Lleoliad: o bell trwy fideo-gynhedledda
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd Mr Steffan Jones, Swyddog Rheoli
Cyfeiriadau am na allai fynychu'r cyfarfod. |
|
Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu. Cofnodion: Dim. |
|
Cadarnahu Cofnodion Cyfarfod 17 Mai 2021 Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau yn gofnod cywir gofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Mai 2021 |
|
Materion yn codi o'r cofnodion Cofnodion: Dim. |
|
Adroddiad Llafar ar y Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg drafft a Throchi Cofnodion: Yn gyntaf, rhoddwyd y diweddaraf am Gynllun drafft
Strategol y Gymraeg mewn Addysg. Dywedwyd bod yr ymgynghoriad wedi dod i ben
ganol mis Tachwedd a bod y sylwadau a'r argymhellion bellach wedi'u casglu i'w
cyflwyno fel adroddiad i'w ystyried i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau
sy’n Dysgu ar 15 Rhagfyr 2021. Fodd bynnag, roedd dogfen i fod i gael ei
chyhoeddi ar gategoreiddio ysgolion yn ôl iaith yng nghanol mis Rhagfyr.
Bellach byddai angen newid yr amserlen i fwrw ymlaen â'r cynllun trwy'r broses
ddemocrataidd i ddechrau'r flwyddyn newydd, i adlewyrchu nad oedd dogfen
Llywodraeth Cymru ar gael tan ganol mis Rhagfyr. Fodd bynnag, hyd yma roedd disgwyl am adroddiad
ymgynghori oddi wrth Lywodraeth Cymru Mewn perthynas â'r
trochi Iaith dywedwyd, yn dilyn rhith-ddysgu, fod yr addysgu bellach wedi
dychwelyd i'r ystafell ddosbarth yn dilyn hanner tymor yr hydref yn Felin-fach
(roedd 12 o ddisgyblion yn mynychu), Aberteifi (roedd 10 disgybl yn mynychu) ac
Aberystwyth (roedd 8 disgybl yn mynychu) gyda dosbarthiadau'n cael eu cynnal
bum niwrnod yr wythnos yn lle pedwar i leddfu problemau gyda rheoliadau covid
ar gyfer y disgyblion. Roedd rhestr aros o 10 hefyd i fynychu cyfleuster
Aberteifi. Arhoswyd am gadarnhad hefyd ar y grant Trochi Iaith oddi wrth
Lywodraeth Cymru i gynorthwyo Blwyddyn 7, Blwyddyn 2 gyda'u sgiliau Cymraeg ac
i gynyddu'r ddarpariaeth rithwir yn y Sir ar wasanaeth Hwb yn genedlaethol. Yn dilyn cwestiynau o'r llawr, cytunwyd i longyfarch y
gwasanaeth ar ei waith yn ystod yr amser anodd hwn a llongyfarch Arweinydd Tîm
Cymorth y Gymraeg ar ei gwaith yn cael ei ganmol yn fawr gan ESTYN. |
|
Adroddiad Llafar ar y Siarter Iaith, dathliadau a Facebook Cofnodion: Rhoddwyd y diweddaraf ar y Siarter Iaith,
dathliadau a gwaith Facebook. Rhoddodd y
Swyddog wybodaeth am lawer iawn o weithgareddau a digwyddiadau a gynhaliwyd i
hyrwyddo'r Gymraeg yn ein hysgolion. Yn dilyn cwestiynau o'r llawr, llongyfarchwyd Swyddog
Cymorth y Gymraeg ar ei gwaith a'i brwdfrydedd. |
|
Adroddiad ar hyfforddiant Cymraeg i staff yn ystod y cyfnod clo Cofnodion: Ystyriwyd yr Adroddiad ar Hyfforddiant Cymraeg
Staff yn ystod y cyfnod clo. Amlinellwyd y wybodaeth ganlynol:-
Yn dilyn cwestiynau o'r llawr, CYTUNWYD i longyfarch y Swyddog a'r staff
ar Hyfforddiant y Gymraeg a chyflawniadau. . |
|
Adroddiad Blynyddol - Theatr Felinfach Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i Adroddiad Blynyddol Theatr
Felin-fach ar waith y Theatr yn ystod 2020/21 a oedd wedi canolbwyntio ar
ddatblygu gweithgareddau creadigol, digidol i sicrhau bod cyfleoedd i drigolion
o bob oed yng Ngheredigion a thu hwnt glywed, defnyddio a dathlu'r Gymraeg a'i
diwylliant. Rhoddwyd rhestr o'r gweithgareddau digidol hyn i gynnwys platfform
Dychmygus, Gŵyl yr Enfys, Bore da Drama, prosiectau Cadw Cyswllt. Hysbyswyd yr aelodau hefyd o'r Gwersi a ddysgwyd o
weithredu’n ddigidol, Nawr a'r dyfodol a Heriau i'r theatr. Yn dilyn cwestiynau o'r llawr, CYTUNWYD i dderbyn
adroddiad blynyddol Theatr Felin-fach a nodi gwaith y theatr fel darparwr
arbenigol celfyddydau cymunedol sy'n hyrwyddo'r Gymraeg a dwyieithrwydd ac yn
canolbwyntio ar adfer ac ailsefydlu gweithgareddau cymdeithasol Cymraeg a
dwyieithog ar gyfer trigolion Ceredigion. Llongyfarchodd yr aelodau’r Theatr
hefyd ar eu gwaith yn ystod yr amser anodd hwn. |
|
Adroddiad Blynyddol Cered Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i Adroddiad Blynyddol Cered.
