Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Rhif | eitem |
---|---|
Personal Cofnodion: Croesawodd y cadeirydd bawb i’r
cyfarfod. Estynnwyd cydymdeimlad â theulu
Cen Llwyd yn dilyn ei farwolaeth. |
|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Dim. |
|
Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu Cofnodion: Dim. |
|
Cadarnhau cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Iaith a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd 2021 Cofnodion: CADARNHAWYD bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a
gynhaliwyd ar 22 Tachwedd 2022 yn gywir. |
|
Cylch Gorchwyl Pwyllgor Iaith Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i Gylch
Gorchwyl y Pwyllgor Iaith. CYTUNWYD i gymeradwyo’r ddogfen fel y’i cyflwynwyd. |
|
Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg 2021-22 Cofnodion: Rhoddodd y Swyddog Iaith fraslun o fframwaith gyfreithiol Mesur y Gymraeg
(Cymru) 2011 a’r gofynion i lunio Adroddiad Monitro Safonau’r Gymraeg. Soniodd y Swyddog am brif gyflawniadau 2021-2022 a nodwyd yn yr adroddiad,
sef: Ø Arloesi, gan addasu’n gyflym i argyfwng y Coronafeirws, drwy drefnu cyfarfodydd democrataidd yn
rhithiol, gydag adnoddau cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg. Roedd hyn
yn sicrhau bod y Cyngor yn medru gwarchod y defnydd y Gymraeg mewn cyfarfodydd
cyhoeddus. Ø Sicrhau bod gwasanaeth gofal cwsmer Clic Ceredigion yn
cynnig gwasanaethau Cymraeg yn rhagweithiol ar y pwynt cyswllt cyntaf; a’u bod yn
cofnodi’r dewis iaith hwnnw at ddibenion ymwneud â’r cwsmer eto. Ø Ffrydio cyfarfodydd y Cabinet a’r Cyngor ar Facebook –
defnyddio’r platfform Cyfryngau Cymdeithasol i hysbysu fod ffrwd Gymraeg a
Saesneg ar gael. Cafodd y ffrwd Gymraeg
(prif iaith y cyfarfodydd) ei darlledu ar y cyfrif Facebook gyda’r gwasanaeth
cyfieithu ar y pryd yn cyflwyno’r cyfieithiad Saesneg gan hyrwyddo’r egwyddor o
ddefnyddio’r Gymraeg mewn gweinyddiaeth gyhoeddus. Ø Defnyddio diwrnodau penodol yn y calendr cenedlaethol i
godi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg, trefnu gweithgareddau rhithiol ar Ddydd
Gŵyl Dewi, Dydd Miwsig Cymru, a Diwrnod Hawliau’r Gymraeg. Ø Cynnal gweithdy Fforwm Dyfodol Dwyieithog, er mwyn
adolygu lle’r ydym wedi cyrraedd gyda Strategaeth Iaith Ceredigion, gan
ystyried hefyd beth yn rhagor fydd angen ei wneud er mwyn paratoi ar gyfer y
Strategaeth ddilynol. Nododd y Swyddog Iaith fod Comisiynydd y Gymraeg,
yn ei Adroddiad Sicrwydd ‘Cau’r Bwlch’, yn gosod disgwyliad ar y Cyngor i hunanreoleiddio ei berfformiad ar sail gofynion Safonau’r
Gymraeg. Gyda chydsyniad y Grŵp Arweiniol, fe wnaethom gynnal adolygiad o
ddetholiad o Safonau sy’n ymwneud ȃ darparu gwasanaeth, yn ogystal ȃ
rhai o’r Safonau Gweithredu sy’n ymwneud ȃ gweinyddiaeth fewnol. Gofynnwyd
i bob Swyddog Arweiniol Corfforaethol sgorio ei wasanaeth yn ôl elfennau o’r
Safonau Iaith, mewn ymgais i fesur cydymffurfiaeth ar hyn o bryd. Y prif ganfyddiad oedd bod y Cyngor yn perfformio yn eithaf da ar sail
gofynion y Safonau sy’n ymwneud ȃ darparu gwasanaethau sylfaenol. Hynny
yw, gall defnyddwyr fod yn hyderus o gael gwasanaeth dros y ffôn, gwasanaeth
ysgrifenedig, a gwasanaethau y gellir cynllunio ar eu cyfer yn Gymraeg. Mae
defnyddiwr yn llai tebygol o gael gwasanaethau mwy personol neu wasanaeth wyneb
yn wyneb yn y Gymraeg. Er bod y Cyngor yn anelu at barchu dewis iaith y
defnyddwyr, mae’n ddibynnol iawn ar yr arbenigedd sydd ei angen a’r sgiliau
iaith sydd ar gael ar wahanol shifftiau.
Mae’r canfyddiad hwn yn unol ȃ’r
canfyddiadau cenedlaethol sydd wedi’u casglu gan Gomisiynydd y Gymraeg:
Adroddiad Sicrwydd ‘Cau’r Bwlch’. Yn dilyn y gwaith hunanreoleiddio
hwn hysbyswyd y bydd adolygiad o gynllun gweithredu Safonau’r Gymraeg a fydd o
fudd o ran cynllunio gwaith ar gyfer y cyfnod nesaf. Roedd yr adroddiad hwn yn nodi cynnydd y Cyngor wrth gyflawni gofynion Safonau’r Gymraeg ynghyd ȃ chyflwyno data penodol ar gyfer blwyddyn ariannol 2021-22. Adroddwyd y gellir bod yn falch o’r cynnydd ond bod gwelliannau i’w gwneud o hyd wrth ddarparu gwasanaethau’r Cyngor yn Gymraeg. Fodd bynnag, roedd cyfnod y ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|
Adborth ar Sesiwn Ymwybyddiaeth Iaith a Safonau'r Gymraeg (10 Mehefin) Cofnodion: Dywedodd y Swyddog Iaith fod y sesiwn wedi bod yn llwyddiannus a bod 26 o Gynghorwyr yn bresennol. Roedd y materion a drafodwyd yn cynnwys cynllunio ieithyddol at y dyfodol a pholisi iaith. Dywedodd aelodau'r Pwyllgor fod y sesiwn wedi bod yn llawn gwybodaeth a gwnaethant ddiolch iddi am ei gwaith. |
|
Canllaw Cynnal Cyfarfodydd Dwyieithog Cofnodion: Roedd yr Aelodau i gyd wedi
croesawu'r ddogfen ac yn cytuno y dylai gael ei chylchredeg ledled y Cyngor i
hyrwyddo cyfarfodydd dwyieithog. |
|
Cofnodion: Adroddwyd y byddai'r Holiadur yn cael ei lenwi cyn y cyfarfod nesaf am fod y dyddiad cau ar gyfer ei gyflwyno ym mis Gorffennaf. Fodd bynnag, bydd copi o'r ymateb yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod hwnnw |
|
Blaenraglen Waith Cofnodion: Dywedodd y Swyddog Iaith y
byddai'r agenda ddrafft yn cael ei hanfon at y Cadeirydd cyn y cyfarfod ac y
byddai modd ychwanegu/tynnu ymaith eitemau bryd hynny. Hefyd cytunwyd â’r canlynol:
|
|
Unrhyw Fusnes Arall Cofnodion: Dim. |