Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Lisa Evans
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Dim. |
|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Dim. |
|
Declaration of personal / prejudicial interest Cofnodion: Dim. |
|
Cadarnhau cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Moeseg a Safonau a gynhaliwyd ar 16 Hydref 2024 Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar
16 Hydref 2024 yn gywir yn amodol ar y mân ddiwygiadau fel a ganlyn:-
|
|
Cadarnhau cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Moeseg a Safonau a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd 2024 Cofnodion: |
|
Materion yn Codi Cofnodion: Materion
yn codi - Cofnodion 16/10/24 Cofnod 4 – Gofynnodd y Cadeirydd a oedd presenoldeb Arweinwyr y Grŵp
yng nghyfarfod 15 Tachwedd yn ychwanegol at eu presenoldeb blynyddol. Adroddwyd
y cytunwyd y byddai’r Arweinwyr Grwpiau nawr yn mynychu cyfarfod mis Hydref yn
flynyddol yn hytrach na mis Ionawr oherwydd ymrwymiadau dyddiadur. Cofnod 13- Adroddwyd y byddai’r hyfforddiant ar gyfer Cyngor Tref a
Chymuned hefyd yn cael ei gofnodi er mwyn dosbarthu i Gynghorwyr nad oeddent
wedi mynychu trwy Glerc Cynghorau Tref a Chymuned. Cofnod 16- Adroddwyd y byddai templed asesu cydymffurfiaeth arweinydd y
Grŵp Gwleidyddol yn cael ei adolygu yng nghyfarfod mis Gorffennaf. Materion
yn codi - Cofnodion 15/11/24 Adroddwyd bod cyfarfod wedi’i drefnu ar gyfer 17 Ionawr 2025 i adolygu’r
Weithdrefn Gwrandawiad yn dilyn y gwrandawiad diweddar a gynhaliwyd. |
|
Cofnod o Gamau Gweithredu Cofnodion: |
|
Diweddariad ar faterion Panel Dyfarnu Cymru Cofnodion: CYTUNWYD i nodi’r cynnwys. |
|
Diweddariad y Swyddog Monitro o'r Cod Ymddygiad - Chwarter 3 2024/2025 Cofnodion: CYTUNWYD i nodi’r cynnwys ynghyd â’r nodyn gan Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus Cymru ddyddiedig 9 Rhagfyr 2024 sy’n ymdrin â’r dull o rannu
penderfyniadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i beidio ag ymchwilio i
gwynion Cod Ymddygiad a dderbyniwyd yn seiliedig ar ddarpariaethau S69(2) o
Ddeddf Llywodraeth Leol 2000. Byddai’r wybodaeth hon hefyd yn cael ei gylchredeg gan y Swyddog Monitro
i Arweinwyr y Grŵp. |
|
Diweddariad yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: CYTUNWYD i nodi’r cynnwys ynghyd â’r nodyn gan Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus Cymru ddyddiedig 9 Rhagfyr 2024 sy’n ymdrin â’r dull o rannu penderfyniadau
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i beidio ag ymchwilio i gwynion Cod
Ymddygiad a dderbyniwyd yn seiliedig ar ddarpariaethau S69(2) o Ddeddf
Llywodraeth Leol 2000. Byddai’r wybodaeth hon hefyd yn cael ei gylchredeg gan y Swyddog Monitro
i Arweinwyr y Grŵp. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i ymgynghoriad yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
Cymru a’r ymatebion a dderbyniwyd. CYTUNWYD ar y canlynol: i)
byddai'r ymatebion yn cael eu cyfeirio
at y Panel Aelodau Ymgynghori Corfforaethol er mwyn cyflwyno ymateb cyfunol gan
y Cyngor i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. . |
|
Hunanwerthusiad y Pwyllgor Moeseg a Safonau 2023/2024 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i hunanwerthusiad y Pwyllgor Moeseg a Safonau. CYTUNWYD ar y canlynol : i)Byddai Aelodau’n anfon cwestiynau/nodiadau cymorth diwygiedig ar gyfer
yr holiadur ar y Swyddog Cefnogi Safonau Craffu; i’w ystyried gan y Pwyllgor |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: CYTUNWYD nodi cynnwys y Blaenraglen Waith i’r Dyfodol fel y’i cyflwynwyd yn amodol ar
nodi bod dyddiadau ychwanegol ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol bellach ar gael ar
21 Mai, 16 Gorffennaf a 15 Hydref 2025. Eitemau i’w hystyried fel
a ganlyn:- 21 Mai 2025 – Adroddiad Blynyddol Moeseg a
Safonau 2024/25 16 Gorffennaf – Adolygu
templed cydymffurfiaeth Arweinwyr Grŵp 15 Hydref – Presenoldeb
Arweinwyr Grwpiau mewn cyfarfod a Hunanwerthuso Adroddwyd hefyd y byddai
Gweithdy gydag Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol yn cael ei drefnu cyn y Cyfarfod
Cyffredinol Blynyddol ar 16 Mai 2025, a byddai ail weithdy yn cael ei gynnal
ddiwedd mis Mai, dechrau mis Mehefin. Bydd dyddiadau’n cael eu trefnu maes o
law. |
|
Ystyried unrhyw gais arall am ollyngiad a dderbyniwyd ers cyhoeddi'r agenda Cofnodion: Dim. |