Dywedwyd y bu newidiadau i strwythurau
rheoli'r Fenter yn ystod y cyfnod. Roedd y Fenter yn rhan o Is-adran Diwylliant
y Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant o dan arweinyddiaeth y Swyddog Arweiniol
Corfforaethol, Meinir Ebbsworth. Ym mis Tachwedd 2020 penodwyd Rheolwr Cered yn
Rheolwr Corfforaethol – Diwylliant, mae rhai o ddyletswyddau a chyfrifoldebau
Rheolwr Cered yn rhan o'r rôl honno. Penodwyd Arweinydd Tîm Cered newydd hefyd.
Rhoddwyd y wybodaeth
ganlynol:-
Yn
dilyn cwestiynau o'r llawr, CYTUNWYD i dderbyn yr adroddiad blynyddol fel
cofnod o waith Cered yn ystod y cyfnod dan sylw a nodi gwaith y Fenter wrth
hyrwyddo a datblygu'r defnydd o'r Gymraeg yng Ngheredigion. Llongyfarchodd yr
aelodau Cered ar eu gwaith yn ystod yr amser anodd hwn. |
|
Enw llefydd Ceredigion Cofnodion: Ystyriwyd yr adroddiad ar enwau lleoedd Ceredigion. Gan fod yr adroddiad wedi'i
drafod mewn cyfarfodydd blaenorol dros gyfnod o amser, CYTUNWYD i argymell y cyflwyniadau i'r Cabinet i'w
cymeradwyo'n derfynol. |
|
Eitemau Comisiynydd y Gymraeg - er gwybodaeth - Holiadur
hunan-asesu - Adroddiadau
5 mlynedd Comisiynydd y Gymraeg Sefyllfa’r Gymraeg 2016–20: Adroddiad 5-mlynedd Comisiynydd
y Gymraeg Llywodraeth Cymru yn nodi trefniadau pum mlynedd nesaf
Cymraeg 2050 | LLYW.CYMRU - Adroddiad
sicrwydd 2020-21 – ‘Camu ymlaen’ https://www.comisiynyddygymraeg.cymru/media/lzthr1qm/20210922-dg-c-camu-ymlaen-adroddiad-sicrwydd-2020-21-terfynol.pdf Welsh Language Commissioner Items - for information Cofnodion: Rhoddwyd crynodeb o'r adroddiadau canlynol a
CHYTUNWYD i nodi’u cynnwys:- ·
Holiadur hunanasesu ·
Adroddiadau 5 mlynedd
Comisiynydd y Gymraeg ·
Adroddiad sicrwydd 2020-21
– ‘Camu ymlaen’ Gofynnwyd am gadarnhad a oedd bellach yn bosibl
atal perchnogion tai rhag newid enw Cymraeg gwreiddiol eu hannedd i un Saesneg.
Dywedwyd, yn anffodus nad oedd hyn yn bosibl; ac mai'r unig broses a oedd gan y
Cyngor ar hyn o bryd i’w hannog i gadw'r Enw Cymraeg oedd trwy anfon llythyr at
berchennog y tŷ oddi wrth y Swyddog Rheoli Cyfeiriadau. Byddai cyngor
cyfreithiol hefyd yn cael ei geisio pe bai'n bosibl i eiddo unwaith iddo gael
ei adeiladu fod yn cynnwys cyfamod yn ei weithred a oedd yn nodi y dylai enw
Cymraeg yr annedd barhau. Byddai'r
cwestiynau hyn hefyd yn cael eu codi yng nghyfarfod y Cyngor Tref a Chymuned y
noson honno ar ran Cynghorau Cymuned Llanllwchaearn a Llandysiliogogo gan y
Cynghorydd Gareth Lloyd. |
|
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor |