiwn genedlaethol yn dal i weithredu. 

5.

Diweddariad ar Strategaeth Hybu’r Iaith Gymraeg 2024-2029 pdf eicon PDF 197 KB

Cofnodion:

Eglurodd y Swyddog Polisi Iaith fod Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 wedi sefydlu fframwaith cyfreithiol i orfodi dyletswyddau ar sefydliadau penodol, gan gynnwys Cyngor Sir Ceredigion i gydymffurfio â safonau mewn perthynas â’r iaith Gymraeg. Roedd Safon 145 yn gosod dyletswydd ar y Cyngor Sir i ddatblygu a chyhoeddi strategaeth 5 mlynedd oedd esbonio sut roedd Cyngor yn bwriadu hybu’r Gymraeg a hwyluso defnydd y Gymraeg o fewn yr ardal ehangach, a hynny drwy gyd-weithio gydag aelodau o Fforwm Iaith Dyfodol Dwyieithog Ceredigion. Fel rhan o’r Strategaeth, roedd yn ofynnol i osod targed ar gyfer cynnal neu gynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg o fewn yr ardal erbyn diwedd y cyfnod 5 mlynedd dan sylw. Roedd y  Strategaeth yn cefnogi  gweledigaeth Llywodraeth Cymru, i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050.

 

Rhoddwyd diweddariad ar Strategaeth Hybu’r Iaith Gymraeg Ceredigion 2024-2029. Nodwyd bod Carys Morgan, y Swyddog Polisi Iaith blaenorol, wedi gwneud llawer o’r gwaith. Roedd y Strategaeth honno yn y broses o gael ei mireinio er mwyn gallu cyflwyno’r Drafft cyntaf i’r Pwyllgor Iaith ar 25 Mehefin 2024.

 

Pennwyd y nod canlynol yn nrafft cychwynnol y Strategaeth newydd:

“Cynyddu defnydd o’r iaith ym mhob agwedd o fywyd y Sir. Ein gweledigaeth yw y bydd y Gymraeg a Chymreictod yn perthyn i bob un yng Ngheredigion ac yn destun balchder ymysg holl drigolion y sir.”

 

Er mwyn gwireddu’r weledigaeth gosodwyd 4 thema strategol – mae Ceredigion yn fan lle mae modd dysgu, byw, perthyn a llwyddo drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd cynllun gweithredu oedd yn gysylltiedig â phob un o'r 4 thema yn cael ei ddatblygu i gefnogi'r gwaith. Yn dilyn cyflwyno’r ddogfen ddrafft i’r Pwyllgor Iaith ym mis Mehefin, bydd y ddogfen yn cael ei chyflwyno i’r Cabinet cyn agor cyfnod o ymgynghori cyhoeddus yn ystod Gorffennaf ac Awst 2024. Y bwriad oedd cyhoeddi’r Strategaeth derfynol ym mis Rhagfyr 2024.

 

Codwyd y prif bwyntiau canlynol yn ystod y trafodaethau:

·       Er mai bach yw’r cynnydd a fwriedir o 267 (1%) o siaradwyr Cymraeg rhwng 2021 a 2029, roedd yn seiliedig ar ddata’r Cyfrifiad. Roedd gosod targed yn allweddol er mwyn sicrhau bod nod i weithio tuag ato. Roedd pryderon ynghylch cywirdeb canlyniadau Cyfrifiad 2021 a ph’un a oedd yn ddarlun cywir o boblogaeth y sir.

·       Ni fyddai toriadau cyllidebol 2024/25 yn cael effaith uniongyrchol ar y Swyddog Polisi Iaith gan nad oedd cyllideb ynghlwm wrth y gwaith. Roedd y gyllideb ar gyfer cyfieithwyr allanol wedi’i chwtogi felly anogir Swyddogion i ysgrifennu’n fwy cryno i leihau llwyth gwaith y gwasanaeth cyfieithu.

 

CYTUNWYD i gymeradwyo bod y ddogfen ddrafft yn cael ei chyflwyno i’r Cabinet cyn agor cyfnod o ymgynghori cyhoeddus yn ystod Gorffennaf ac Awst 2024.

6.

Diweddariad ar ganlyniadau’r Iaith Gymraeg - Cyfrifiad 2021 pdf eicon PDF 962 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd cyflwyniad i’r Pwyllgor yn amlinellu’r canlynol:

·       </AI8>Cyflwyniad

·       Y DAY darlun ar draws Cymru

·       EEWeSiaradwyr Cymraeg yng Ngheredigion 1981- 2021

·       CeredigonCeredigion- Siaradwyr Cymraeg yn ôl oedran a Ward Etholiadol

·       AnArolwg Blynyddol o’r Boblogaeth

·       ConcuCasgliad

 

Codwyd y prif bwyntiau canlynol yn ystod y trafodaethau:

·       Holwyd ynghylch y sampl a ddefnyddiwyd yn yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth a wnaed gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol; cytunodd y Swyddog i rannu'r wybodaeth hon gyda'r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod.

·       Amlygwyd bod Ceredigion ynghyd â siroedd eraill yng Nghymru wedi colli llawer o siaradwyr Cymraeg ifanc i Gaerdydd, felly nid oedd y data a oedd yn awgrymu mai Caerdydd oedd â'r cynnydd mwyaf yng nghanran y siaradwyr Cymraeg yn rhoi darlun cwbl gywir.

·       Roedd y cynnydd o 0.5 pwynt canran yng nghanran y siaradwyr Cymraeg rhwng 16 a 64 mlwydd oed rhwng 2011 a 2021 yn beth cadarnhaol. Gyda chyflwyno Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, gobeithio y byddai cynnydd yn y dyfodol yn nifer y siaradwyr Cymraeg rhwng tair a phymtheg oed. Ystyriwyd bod y Cynllun yn gam sylweddol ymlaen ac roedd yna ymrwymiad gwleidyddol i fwrw ymlaen â hyn mewn pedair ysgol gynradd (Plascrug, Llwyn-yr-Eos, Padarn Sant a Chomins Coch), ac Ysgol Gynradd Ceinewydd hefyd os byddai’r Cabinet yn cymeradwyo ar 19.03.24. Rhoddir cymorth i’r staff wella’u Cymraeg lle bo angen.

·       Mynegwyd pryderon y gallai geiriad cwestiynau am y Gymraeg gael dylanwad ar ganlyniadau arolygon am fod pobl, gan gynnwys dysgwyr, ddim wastad yn hyderus pan ddaw hi i hunanasesu.

·       Gan fod rhieni/gwarcheidwaid wedi cwblhau'r Cyfrifiad ar ran plant/pobl ifanc o dan 16 oed, efallai nad oedd y canlyniadau ar gyfer y Gymraeg yn y categori oedran hwn yn 2021 wedi dal y sefyllfa yn llwyr. Gan fod ysgolion ar gau am gyfnodau yn ystod pandemig COVID-19 efallai fod rhieni/gwarcheidwaid wedi teimlo nad oedd plant/pobl ifanc, yn enwedig y rheiny o deuluoedd di-Gymraeg, mor hyderus yn y Gymraeg ag yr oeddent ynghynt pan oeddent yn mynychu'r ysgol bob dydd.

·       Canmolwyd rhieni/gwarcheidwaid di-Gymraeg a oedd yn dewis anfon eu plant i addysg cyfrwng Cymraeg, ac roedd yn allweddol darparu cymorth i’r teuluoedd hyn.

 

CYTUNWYD i nodi’r wybodaeth.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Mari Hopkins am ddod i’r cyfarfod ac am roi cyflwyniad cynhwysfawr i’r Pwyllgor.

7.

Adroddiad Blynyddol Theatr Felinfach 2023-2024 pdf eicon PDF 143 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i Adroddiad Blynyddol Theatr Felinfach ar gyfer 2023-24. Roedd Theatr Felinfach yn cynnal a datblygu miloedd o gyfleoedd celfyddydol mewn blwyddyn. Defnyddiwyd dulliau addysg anffurfiol a disgyblaethau drama, dawns, ffilm a theatr dechnegol a datblygwyd cyfleoedd a phrofiadau oedd yn hybu creadigrwydd, sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth o ddiwylliant a chelfyddyd Cymru a’r byd.

 

Er ein bod wedi symud ymlaen bedair blynedd ers dechrau’r pandemig, COVID-19, roedd effaith y cyfnodau clo dal yn amlwg mewn nifer o feysydd, gan gynnwys y celfyddydau. Roedd Tîm Artistig Theatr Felinfach wedi gweld, ers 2022 effaith y pandemig ar unigolion a grwpiau o gyfranogwyr. Ymhlith plant a phobl ifanc, gwelwyd bod diffyg hyder yn amlwg mewn nifer, gwelwyd hefyd bod y diffyg profiad o weithio mewn grŵp, wyneb yn wyneb wedi cael effaith ar gyfranogwyr hefyd. Roedd cyfranogi mewn disgyblaethau theatr a chelfyddydau yn datblygu hyder personol, hyder corfforol i symud mewn gofod/llwyfan, hyder i ddefnyddio llais ac i gyfrannu syniadau – o brofiad y Theatr, roedd gwaith i’w wneud gyda phartneriaid, ysgolion a mudiadau, i adfer ac adeiladu’r hyder hynny. Er yr heriau, roedd wedi bod yn gyfnod cyffrous wrth i’r galw am waith cyfranogi gynyddu yn gyffredinol. Rhoddwyd trosolwg o uchafbwyntiau 2023-24 fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Ers ysgrifennu’r adroddiad, cafodd Theatr Felinfach gadarnhad eu bod nhw wedi llwyddo i gael cyllid ‒ yn dilyn cais i gronfa Llwyddo’n Lleol- Arfor – i gynnig profiad gwaith ar leoliad. Dyma gyfle pwrpasol i unigolyn gael profiad o wahanol elfennau cynyrchiadau creadigol.

 

Cyfeiriwyd at y lleihad yng nghyllid Cyngor Celfyddydau Cymru o 2.5% i bob grant, yn dilyn adolygiad, a hefyd at Ddatblygu Adnoddau Theatr Felinfach a Staffio, fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Codwyd y prif bwyntiau canlynol yn ystod y trafodaethau:

·       Gwnaeth yr Aelodau ganmol pawb yn Theatr Felinfach am eu hymroddiad a’u llwyddiant wrth arwain ar y celfyddydau creadigol, ac roedd yn braf gweld rhaglen lawn o ddigwyddiadau unwaith eto yn dilyn pandemig COVID-19.

·       Er bod Cyngor Celfyddydau Cymru wedi lleihau cyllid grantiau, nid oedd yr effaith ar Theatr Felinfach mor fawr ag yr ydoedd i eraill yn y portffolio.

·       Yn dilyn cyfarfod ar 05/03/24 gyda chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, y bwriad oedd cyflwyno adroddiad a chynllun i wella  adnoddau’r Theatr.

 

CYTUNWYD i dderbyn yr adroddiad fel cofnod o weithgaredd Theatr Felinfach a’i nod o hybu’r defnydd o’r Gymraeg a’i diwylliant drwy raglenni cyfranogi celfyddydol.

8.

Adroddiad Blynyddol Cered – Menter Iaith Ceredigion pdf eicon PDF 183 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd cyflwyniad i’r Pwyllgor yn amlinellu’r canlynol:

·       Nod Cered

·       Cyfraniad Strategol

·       Cyllid

·       Strwythur a Staffio

·       Partneriaid

·       Targedau 2024-25

·       Themâu ac Uchafbwyntiau (Plant, Pobl Ifanc, Y Gymuned, Dysgwyr a Seilwaith)

·       Crynodeb

 

Tynnwyd sylw at y ffaith fod cymryd rhan yn Ras yr Iaith yn drwm ar adnoddau a bod rhan fawr o gyllideb Cered yn mynd tuag at ei chefnogi. Codwyd hyn gyda Llywodraeth Cymru ac er ei bod eisiau i awdurdodau lleol ei chefnogi, dywedodd Aled Richards yn ddiweddar bod hynny’n ddewisol i bob awdurdod lleol. Gan nad oedd Ras yr Iaith yn dathlu unrhyw beth yn benodol ac nad oedd dyddiad penodol iddi, ystyrir yn ofalus p’un ai i gymryd rhan yn y digwyddiad nesaf oherwydd roedd hi’n hanfodol fod cyllid yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol.

 

CYTUNWYD i dderbyn yr adroddiad blynyddol fel cofnod o waith Cered yn ystod y cyfnod dan sylw ac yn nodi gwaith y Fenter wrth hyrwyddo a datblygu defnydd y Gymraeg yng Ngheredigion.

9.

Hybu hyder a hyrwyddo'r Gymraeg a Chymreictod yn y gweithle pdf eicon PDF 123 KB

Cofnodion:

Esboniodd y Swyddog Polisi Iaith mai un o’i dyletswyddau oedd trefnu gweithgareddau er mwyn hybu a hyrwyddo arloesedd a gwelliant parhaus fel safbwynt o gynyddu’r Gymraeg yn y gweithle. Gall gynnwys gweithgareddau arferol i godi hyder cydweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg. Ym mis Ionawr creuwyd cylchlythyr electronig i ddathlu Diwrnod Santes Dwynwen ac agorwyd y linc 352 o weithiau.

 

Yn dilyn trafodaeth gyda Steffan Rees, Arweinydd Tîm Cered a Huw Owen, Swyddog Hyfforddi Cymraeg Gwaith, datblygwyd cylchlythyr electronig misol o’r enw GWENA ‘Mae’n ddydd Gwener’. Bydd yn cael ei gyhoeddi ar CERINET yn unig ar ddydd cyntaf bob mis, gyda’r cylchlythyr cyntaf wedi’i gyhoeddi ar 1 Mawrth 2024. Bydd y cylchlythyr gobeithio yn ffordd o hyrwyddo’r Gymraeg o fewn y gweithle ac yn fodd i’r gweithwyr oedd yn Dysgu Cymraeg gyda Huw ymarfer ei sgiliau gwrando, darllen ac ysgrifennu Cymraeg. Bydd adolygiad o’r cylchlythyr o fewn 4/5 mis drwy holiadur byr.

 

Prif nod y cylchlythyr oedd hyrwyddo’r Gymraeg a Chymreictod mewn amrywiaeth o ffyrdd drwy hybu gweithgareddau CERED – gigs/digwyddiadau amrywiol a.y.y.b gan sicrhau linc rhwng y tiwtor, y dysgwyr, siaradwyr llai hyderus, Cymry Cymraeg gweithle Cyngor Sir Ceredigion, CERED a’r Swyddog Polisi Iaith.

 

Dywedodd y Cadeirydd ei bod yn gobeithio y byddai'r fideos ar sut i ynganu geiriau Cymraeg o fudd i bawb. Anogwyd yr aelodau i gymryd sylw o'r cylchlythyr electronig.

 

CYTUNWYD i nodi’r adroddiad ac i barhau i ddatblygu ac esblygu hwn gan werthuso’r adnodd mewn 4 i 5 mis.

10.

Blaenraglen Waith

Cofnodion:

Awgrymwyd yr eitemau canlynol gan Aelodau'r Pwyllgor:

·       Strategaeth Hybu’r Iaith Gymraeg Drafft 2024-2029 (Mehefin 2024)

·       Cyflwyniad ar Fframwaith ALTE + Cymraeg yn y gweithle (Mehefin 2024)

·       Adroddiad ar gyfrifon Cyfryngau Cymdeithasol Ceredigion (Tachwedd 2024)

·       Diweddariad Polisi Enwi a Rhifo Strydoedd (Tachwedd 2024)

·       Diweddariad ar Hybu hyder a hyrwyddo'r Gymraeg a Chymreictod yn y gweithle (Tachwedd 2024)

11.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor

Cofnodion:

·       Eglurodd y Cadeirydd ei bod wedi derbyn e-bost gan y Cynghorydd Keith Evans ym mis Awst 2023 i dynnu sylw at y ffaith nad oedd opsiwn i nodi eich bod yn ddinesydd ‘Cymreig’ wrth wneud cais i bleidleisio mewn etholiadau, dim ond opsiwn dinesydd ‘Prydeinig’ neu 'Arall'. Deallwyd bod y ffurflenni wedi'u creu gan y Comisiwn Etholiadol. Cytunwyd y byddai'r mater hwn yn cael ei godi gyda'r Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Gwasanaethau Democrataidd er mwyn cael ymateb ffurfiol.

 

Ychwanegodd y Cadeirydd bod y Cynghorydd Keith Evans wedi mynegi pryder hefyd ei bod hi’n anodd nodi cyfeiriadau Cymraeg gyda’r Post Brenhinol gan arwain at anhawster wrth ddefnyddio cyfeiriadau ar-lein. Gan fod hyn yn cael ei ystyried yn fater cenedlaethol, cytunodd y Swyddog Polisi Iaith i gyfeirio’r mater hwn i Gomisiynydd y Gymraeg.

 

·       Holodd y Cynghorydd Gwyn Wigley Evans a oedd digon o gymorth yn cael ei ddarparu i aelodau staff yr awdurdod lleol er mwyn iddynt ddysgu Cymraeg, a sut y gellid eu hannog i ddefnyddio'r iaith yn y gweithle.

 

Awgrymodd y Cadeirydd y gellid ystyried y mater hwn yn y cyfarfod nesaf ac y gellid gofyn i'r swyddogion perthnasol roi diweddariad ar y sefyllfa.