Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Nia Jones
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y Cynghorwyr
Elaine Evans a Ceris Jones am nad oedd modd iddynt fod yn bresennol yn y
cyfarfod; Ymddiheurodd Mr Barry Rees am
nad oedd modd iddo fod yn bresennol yn y cyfarfod am ei fod ar ddyletswydd
arall ar ran y Cyngor. |
|
Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu Cofnodion: Ni ddatgelwyd dim buddiannau. |
|
Cyheoddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: a) Yr Athro Syr John Edmunds OBE ar gael ei urddo’n
farchog gwyryf am ei wasanaeth i faes epidemioleg; b) Shann Jones ar dderbyn MBE am ei gwasanaeth i elusennau
ac arloesedd; c) Robin Varley ar dderbyn OBE am ei wasanaeth i griced
yng Nghymru; d) Stevie Williams ar ennill cymal olaf y ‘Tour Down
Under’ i sicrhau ei fod yn ennill y ras gyfan; e) Siwan Owen, Coleg Gelli Aur ar ennill disgybl LANTRA y
flwyddyn; f) Llongyfarchiadau i’r holl fusnesau bach sydd
wedi’u sefydlu yng Ngheredigion a phob dymuniad da iddynt i’r dyfodol. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd am
10.00yb ar 14 Rhagfyr 2023, a Chyfarfod Arbennig y Cyngor a gynhaliwyd am
2.00yp ar 14 Rhagfyr 2023, yn gywir. Nid oedd dim mater yn codi. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Gareth Davies, Aelod o'r Cabinet dros Gyllid a Chaffael, yr
adroddiad gan nodi - yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau Treth y Cyngor
a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 - fod rhwymedigaeth statudol i gyflwyno’r
adroddiad i’r Cyngor llawn yn flynyddol, hyd yn oed os na fu unrhyw newid i’r
cynllun ers y flwyddyn flaenorol. Ers diddymu
Budd-dal y Dreth Gyngor ym mis Ebrill 2013, nododd fod y cyfrifoldeb o drefnu
cymorth Treth y Cyngor i'r rhai ar incwm isel wedi’i drosglwyddo o'r Adran
Gwaith a Phensiynau (DWP) i awdurdodau lleol a bod Llywodraeth Cymru wedi
cymeradwyo dwy set o reoliadau sy'n rhagnodi prif nodweddion y cynllun sydd i'w
mabwysiadu gan bob Cyngor yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn talu
mwyafrif cost taliadau'r Cynllun Gostyngiadau Treth y Gyngor ond mae dal yn
ofyniad sylweddol i Gynghorau dalu cost taliadau sy'n fwy na chyfraniad
Llywodraeth Cymru. Mae’r gost a amcangyfrifwyd ar gyfer 23/24 oddeutu £6.5m
felly mae tua £1.3m o gostau nad ydynt yn cael eu cydnabod gan Lywodraeth Cymru
yn y Setliad Cyllid i Lywodraeth Leol. Yn dilyn
pleidlais PENDERFYNWYD i: 1. Nodi gwneud
Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r
Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2024; 2. Mabwysiadu
darpariaethau'r Rheoliadau Gofyniad Rhagnodedig (2013) fel Cynllun
Gostyngiadau'r Dreth Gyngor y Cyngor ar gyfer 2024/25, yn amodol ar y
disgresiwn lleol y gall y Cyngor eu harfer fel y nodir isod: (i) Parhau i gymhwyso
diystyriaeth 100% y tu hwnt i’r £10 statudol ar gyfer Pensiwn Anabledd Rhyfel,
Pensiwn Rhyfel Gwŷr Gweddw a Phensiwn Rhyfel Gwraig Weddw, ar gyfer
pensiynwyr a’r rheiny sy’n hawlio tra’n oed gweithio. (ii) Peidio
â chynyddu'r cyfnodau talu estynedig ar gyfer pensiynwyr a hawlwyr oedran
gweithio o'r 4 wythnos safonol sydd wedi'u cynnwys yn y Cynllun Rhagnodedig ar
hyn o bryd. (iii) Peidio
â chynyddu'r cyfnod ôl-ddyddio ar gyfer pensiynwyr a hawlwyr oedran gweithio
o'r 3 mis safonol a gynhwysir yn y Cynllun Rhagnodedig. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu i’r Cynghorydd Bryan
Davies, Arweinydd ac Aelod o’r Cabinet dros y Gwasanaethau Democrataidd,
Polisi, Perfformiad a Phobl a Threfniadaeth, gyflwyno’r adroddiad i’r Cyngor
gan nodi bod Deddf Gweinyddu Etholiadol 2006, fel y’i diwygiwyd, wedi cyflwyno
dyletswydd ar bob awdurdod lleol ym Mhrydain i adolygu eu dosbarthiadau
etholiadau a’u mannau pleidleisio o leiaf unwaith bob pum mlynedd. Nododd fod
adroddiad wedi’i gyflwyno i’r Cabinet ar 5 Medi 2023 lle cytunwyd i gychwyn yr
adolygiad gorfodol ar 2 Hydref 2023, gyda chyfnod yr ymgynghoriad yn dod i ben
ar 10 Tachwedd 2023. Nododd fod adolygiad
rhagarweiniol wedi’i gynnal o’r dosbarthiadau etholiadol, y mannau pleidleisio
a’r gorsafoedd pleidleisio presennol yn ardal Ceredigion gyda’r bwriad o brofi
eu haddasrwydd, a nodi unrhyw ddewisiadau eraill posibl lle bernir eu bod yn
addas. Wrth asesu’r trefniadau presennol, ystyriwyd lleoliad, maint, argaeledd
a hygyrchedd y mannau a’r gorsafoedd pleidleisio. Derbyniwyd 16 ymateb i’r
ymgynghoriad ffurfiol a gellir eu gweld yn Atodiad A ynghyd â sylwadau a
chynigion y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol). Nododd y Cynghorydd Bryan
Davies fod ymateb hwyr wedi dod i law, ar ôl cyhoeddi'r agenda, oddi wrth
Neuadd Bentref Llwyncelyn yn nodi y byddent yn fodlon darparu’r neuadd fel
gorsaf bleidleisio yn unig ar ddiwrnod yr etholiad. Ar ôl ystyried yr ymateb
hwyr hwn, ac os bydd yr argymhelliad diwygiedig yn cael ei gymeradwyo,
cynigiodd fod yr argymhelliad i symud yr orsaf bleidleisio o Neuadd yr Eglwys
yn Llanarth i'r Ysgubor ar Fferm Bargoed yn cael ei dynnu’n llwyr o'r
argymhellion ar ddiwedd yr adroddiad. Eglurodd Eifion Evans, Prif
Weithredwr a Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) fod Festri Capel Llwyncelyn wedi
cael ei ystyried yn anaddas fel Gorsaf Bleidleisio, a bod Pwyllgor Neuadd y
Pentref wedi mynnu parhau â gweithgareddau eraill yn y Neuadd ar ddiwrnod yr
etholiad, ac nad oedd modd gwarantu defnydd ecsgliwsif
o’r adeilad ar ddiwrnod yr etholiad. Dywedodd y Cynghorydd Marc Davies
fod sicrwydd wedi’i anfon gan Bwyllgor Neuadd Bentref Llwyncelyn y byddai’r
orsaf bleidleisio yn cael defnydd ecsgliwsif ac na
fyddai gweithgareddau eraill yn cael eu cynnal yn y Neuadd yn ystod etholiadau.
Cadarnhawyd hyn gan Lowri Edwards, Swyddog Arweiniol Corfforaethol y
Gwasanaethau Democrataidd. Holodd y Cynghorydd John
Roberts a fyddai'r adeilad wrth ochr Ysgol Comins Coch ar gael, gan fod yr
adeilad bellach ar gau. Cadarnhaodd Eifion Evans mai Cyngor Sir
Ceredigion sy'n berchen ar yr adeilad ac felly ni fyddai'r cau yn effeithio
arno. Nododd y Cynghorydd Euros
Davies ei fod yn ymwybodol o'r ymgynghoriad ond nad oedd ef a'r Cyngor Cymuned
wedi rhoi ymateb. Nododd fod pryderon wedi'u codi ynghylch trosglwyddo'r
Orsaf Bleidleisio o Neuadd Eglwys Llanwnnen i Ysgol Cwrtnewydd, a allai gael
effaith ar y nifer a bleidleisiai am fod pleidleiswyr Llanwnnen yn tueddu i
gerdded i bleidleisio. Gofynnodd a fyddai modd ystyried ‘Y Grannell’ fel
lleoliad amgen. Eglurodd Eifion Evans nad oedd yr Orsaf Bleidleisio yn Neuadd Eglwys Llanwnnen yn foddhaol ac nad oedd yn bodloni gofynion Deddf Etholiadau 2022. Cynigir bod yr Orsaf Bleidleisio yn cael ei symud i Ysgol Cwrtnewydd oherwydd diffyg opsiynau yn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|
Aelodaeth y Cyngor a Pwyllgorau'r Cyngor PDF 104 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau aelodau Pwyllgorau'r Cyngor fel y’u cyflwynwyd
yn y cyfarfod. |