Agenda

Pwyllgor Safonau a Moeseg - Dydd Mercher, 1af Mai, 2024 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Lisa Evans 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

2.

Datgelu Buddiannau Personol / Buddiannau sy'n Rhagfarnu

3.

Eitem gyfrinachol

Mae’r Swyddog Monitro wedi penderfynu bod Categori 8 o’r Rheolau Gweithdrefnau Mynediad at Wybodaeth yn berthnasol i’r adroddiad canlynol (eitem 4 a 5). Ar ôl ystyried darpariaeth Rheol 11.8 Rheolau Mynediad at Wybodaeth y Cyngor, ei barn ar brawf lles y cyhoedd oedd y byddai gwneud y wybodaeth hon yn gyhoeddus yn datgelu gwybodaeth ar unigolyn penodol ac y byddai’n caniatáu i wybodaeth fynd i’r parth cyhoeddus cyn i’r unigolyn gael cyfle i gyflwyno sylwadau yn ei chylch. Mae’r ffactorau hyn yn ei barn hi yn drech na’r budd o ddatgelu’r wybodaeth i’r cyhoedd ar hyn o bryd.

Gofynnwyd i aelodau ystyried y ffactorau hyn wrth benderfynu ar y prawf budd y cyhoedd, y mae’n rhaid iddynt benderfynu yn ei gylch wrth ystyried:

• a ddylai’r eitem eithriedig barhau i fod wedi’i heithrio, ac

• a ddylid gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod.

 

4.

Atgyfeiriad oddi wrth Ombwdsmon Cymru

Nid yw’r adroddiad sy’n ymwneud â’r eitem uchod i’w gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym mharagraff 12 a 13 Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Lywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor, ar ôl cymhwyso’r Prawf Lles y Cyhoedd yn penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat, bydd y cyhoedd a’r wasg yn cael eu gwahardd o’r cyfarfod yn unol ag Adran 100B(2) o’r Ddeddf.

 

Wrth ddelio â’r eitemau, gofynnir i Aelodau ystyried a ddylid gwahardd y cyhoedd a’r wasg o’r Cyfarfod.

 

Dogfennau ychwanegol:

5.

Atgyfeiriad oddi wrth Ombwdsmon Cymru

Nid yw’r adroddiad sy’n ymwneud â’r eitem uchod i’w gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym mharagraff 12 a 13 Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Lywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor, ar ôl cymhwyso’r Prawf Lles y Cyhoedd yn penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat, bydd y cyhoedd a'r wasg yn cael eu gwahardd o’r cyfarfod yn unol ag Adran 100B(2) o’r Ddeddf.

Wrth ddelio â’r eitemau, gofynnir i Aelodau ystyried a ddylid gwahardd y cyhoedd a’r wasg o’r Cyfarfod.

 

Dogfennau ychwanegol: