Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Lisa Evans
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd Ms Carol Edwards a Ms Llinos James
am na fedrent ddod i’r cyfarfod. |
|
Datgelu Buddiannau Personol / Buddiannau sy'n Rhagfarnu Cofnodion: Dim. |
|
Eitem gyfrinachol Mae’r Swyddog Monitro wedi penderfynu
bod Categori 8 o’r Rheolau Gweithdrefnau Mynediad
at Wybodaeth yn berthnasol i’r adroddiad canlynol (atodiad
3 a 4 o eitem 4). Ar ôl ystyried darpariaeth
Rheol 11.8 Rheolau Mynediad at Wybodaeth y Cyngor, ei barn ar brawf lles
y cyhoedd oedd y byddai gwneud
y wybodaeth hon yn gyhoeddus yn datgelu
gwybodaeth ar unigolyn penodol
ac y byddai’n caniatáu i wybodaeth fynd
i’r parth cyhoeddus cyn
i’r unigolyn gael cyfle i
gyflwyno sylwadau yn ei chylch.
Mae’r ffactorau
hyn yn ei
barn hi yn drech na’r budd o ddatgelu’r
wybodaeth i’r
cyhoedd ar hyn o bryd. Gofynnwyd i
aelodau ystyried y ffactorau hyn wrth
benderfynu ar y prawf budd y cyhoedd,
y mae’n rhaid iddynt benderfynu yn ei gylch
wrth ystyried: • a ddylai’r eitem eithriedig barhau i fod wedi’i
heithrio, ac • a ddylid gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod. Cofnodion: Roedd y Dirprwy Swyddog Monitro wedi penderfynu bod Categori 8 Gorchymyn
Mynediad at Wybodaeth (Amrywio) (Cymru) 2007 yn berthnasol i'r adroddiad a
ganlyn (atodiad 3 a 4 o eitem 4). Ei barn ar brawf lles y cyhoedd (ar ôl
ystyried darpariaethau Rheol 11.8 o Reolau Mynediad at Wybodaeth y Cyngor) oedd
y byddai gwneud y wybodaeth hon yn gyhoeddus yn datgelu gwybodaeth yn ymwneud
ag unigolyn penodol ac yn caniatáu i wybodaeth ddod yn gyhoeddus cyn bod yr
unigolyn wedi cael cyfle i wneud sylwadau yn ei chylch. Roedd y ffactorau hyn
yn ei barn hi yn drech na lles y cyhoedd wrth ddatgelu'r wybodaeth ar hyn o
bryd. Gofynnwyd i'r aelodau ystyried y ffactorau hyn wrth benderfynu ar brawf
lles y cyhoedd, y mae’n rhaid iddynt benderfynu arno wrth ystyried a: •
ddylai'r eitem eithriedig barhau i fod wedi’i heithrio,
ac •
a ddylid gwahardd y cyhoedd a'r wasg o'r cyfarfod. CYTUNODD y Pwyllgor: i)
bod prawf lles y cyhoedd o gynnal yr eithriedig wedi'i
fodloni. ii)
y dylai atodiad 3 a 4 o eitem 4 barhau i fod yn
eithriedig. iii)
i wahardd y cyhoedd a’r wasg o’r Pwyllgor yn ystod
ystyriaeth o’r fath, yn unol â Rhan 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol
1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Mynediad at Wybodaeth (Amrywio) (Cymru)
2007. |
|
Nid yw atodiad 3 a 4 sy’n ymwneud â’r eitem uchod i’w gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym mharagraff 12 Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Lywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor, ar ôl cymhwyso’r Prawf Lles y Cyhoedd yn penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat, bydd y cyhoedd a’r wasg yn cael eu gwahardd o’r cyfarfod yn unol ag Adran 100B(2) o’r Ddeddf. Wrth ddelio â’r eitemau, gofynnir i Aelodau ystyried a ddylid gwahardd y cyhoedd a’r wasg o’r Cyfarfod. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Nid oedd atodiad 3 a 4 sy’n ymwneud â’r eitem uchod i’w
gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym
mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i
diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio)
(Cymru) 2007. CYTUNODD y Pwyllgor: (i)
mai'r gweithdrefnau sydd i'w mabwysiadu gan y Pwyllgor
Moeseg a Safonau wrth gyflawni ei swyddogaethau a gwneud ei benderfyniad yw'r
rheini sydd wedi’u hymgorffori yn Rhan 5 Dogfen S o Gyfansoddiad Cyngor Sir
Ceredigion, sydd ynghlwm wrth yr Adroddiad hwn (Atodiad 1). (ii)
i ystyried adroddiad Ombwdsmon y Gwasanaethau Cyhoeddus
yn dwyn dyddiad 12 Ionawr 2024 (Atodiad 3), mewn perthynas â Chynghorydd, a (iii)
i wneud ei benderfyniad cychwynnol yn unol â Rheoliad 7 o
Reoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a
Phwyllgorau Safonau (Cymru) 2001). Rheswm dros y penderfyniad: Cydymffurfio â’r gofynion o dan Reoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol
(Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001. Gadawodd y Pwyllgor i drafod yn breifat. Roedd y Dirprwy Swyddog Monitro yn bresennol i gynghori'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaethau gan y Pwyllgor, dychwelodd y Pwyllgor, y cyhoedd, y
wasg a Swyddogion i’r sesiwn gyhoeddus. Cadarnhaodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi PENDERFYNU fel a ganlyn: Eitem 4: 1)
ar ôl ystyried Adroddiad Ymchwiliad yr Ombwdsmon yn dwyn
dyddiad 12 Ionawr 2024 (Atodiad 3) bod tystiolaeth a allai fod yn gyfystyr â
methiant i gydymffurfio â’r cod ymddygiad i roi cyfle i’r Cynghorydd Sir
gyflwyno sylwadau, naill ai ar lafar neu’n ysgrifenedig mewn cyfarfod yn y
dyfodol mewn perthynas â chanfyddiadau’r ymchwiliad ac unrhyw honiad ei fod ef
neu hi wedi methu, neu y gallai fod wedi methu, â chydymffurfio â’r cod
ymddygiad yn unol â’r gweithdrefnau a fabwysiadwyd uchod. Rheswm dros y penderfyniad: Cydymffurfio â'i rwymedigaethau yn unol â Rheoliad 7 (b) o Reoliadau
Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau
Safonau) (Cymru) 2001. 2)
rhoi pŵer dirprwyedig i'r Dirprwy Swyddog Monitro,
mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, i gadarnhau dyddiad gwrandawiad terfynol, gan
ystyried yr ymatebion gan y Cynghorydd (a'r Swyddog Ymchwilio os oes angen) ar
argaeledd. Rheswm dros y penderfyniad: Cydymffurfio â’i rwymedigaethau o dan Reoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth
Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001. Miss C Davies (Cadeirydd) Pwyllgor Moeseg a Safonau Cyngor Sir Ceredigion |